Canfod twnnel 'coll' yn seler tafarn yn Y Felinheli

Cafodd 10,000 o boteli alcohol eu canfod yn y twnnel, gyda'r mwyafrif yn dyddio o'r 1990au neu'r 2000au cynnar
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion tafarn yng Ngwynedd yn dweud eu bod "mewn syndod" ar ôl dod o hyd i dwnnel cudd yn y seler.
Roedd un o berchnogion Yr Heulyn yn Y Felinheli, Robert Bennett, wrthi'n gwneud gwaith adnewyddu pan welodd fwtres yn y wal a dynnodd ei sylw.
Ar ôl gwneud twll yn y wal, gwelodd fod ystafell fawr gyda dros 10,000 o boteli alcohol dros 20 oed ynddi.
Mae Rob a'r tri pherchennog arall wedi bod yn adnewyddu'r dafarn ers prynu'r marina cyfan y llynedd.
Nawr maen nhw'n gweld cyfle arall i ehangu ar y gofod ychwanegol, ond yn rhagweld y bydd yn "fuddsoddiad a hanner!"
Fideo o'r foment y cafodd y twnnel ei ddarganfod
Cafodd yr harbwr a'r adeiladau eu codi ym 1763 gan deulu'r Assheton Smith, perchnogion Ystâd y Faenol gerllaw.
Roedd angen porthladd i gludo llechi o Chwarel Dinorwig - un o chwareli lechi fwyaf y byd ar y pryd.
Aeth marina'r Felinheli i ddwylo'r gweinyddwyr y llynedd, ac fe welodd Rob a'i ffrindiau hyn fel cyfle iddyn nhw ei ailwampio.
"Roedd cyflwr yr harbwr wedi dirywio'n sylweddol, ac roedd yn anffodus gweld hyn," meddai.
"Pan 'nes i glywed y byddai'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, 'nes i droi at fy ffrindiau a gofyn iddyn nhw os bydden nhw'n awyddus ei brynu gyda fi."

Roedd Robert Bennett (ail o'r dde), Andrew Barton, Charles Cogger a Scott Metcalfe (ddim yn eu trefn) yn falch iawn o'r cyfle i adfywio'r harbwr
Fel rhan o The Waterside Consortium, aeth y pedwar ati i brynu'r marina eu hunain, gyda'r bwriad o'i adnewyddu fel prosiect personol.
Roedd menter gymdeithasol wedi ceisio prynu'r marina, ond ni chafodd y cynnig ei gymeradwyo, ac yn fuan wedyn fe gafodd The Waterside Consortium y cyfle i brynu'r porthladd.
"Er ein bod wedi buddsoddi gymaint o arian mewn i'r safle, a chwblhau gymaint o waith yn barod, mae'n rhywbeth rydyn ni'n mwynhau cael gwneud," meddai Rob.
"Roedd tad Scott [un o'r pedwar] yn borthfeistr am flynyddoedd, ac mae Scott yn saer llongau ym Mhorth Penrhyn ym Mangor.
"Maen nhw wedi hen arfer adeiladu a thrwsio cychod ers blynyddoedd - mae'n rhedeg yn y teulu mewn gwirionedd.
"'Rydyn ni'n ystyried yr holl beth fel buddsoddiad am yr hir-dymor - mae cychod hanesyddol a chael eu trwsio nhw yn rhywbeth rydyn ni'n angerddol dros wneud, felly mae hyn yn hwyl i ni."
'Y gwaith yn mynd y tu hwnt i'r dafarn'
Cafodd rhan gyntaf tafarn Yr Heulyn ei hagor fis Gorffennaf y llynedd, a'r ail ran ei hagor yng nghanol gemau'r Chwe Gwlad yn gynharach eleni.
"Rydym eisiau rhoi sylw i bob rhan o'r marina, ond yn amlwg mae agor y dafarn wedi bod yn allweddol i'r gymuned," meddai Rob.
"Mae wedi'i lleoli yn lle y bu La Marina yn flaenorol - yr hen far tapas.
"Roedd yn rhaid i fanno gau am fod y to yn gollwng dŵr yn ôl be dwi'n ddeall.
"Felly 'dyn ni wedi ailwampio'r safle'n gyfan gwbl, ac wedi gosod to newydd ar yr adeilad."
Mae Rob yn gobeithio y bydd y twnnel yn rhoi sylw i weddill y gwaith maen nhw wedi'i gwblhau yn y Marina.
"Mae'n gwaith ni'n mynd y tu hwnt i'r dafarn - 'dyn ni hefyd wedi ailadeiladu giât y porthdy, ac wedi gosod bwrdd llong newydd a chôt o baent drosto."

Cafodd y porthladd ei werthu y llynedd i The Waterside Consortium, busnes y pedwar perchennog
Nid Rob sy'n berchen ar y twnnel, ond mae'n awyddus i weld os oes modd iddyn nhw ei adnewyddu mewn rhyw ffordd er budd y cyhoedd.
"Ni all neb gael mynediad at agoriad y twnnel heb ddod drwy'r Heulyn - ond dydyn ni ddim yn siŵr iawn pwy sydd berchen arno," meddai.
Dywedodd Rob fod hanesydd wedi dweud wrtho ei fod yn credu bod agoriad y twnnel wedi cael ei gau am fod sôn y bu pobl yn cysgu neu chwarae ynddo yn y gorffennol.
Roedd Rob yn gwybod fod twnnel yn agos at y dafarn, ond nid oedd yn disgwyl iddo fod yn rhan o'i seler.
"Dydyn ni ddim gwybod beth yw ein hawliau, a byddai ailwampio'r twnnel yn broses gostus iawn - prosiect am y dyfodol o bosibl, ond un cyffrous."
Speakeasy neu dyfu madarch?
Ychwanegodd: "Byddai'n dda gallu creu rhyw fath o Speakeasy, neu seler gwrw - hyd yn oed rhyw arddangosfa neu amgueddfa statig i'r cyhoedd - cyfuniad o bob dim efallai!
"Mae'r twnnel yn dywyll ac yn llaith, a bydden ni'n gallu tyfu madarch yno pe bai hynny o ddiddordeb i rywun! Dim ein bod am wneud hynny chwaith.
"Mae gennym ni bethau eraill yr hoffen ni eu blaenoriaethu - mae doc hanesyddol i'w gael ym mhendraw'r system ddociau sydd heb ei gweithredu ers y 90au.
"Bydden ni'n hoff o gwblhau gwaith adnewyddu arni er mwyn gallu ei rhoi ar waith unwaith eto."