'Cyffro' adnoddau i blant â thrafferth cyfathrebu
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd plant sydd â thrafferthion cyfathrebu wedi croesawu dau gynllun diweddar i roi cymorth iddyn nhw.
Mae cannoedd o fyrddau cyfathrebu wedi'u gosod mewn parciau a lleoliadau cyhoeddus ledled Cymru.
Hefyd mae lleisiau Cymraeg a Chymreig newydd bellach ar gael i blant sy'n defnyddio offer arbenigol i gyfathrebu.
Mae'r cynlluniau wedi derbyn tua £300,000 fel rhan o brosiect 'Siarad gyda Fi' sy'n cynnig cyngor ynglŷn â chyfathrebu i rieni a gofalwyr plant pump oed ac iau.
'Cyffro' bod y byrddau ar gael
Mae'r byrddau cyfathrebu yn cynnwys nifer o symbolau a lluniau gwahanol, gyda geiriau defnyddiol fel 'eisiau', 'wedi blino', 'aros' 'bwyd' a 'chwarae'.
Ymhlith y rhai sydd eisoes wedi gweld eu gwerth mae Lina a'i theulu o ardal Caerffili.
Fe fu'r teulu yn ymweld yn ddiweddar â Pharc Morgan Jones - un o dros 300 o barciau sydd wedi gosod byrddau cyfathrebu.
"Dwi mor gyffrous bod byrddau fel hyn ar gael," meddai mam Lina, Rebecca Meyrick.
"Mae ganddon ni ddyfais electroneg, ond mae'n golygu bod yn rhaid ei chario o gwmpas.
"Pan mae pobl ifanc eisiau chwarae yn y parc, y peth diwetha maen nhw eisiau'i wneud yw cario tabled, neu bapur neu unrhyw ddyfais arall sydd ganddyn nhw."
Cafodd y byrddau eu gosod mewn parciau yng Ngheredigion yn wreiddiol, fel rhan o gynllun peilot gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, cyn ymestyn i Gymru gyfan
"Mae'r adborth wedi bod yn bositif iawn o'r teuluoedd", meddai Libby Jeffries, sy'n therapydd iaith a lleferydd gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda
"Mae sawl teulu wedi dweud wrthai i ers i'r byrddau bod lan... 'mae'r rhein ar gyfer plant ni.. sdim byd fel hyn fel arfer, felly mae'n hala ni i deimlo fel bo chi'n meddwl amdanon ni, a ni jyst eisiau bod y pethe hyn ar gael ar draws y gymuned i helpu plant i gyfathrebu.' "
'Teimlo ei bod hi'n perthyn'
Mae'r cynllun i ddatblygu lleisiau ac acenion Cymreig newydd wedi'i ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, cwmni lleferydd CereProc a Phrifysgol Bangor.
Fe fydd 16 o lleisiau newydd ar gael yn y pendraw, o wahanol ardaloedd ledled Cymru.
Ar hyn o bryd, dim ond lleisiau oedolion sydd ar gael yn Gymraeg, a lleisiau plant ag acen o Loegr yn Saesneg.
Yn ôl tad Lina, Anthony Meyrick, fe fydd cael llais plentyn ac acen Gymreig ar ei dyfais hi yn help mawr iddi.
"Fe fydd hi'n gallu swnio fel ei ffrindiau, oherwydd ar hyn o bryd dyw hi ddim yn hoffi unrhyw beth sy'n gwneud iddi fod yn wahanol i'w ffrindiau yn yr ysgol.
"Fe fydd cael llais tebyg i'w ffrindiau yn gwneud iddi deimlo ei bod hi'n perthyn."
Mae Libby Jeffries yn dweud bod cael acenion a lleisiau sy'n adlewrychu'r gymuned leol yn allweddol.
"Mae iaith ac acen yn rhan o'n hunaniaeth," meddai. "Mae fe'n rili bwysig bod y dull mae rhywun yn defnyddio i gyfathrebu yn adlewyrchu nhw fel person."