Cymru i fod yn 'genedl fwyaf cyfeillgar Ewrop' i bobl LHDTC+
- Cyhoeddwyd
Does dim lle i "laesu dwylo" gyda hawliau pobl LHDTC+ yng Nghymru a dyw'r daith ddim ar ben, yn ôl elusen Stonewall.
Daw'r sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun newydd i fod yn "genedl fwyaf cyfeillgar Ewrop" tuag at pobl LHDTC+.
Mae'r cynllun - sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth fel rhan o gytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru - yn nodi camau i geisio "sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant".
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y gallai'r cynllun "sathru ar hawliau menywod".
Er bod elusen Stonewall yn croesawu'r cynllun, dywedodd eu cyfarwyddwr fod angen "mynd i'r afael â throseddau casineb" a "chael gwared â'r rhwystrau o ran gofal iechyd" er mwyn gwireddu'r nod.
Cais i ddatganoli pwerau
Yn rhan o'r cynllun mae'r nod o'i gwneud hi'n haws i rywun newid eu rhywedd yn gyfreithiol.
Mae'r ddogfen yn dweud y bydd yn "gwneud cais" i Lywodraeth y DU ddatganoli pwerau ynglŷn â chydnabod rhywedd.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud hefyd nad yw'r gymuned LHDTC+ yn "haeddu cael ei ddefnyddio fel arf gwleidyddol" er mwyn ceisio sicrhau mwy o bwerau.
Mae'r Cynllun Gweithredu yn cynnwys camau i wella diogelwch, addysg, tai, iechyd a gofal cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol, dywedodd Llywodraeth Cymru.
Ychwanegon fod cam "penodol" i "amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl anneuaidd a thraws".
Yr awgrym, o fewn y strategaeth, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu am bwerau datganoli tebycach i'r hyn sydd gan Lywodraeth Yr Alban ym maes cydnabod rhyw.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, fod y cynllun yn "fentrus ond realistig".
"Rydyn ni am sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+, er mwyn inni fel cymuned deimlo'n ddiogel i fod yn ni ein hunain, yn rhydd rhag ofn, gwahaniaethu a chasineb.
"Bydd gweithredu'n ymarferol, ar draws meysydd diwylliant, addysg, iechyd ac yn ehangach, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni ein huchelgais i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyma'r tro cyntaf i'r ymrwymiadau presennol gael eu cyfuno gyda'i gilydd yn y nod o greu cymdeithas lle mae "dathlu a chynnwys y gymuned LHDCT+ yn ganolog" iddi.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wrth BBC Cymru fod y strategaeth yn "edrych ar bob elfen o gymdeithas" a bod problemau'n dal i fodoli.
"Mae'n gofyn sut allwn ni wella? Sut ydyn ni'n gallu cyrraedd y nod yma?
"Mae'n ffantastig i weld lle 'dyn ni 'di cyrraedd o sefyllfa pan o'n i'n tyfu lan yn yr 80au... doedd 'na ddim unrhyw gefnogaeth yn cael ei roi i bobl hoyw neu lesbiaidd...
"Er bod 'na dal waith i'w wneud, ma 'na homoffoboia, mae 'na drawsffobia... ond o leia' y'n ni'n gallu gosod y nod a bod yn sicr fod ein llywodraeth ni fan hyn yng Nghymru yn cefnogi pobl LHDTC+ bob cam o'r ffordd."
Yn Aberystwyth, fe ddywedodd Rose ei bod yn "beth da gwybod fod rhywun yn edrych mas amdana i" wrth gyfeirio at gynllun newydd y llywodraeth.
"Mae rhoi'r cyfle i rywun ddangos pwy ydyn nhw wastad yn beth da a does dim niwed i unrhyw un."
Ychwanegodd Georgie, yng Nghaerdydd, ei bod wedi "cymryd amser hir" i'r cynllun gael ei gyhoeddi.
"Dw i'n gwybod yn enwedig yng Nghaerdydd mae 'na ambell drosedd casineb homoffobig wedi bod yn ddiweddar... felly gobeithio y bydd yn mynd i'r afael â hynny."
'Nid dyma ddiwedd y daith'
Er bod elusen Stonewall Cymru'n croesawu'r nod, fe ddywedodd eu cyfarwyddwr fod camau eraill sydd angen eu gweithredu.
Dywedodd Davinia Green: "Mae'n ymrwymiad clir a chadarnhaol, ac yn arbennig o bwysig yn wyneb yr heriau a'r hawliau yr ydyn ni wedi brwydro'n galed drostyn nhw.
"Mae hyn yn rhan bwysig o'r daith i greu cymdeithas sy'n gynhwysol i bobl LHDTC+ yma yng Nghymru, ond nid dyma ddiwedd y daith. Rhaid inni beidio â llaesu dwylo.
"Os yw Cymru i arwain y ffordd yn Ewrop o ran hawliau LHDTC+, bydd mynd i'r afael â throseddau casineb, cefnogi cwricwlwm ACRh cynhwysol, a chael gwared â'r rhwystrau o ran gofal iechyd yn arbennig o bwysig."
Yn ôl Lisa Power, un o sefydlwyr Stonewall sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun, mae angen edrych ar y darlun ehangach.
"Yn aml, wrth i bobl edrych ar faterion yn ymwneud â LHDTC+, y cyfan maen nhw'n ei weld yw'r elfen LHDTC. Dydyn nhw ddim yn sylweddoli ein bod ni'n ddinasyddion fel pawb arall.
"Mae'r Cynllun Gweithredu hwn yn glir ynghylch beth mae'n mynd i'w wneud a sut.
"Mae'n cydnabod mai un rhan yn unig o hunaniaeth fwy cymhleth, groestoriadol yw bod yn LHDTC+ yn aml, a bod materion o bob math yn effeithio arnon ni yn ystod ein bywyd."
'Nid datganoli pwerau yw'r ateb'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gydraddoldeb, Altaf Hussain, fod y pandemig wedi amlygu anghydraddoldebau strwythurol i nifer o aelodau'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
"Mae gan bobl ar draws y byd yr hawl i fod yn nhw'u hunain heb ofni gwahaniaethu ac erlid," meddai.
"Tra fy mod yn credu fod angen gwneud mwy i gefnogi pobl LHDTC+, nid datganoli rhagor o bwerau yw'r ateb.
"Ry'n ni wedi gweld yr anhrefn mae'r SNP wedi'i greu gyda phwerau datganoledig, a nawr mae gweinidogion Llafur eisiau gwneud yr un peth.
"Mae aelodau'r gymuned LHDTC+ yn haeddu ein parch, cefnogaeth a dealltwriaeth. Dydyn nhw ddim yn haeddu cael eu defnyddio fel arf gwleidyddol gan weinidogion Llafur er mwyn ceisio cael mwy o bwerau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae gan y DU hanes balch o hawliau LHDT, ac un o fframweithiau amddiffyn deddfwriaethol mwyaf cynhwysfawr a chadarn y byd ar gyfer pobl LHDT."
Fe ychwanegon y bydden nhw'n parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru ar "faterion perthnasol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2022