Sglefrfyrddio fel TGAU yn deimlad 'mor hapus' wedi ymgyrch
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen yn ei arddegau a ymgyrchodd dros gynnwys sglefrfyrddio fel camp mewn arholiad TGAU addysg gorfforol yng Nghymru, yn dweud ei fod yn falch o’i weld yn cael ei ychwanegu at y rhestr.
Er bod y newyddion yn rhy hwyr i Osian George, sy’n 15 ac o Gwm Gwendraeth, mae’n gobeithio y bydd y newid yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc.
Yr wythnos hon ychwanegodd Cymwysterau Cymru 13 o gampau at y rhestr ar gyfer TGAU addysg gorfforol, gan gynnwys BMX, saethu, cic-focsio a thonfyrddio (wakeboarding).
Bydd y newidiadau yn dod i rym o fis Medi 2026.
Ers mis Mehefin y llynedd, mae’r corff wedi gweithio gyda grwpiau'n cynnwys athrawon, hyfforddwyr a bwrdd arholi CBAC, i greu’r rhestr newydd o gampau y bydd dysgwyr yn dewis ohoni wrth gwblhau’r asesiad TGAU.
Dechreuodd Osian sglefrfyrddio pan oedd bum mlwydd oed. Y llynedd fe ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth yn y gamp yng Nghaerdydd.
Dywedodd: “Fi’n hapus iawn eu bod nhw wedi caniatáu hyn, fi’n credu bydd e’n rhoi llawer rhagor o gyfleoedd i sglefrfyrddwyr ifanc.
“Mae ddim di bod yn hir iawn ers i ni ddechrau gofyn am hyn i ddigwydd, o' ni ddim yn meddwl bydde’n digwydd mor gyflym â hyn, a fi mor hapus.
“Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda fy mod wedi helpu i wneud i hyn i ddigwydd.
“Mae’n fy siomi bach achos cefais i ddim y cyfle a fi wedi colli mas, ond fi mor hapus gallai pobl ifanc nawr gael y cyfle, a bydd e’n rhoi mwy o opsiynau iddyn nhw yn y dyfodol.”
Mae’r newid yn golygu mai Cymru yw’r ail wlad yn y DU i gynnwys sglefrfyrddio, y tu ôl i Ogledd Iwerddon.
Dywedodd Sam Horler, arweinydd Cymru gyda Skateboard GB ei fod yn “hen bryd" cynnwys y gamp.
“Rwy’n gyffrous iawn am y newyddion hyn oherwydd mae’n gydnabyddiaeth wych o’r ffaith bod angen chwaraeon amgen, nid yn unig sglefrfyrddio ond rhai o’r rhai eraill a ddaeth i mewn hefyd,” meddai.
“Rwy’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i bobl, ar gyfer iechyd, ar gyfer lles, i gymunedau ac mae’n mynd i fod yn brofiad llawer mwy hwyliog yn gwneud eu TGAU hefyd.”
Dywedodd fod ei waith yn ymwneud â “meithrin talent ifanc, addawol” yn y gamp, a’i fod yn gobeithio y byddai’r cyhoeddiad yn helpu i dyfu’r gamp ymhellach.
“Mae’r Gemau Olympaidd eisoes wedi cael yr effaith honno, rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn sglefrfyrddio, a byddwn yn gobeithio y byddai hyn yn mynd ymlaen i chwyddo’r effaith honno hyd yn oed ymhellach."
Cafodd y gamp ei chynnwys am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn 2020.
Yn ôl Claire Roberts, pennaeth ymgysylltu strategol Cymwysterau Cymru, mae’r newid yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion.
“Fe fydd yn gweithio yn debyg iawn i fel mae’n gweithio ar hyn o bryd. Mae nifer o fyfyrwyr yn dewis pwnc sgïo fel eu pwnc diddordeb unigol nhw, a felly yn aml iawn beth sy' 'di digwydd yw mae’r myfyrwyr eisoes yn gwneud y pynciau yma fel gweithgaredd tu allan i’r ysgol.
“Ac felly pan maen nhw’n cael y cyfle i gael cymwyster yn rhywbeth maen nhw’n dda ynddo, pam ddim rhoi y cyfle i rheiny sy' ddim yn gwneud pêl-droed neu rygbi ond rhywbeth gwahanol.
“Beth sydd yn dueddol o ddigwydd fel y rhan yma o’r cwrs, mae i gyd yn cael ei wneud fel asesiad di-arholiad. Mae’r athro yn edrych ar beth sydd angen ei wneud a beth mae’r myfyriwr wedi dangos o fod yn dda yn y maes hynny.”
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Esboniodd Osian fod gallu dewis sglefrfyrddio ar lefel TGAU yn caniatáu amser ac adnoddau ychwanegol i sglefrfyrddwyr ifanc i feithrin eu sgiliau, tra hefyd yn hybu eu gallu academaidd gyda rhywbeth y maent eisoes wedi rhoi llawer o ymdrech iddo.
“O ystyried bod pêl-droed a thenis eisoes wedi’u cynnwys, roedd gan bobl a oedd yn cymryd rhan yn y chwaraeon hynny y cyfleoedd hynny, ond nid oedd gan bobl fel fi,” meddai.
“Rwy’n hoffi gweld pobl newydd yn dod i dreial sglefrfyrddio ac os oes rhywun newydd byddai bob amser yn ceisio helpu nhw.
"Fe ddechreuon ni i gyd yn rhywle, roedden ni i gyd yn ddechreuwyr.”