Pride Cymru: 'Dal gwaith i'w wneud' wrth ddathlu'r 25

PrideFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl dros 50,000 o bobl yn Pride Cymru y penwythnos hwn

  • Cyhoeddwyd

Mae Pride Cymru yn dathlu 25 mlwyddiant y penwythnos hwn.

Wedi ei sefydlu ym 1999, dyma benwythnos mwyaf Cymru o ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ond er bod y digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, dywedodd Stifyn Parri - sydd wedi mynychu pob Pride Cymru - fod "dal gwaith i'w wneud" o ran sicrhau cydraddoldeb.

Mae disgwyl tua 50,000 o bobl yn rhan o'r digwyddiad yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Stifyn Parri yw un o gyflwynwyr Pride Cymru

Un sydd wedi bod ym mhob dathliad Pride Cymru yw'r cyflwynydd ac actor Stifyn Parri, ac mae bellach yn un o gyflwynwyr y digwyddiad.

Roedd Stifyn yn rhan o'r gusan hoyw gyntaf ar deledu Prydeinig yn 1985 ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno'r rhaglen 'Paid â dweud hoyw' ar S4C.

Ag yntau wedi dod allan pan oedd yn 26 oed, dywedodd "fod pethau wedi datblygu yn fawr, lot o bethau positif wedi digwydd".

Er hyn mae'n dweud fod yn "rhaid cofio fod pobl yn cael eu lladd hyd yn oed yng Nghaerdydd oherwydd bod nhw'n aelod o'r LGBTQ+, felly mae 'na waith i'w wneud".

"Mae 'na bethau mawr wedi eu datblygu yn gyffredinol - mae pobl yn fwy croesawgar o bobl sy'n rhan o'r gymuned yma," meddai.

Wrth edrych yn ôl ar sut mae Pride Cymru wedi tyfu, dywedodd: "Beth sy'n ffantastig yw sut mae diwrnod Pride wedi datblygu a thyfu ond hefyd y tinc sydd ar y strydoedd tra 'da ni'n gorymdeithio."

Dywedodd mai ef oedd yn cario'r lythyren 'P' enfawr drwy'r ddinas un flwyddyn.

"Ro'n i high as a kite am ddyddiau wedyn achos o'n i'n teimlo cymaint o gariad yn dod wrth y werin bobl ar y stryd.

"Dwi wedi gweld shifft yn y gorfoledd ma' pobl yn cael allan o weld gorymdaith, mae 'na lai o 'ni a nhw' erbyn hyn."

Yn y gorffennol, roedd "popeth cymaint yn llai - llai o bobl yn cymryd rhan, llai yn gorymdeithio a llai yn cefnogi ni wrth orymdeithio".

"Mae datblygiad garw wedi bod yn Pride Cymru ond mae 'na dal le i wella," meddai.

"Mae'r byd yn newid ond dydi hi ddim yn newid yn ddigon cyflym."

'Dathlu ein hunain'

Un fydd yn mynd i Pride Cymru am y tro cyntaf eleni yw Iwan Kellet o Ynys Môn.

Dywedodd ei fod yn "edrych 'mlaen yn enwedig i wneud hynny yng Nghaerdydd oherwydd mai yma o'n i'n byw pan ddes i allan".

Aeth ymlaen i ddweud fod "digwyddiadau Pride mor bwysig er mwyn i ni allu dathlu ein gilydd ac ni’n hunain mewn grŵp saff".

"Mae’n gyfle i gael bach o queer joy ond hefyd i godi ymwybyddiaeth am broblemau mae’r gymuned yn dal i wynebu."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iwan fod Pride Cymru yn gyfle i "godi ymwybyddiaeth am broblemau mae’r gymuned yn dal i wynebu"

Dywedodd fod "Pride yn bwysig er mwyn i ni ddangos solidariaeth gyda’r rheiny sydd dal efo brwydrau i frwydro".

"Mae cymdeithas bendant wedi symud 'mlaen. Ers i mi ddod allan, mae’r gefnogaeth gan deulu a ffrindiau wedi bod yn arbennig.

"Rhan fwyaf o’r amser dwi’n gallu bod yn fi fy hun heb boeni.

"Ond mae yna dal ffordd i fynd wrth normaleiddio hunaniaethau cwiar."

Pynciau cysylltiedig