Oriel: Gorymdaith Pride yn dod i Fôn

Gorymdaith Pride yn teithio drwy ganol tref Llangefni
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf erioed roedd tref Llangefni ar Ynys Môn yn cynnal gŵyl Pride Gogledd Cymru.
Dyw'r dathliadau yng Nghymru erioed wedi gadael y tir mawr, ond ers 2021 mae'r ŵyl wedi bod yn un deithiol, ers cael ei chynnal ym Mangor yn flynyddol ers 2012.
Yng nghanol y glaw daeth dros 200 o bobl ynghyd i orymdeithio drwy strydoedd y dref ac i fwynhau cerddoriaeth fyw a digwyddiadau celfyddydol.
Aeth Arwyn 'Herald' Roberts yno ar ran BBC Cymru Fyw i ddal y cyfan drwy lygaid ei gamera.

Er gwaethaf y glaw, fe wnaeth tua 200 o bobl fentro allan i gerdded

Roedd 'Leather Men Cymru' wedi teithio i fyny o'r de i fod yn Llangefni

Axel Roxxanne o dref gyfagos Caergybi

Roedd Mair a Lucy o Bentraeth, oedd wedi bod yn rhan o gyfres Priodas Pum Mil ar S4C, wedi teithio yno gyda'u merch

Dylan Huw, Elgan Rhys a Nico'r ci o Gaernarfon

Daeth criw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru allan i fwynhau'r digwyddiad, mewn gwisg fwy lliwgar na'r arfer

Roedd AS Ynys Môn, Llinos Medi wedi ymweld â'r digwyddiad, ynghyd â'r actor Gwion Morris a'i deulu

Roedd Jamie a Matthew wedi teithio o Fae Colwyn i fod yn bresennol

Roedd sawl ymbarel lliwgar i'w gweld ar hyd yr orymdaith wrth i'r glaw ddisgyn yn drwm yn Llangefni

Roedd criw o staff o archfarchnad leol wedi troi allan gyda'u ymbarels i oroesi'r glaw

Gethin, Reece, Huw a Greg o Ynys Môn yn mwynhau peint yn y glaw yn Llangefni
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023