Tad seren rygbi wedi peswch yn wyneb dynes yn ystod Covid

Kevin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Davies ydy perchennog Ceir Cawdor, sydd â chwe safle yng ngorllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd dyn busnes yn gorfod talu dros £26,000 i gyn-aelod o staff am besychu'n fwriadol yn ei hwyneb yn ystod y pandemig.

Clywodd tribiwnlys fod Kevin Davies, sy'n dad i'r seren rygbi Gareth Davies, wedi "gwawdio a chodi ofn" ar y ddynes, oedd yn poeni am ei hiechyd.

Roedd Mr Davies, 62, wedi gwneud hwyl am ben y ddynes - oedd yn gweithio i'w gwmni gwerthu ceir ac eiddo - yn y dyddiau cyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, ar ôl iddi rannu ei phryderon am ei hiechyd gyda chydweithwyr.

Roedd y ddynes wedi gofyn i gydweithwyr ar safle Ceir Cawdor yng Nghastellnewydd Emlyn i ddilyn argymhellion arbenigwyr a chadw pellter gan fod ganddi fath o arthritis a chyflwr sy'n effeithio ar ei himiwnedd.

Ond dywedodd y barnwr cyflogaeth, Tobias Vincent Ryan fod Mr Davies wedi "pesychu i'w chyfeiriad hi yn fwriadol ac yn swnllyd, gan ddweud ei bod hi'n ymddwyn yn wirion".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y ddynes ymddiswyddo o Ceir Cawdor yng Nghastellnewydd Emlyn lai na thri mis ar ôl y digwyddiad

Dywedodd y barnwr bod Mr Davies wedi "gwawdio a chodi ofn" arni'n fwriadol ar 17 Mawrth 2020 - wythnos cyn i'r cyfnod clo cyntaf ddechrau.

Clywodd y gwrandawiad bod y ddynes wedi gweithio i gwmni Ceir Cawdor o 2017 tan 2020. Mae gan y cwmni chwe safle yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd y barnwr fod aelodau eraill o dîm rheoli'r cwmni wedi clywed yr hyn ddigwyddodd ar y diwrnod dan sylw ond eu bod nhw wedi ymddwyn yn "amddiffynnol" wrth roi tystiolaeth yn y gwrandawiad.

Clywodd y tribiwnlys bod y ddynes wedi cwyno'n "chwyrn" am y digwyddiad a'i bod wedi ymddiswyddo llai na thri mis yn ddiweddarach.

Digwyddiad 'dychrynllyd'

Dywedodd y barnwr bod y digwyddiad yn "ffactor sylweddol" wrth wneud ei phenderfyniad i ymddiswyddo.

"Roedd hi'n teimlo ei bod hi'n cael ei gwthio'n araf [o'r gwaith] oherwydd ei chwynion. Roedd hi'n gywir."

Dyfarnodd y barnwr y bydd y ddynes yn derbyn £26,438.84 gan Ceir Cawdor a Mr Davies.

Mewn datganiad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd y ddynes ei bod hi "ar bigau'r drain" ers y digwyddiad "dychrynllyd".

Dywedodd: "Roedd [Mr Davies] yn gwybod bod gen i gyflwr meddygol... ac fe dagodd yn fwriadol yn fy wyneb.

"Roeddwn i'n crynu... mi wnaeth e wirioneddol effeithio arna i."

Pynciau cysylltiedig