Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Croatia 0-3 Cymru
- Cyhoeddwyd
Enillodd Cymru eu gêm olaf ond un yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 yn erbyn Croatia nos Wener.
Wedi gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Wcráin ym mis Mehefin, roedd angen buddugoliaeth ar dîm Rhian Wilkinson i leihau'r pwysau ar frig Grŵp B4.
Aeth Cymru ar y blaen yn yr 14eg funud gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi gan Jess Fishlock.
Roedd Cymru'n gyfforddus am weddill yr hanner cyntaf, yn rheoli'r meddiant a'n profi golgeidwad Croatia sawl gwaith.
Daeth yr ail gôl 20 munud fewn i'r ail hanner gydag ergyd oddi ar y postyn gan Sophie Ingle, ac fe seliodd y tri phwynt gyda chic o'r smotyn hwyr gan Kayleigh Barton.
Mae Cymru'n arwain y grŵp o ddau bwynt, gyda gêm gartref yn erbyn Cosofo nesaf dydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024