Rhybudd i deithwyr wrth i Bont Tywysog Cymru gau am gyfnod
- Cyhoeddwyd
Fe all y rheiny sy'n teithio rhwng Cymru a Lloegr wynebu oedi a thagfeydd yn ystod mis Gorffennaf wrth i Bont Tywysog Cymru a thwnnel trên Hafren gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Bydd hynny yn effeithio ar drenau rhwng de Cymru, Bryste, Llundain ac arfordir de Lloegr wrth i dwnnel Hafren gau am 16 diwrnod.
Bydd y twnnel wedi cau rhwng dydd Mercher 3 Gorffennaf a dydd Gwener 19 Gorffennaf.
Mae hefyd disgwyl i yrwyr wynebu oedi wrth i bont Tywysog Cymru gau i gyfeiriad y gorllewin nos Lun Gorffennaf 8, Mawrth 9 a nos Sadwrn 20 Gorffennaf.
Bydd pont yr M4 hefyd yn cau i gyfeiriad y dwyrain ddydd Mercher a Iau 10 - 11 Gorffennaf, ond bydd pont Tywysog Cymru yn agored pan fydd y bont arall wedi cau.
Pryd bydd y bont yn cau fis Gorffennaf?
Bydd yr M4 i gyfeiriad y gorllewin yn cau ar 8 a 9 o Orffennaf rhwng 21:00 a 05:00 bob nos. Bydd y twnnel hefyd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd yr M4 tua'r dwyrain ar gau ar 10 a 11 o Orffennaf rhwng 21:00 a 05:00 bob nos. Bydd y twnnel hefyd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd y draffordd tua'r gorllewin ar gau o 21:00 ar ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf. Dim ond dwy lon fydd ar agor ar ddydd Sul 21 Gorffennaf gyda chyfyngiadau cyflymder mewn lle.
Mae rhybudd y gall teithwyr wynebu oedi ar y ffordd tan yr hydref wrth i waith gael ei wneud ar y ddwy bont sy'n mynd dros yr Hafren.
Ar adegau dim ond dwy lôn fydd yn weithredol ar y draffordd wrth i weithwyr osod wyneb newydd ar y lôn.
Oherwydd y gwaith, yr unig ffordd o deithio rhwng de Cymru a de orllewin Lloegr yn ystod rhai adegau fis Gorffennaf yw dros bont yr M48 rhwng Cas-gwent a phentref Aust.
Disgwyl gwaith ffordd tan yr Hydref
Dywed Highways England, sy'n gyfrifol am y ddwy bont, y bydd angen cau pont yr M4 yn hwyrach yn yr Haf ac yn yr Hydref er mwyn ail osod wyneb y ffordd.
Dywedon nhw mai un o'r rhesymau dros wneud y gwaith cynnal a chadw yn ystod yr haf yw bod llai o bosibilrwydd y bydd angen cau yr M48 yn ystod y gaeaf.
Yn ogystal â gwaith cynnal a chadw ar y ddwy bont, bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i dwnnel trên Hafren.
Mae disgwyl i deithwyr trenau rhwng de Cymru a Lloegr wynebu oedi am bythefnos wrth i dwnnel Hafren gau rhwng dydd Mercher 3 Gorffennaf a dydd Mawrth 9 Gorffennaf.
Oherwydd y gwaith, mae disgwyl i deithwyr rhwng Cymru a Llundain wynebu o leiaf awr ychwanegol i'w siwrnai wrth i'r gwasanaeth trên fynd trwy Luster a pheidio stopio ym Mryste.
Mae cwmni Network Rail hefyd wedi rhybuddio mai nifer cyfyngedig o wasanaethau trên fydd rhwng Casnewydd, cyffordd twnnel Hafren a Bristol Parkway gan ychwanegu nad oes yr un trên yn rhedeg yn syth i Bristol Temple Meads.
Bydd Twnnel Hafren hefyd ar gau am fwy o waith ar benwythnosau 27/28 o Orffennaf a 24/25 o Awst.