Daf James yn dod â'r Gymraeg i primetime
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon mae'r ddrama newydd Lost Boys and Fairies yn cael ei darlledu ar BBC One ledled Prydain.
Mae'r ddrama sy'n dilyn cwpl hoyw drwy'r broses fabwysiadu wedi'i hysgrifennu gan y dramodydd Daf James, ac wedi ei seilio'n rhannol ar ei brofiadau ei hun. Bydd gwaith Daf eisoes yn gyfarwydd i sawl un; cafodd ei ddramâu Llwyth a Tylwyth eu llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru, mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu radio ac roedd yn sgwennwr ar gyfres boblogaidd S4C, Gwaith Cartref, am bedair blynedd.
Ond dyma'r tro cyntaf i'w waith fod ar slot 'primetime' y BBC. Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, cafodd Cymru Fyw gyfle i gael sgwrs gydag e.
"I ddechrau o’n i moyn bod yn actor. A dyna o’n i’n meddwl o’n i’n mynd i fod," meddai Daf gan egluro iddo fynd i hyfforddi i LISPA (London International School of Performing Arts) ar ôl graddio mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caeredin.
Yn ogystal ag astudio theatr gorfforol a dyfeisio perfformiadau ar y cyd â myfyrwyr eraill yn LISPA, fe ymgymrodd â chwrs ysgrifennu.
Dywedodd: "Oedd athrawes o’r enw Amy Russell yn rhedeg y cwrs 'ma, ac roedd rhaid i bob un ohonon ni sgwennu drama un act. Nes i eistedd i lawr i ddechrau sgwennu, a wir, ro’n i wrth fy modd."
"Ro’n i’n 27 dw i’n credu erbyn hynny, a nes i rhyw fath o deimlo fod popeth nes i 'neud hyd at yr adeg yna wedi bod yn arwain ato achos o’n i wedi bod yn astudio dramâu drwy lenyddiaeth Saesneg, o’n i wedi bod yn usher yn theatr y Traverse yng Nghaeredin, felly wedi gwylio’r holl ddramâu 'ma ar y llwyfan ac o’n i wedi bod yn creu drama, ac yn perfformio fel actor ac felly pan ddaeth hi lawr i sgwennu drama o’n i’n teimlo fel mod i wedi bod yn hyfforddi’n hunan i wneud hynny."
Ac o'r ddrama un act yna, fe ddaeth comisiynau a chyfleoedd a arweiniodd at ei ddrama lwyfan gyntaf, Llwyth.
Wedi cael digon ar bobl yn dweud "Na"
Ond er ei lwyddiant yn y theatr ac ar y radio, roedd yna lawer o rwystrau hefyd.
"Yn aml, ym myd teledu rydych chi’n datblygu gwaith am flynyddoedd a 'sdim byd yn digwydd. So, o’n i wedi bod yn gwneud 'na ers sbel ac o’n i bron â rhoi lan.
"O’n i wedi trio am y scheme 'ma gyda’r BBC. O’n i wedi trio ddwywaith o’r blaen i fynd arni a chael fy ngwrthod.
"Dyma Helen Bebb, un o’r BBC Writer’s Room, yn ffonio fi yn dweud ‘Wyt ti’n mynd am hwn?’ a wedes i 'na, dw i wedi cael digon ar bobl yn dweud na wrtha’ i.’"
Ond llwyddodd hi i'w argyhoeddi, ac aeth o amdani ond gyda sgript wahanol y tro hwn. Ac fe gafodd ei dderbyn.
Ar y cwrs hwn y cynigiodd sgript Lost Boys & Fairies a dyna pryd gafodd ei bartneru â Duck Soup Films sef y cwmni sydd wedi cynhyrchu'r gyfres.
Dywedodd fod Duck Soup Films yn ei ddeall i'r dim, yn enwedig o ran cyfleu ei hunaniaeth Gymreig, ddwyieithog ar sgrin. Mae'r cwmni sy'n wreiddiol o Leeds a sydd bellach â swyddfa yng Nghaerdydd, meddai Daf, wedi bod yn gefnogol eithriadol "o'r cychwyn" o'i ddyhead i adlewyrchu realiti ddwyieithog ei fywyd.
"Maen nhw’n deall beth yw e i fod tu fas i Lundain, a beth yw e i gael eich hunaniaeth wedi cael ei gynrychioli ar lwyfan a sgrin mewn ffordd sydd ddim yn authentic fel pobl sy’n dod o ogledd Lloegr, lle maen nhw’n cael actorion sydd ddim yn dod o’r gogledd, yn gwneud acenion sydd ddim yn authentic o gwbl.
"Felly roedd y ffaith bod nhw'n deall hwnna wir yn bwysig i fi."
'Pobl ddim yn gwybod fod y Gymraeg yn bodoli'
"Dw i yn ffeindio fo’n rhyfedd o beth mai dyma y ddrama ddwyieithog Gymraeg a Saesneg gyntaf sydd wedi bod ar BBC One.
"Wrth gwrs, mae 'na back-to-back wedi bod; dramâu fel Hinterland, ond un yn uniaith Gymraeg ac un yn uniaith Saesneg oedd rheiny.
"Roedd Bang, oedd honno’n ddrama ddwyieithog ar S4C. Mae e [Roger Williams] wedi bod yn arwain y ffordd gyda hwnna.
"Ond fi’n credu mai hon yw’r gyntaf ar BBC One primetime. Ac mae jyst yn hen bryd, nagyw hi?
"Dw i yn synnu achos 'dyw pobl dros y ffin yn aml ddim yn gwybod fod yr iaith Gymraeg yn bodoli, neu mae ‘na bobl sy’n meddwl bod e’n ok i wneud hwyl am ben yr iaith Gymraeg a’n hunaniaeth ni, a ddim yn deall pam bod rhaid i ni gael arwyddion dwyieithog os 'yn ni gyd yn deall Saesneg ta beth, ddim yn deall bod yr iaith yn drysor o ddiwylliant a chelfyddyd a hanes ac yn cynnig persbectif a gogwydd hollol wahanol ar y byd.
"Mae 'na sawl artist yn gwneud hynny, mae 'na waith ffantastig yn digwydd nawr a mae 'na symudiad. Ond mae jyst yn rhyfedd o beth, dw i’n credu, ei bod hi'n 2024.
"Dw i hefyd wrth gwrs yn falch a dw i’n gobeithio fydd y Cymry’n falch hefyd."
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023
Mae Lost Boys & Fairies yn ddrama dyner, ddirdynnol a doniol. Dywedodd Daf fod elfen o hiwmor yn bwysig iawn iddo er mwyn adlewyrchu bywyd go iawn.
"Dw i ddim yn deall dramâu sydd ddim gyda elfen o hiwmor ynddyn nhw achos dyw bywyd go iawn ddim fel hynny. Hyd yn oed yn y mannau tywyllaf ni dal yn chwerthin.
"Fi wedi dweud y stori yma’n aml; ar y diwrnod 'nath Mam farw o’n i’n crio gymaint oedd y sŵn nes i mor anifeilaidd – do’n i erioed wedi clywed y sŵn ’ma o’r blaen!
"Er bo' fi’n galaru ac yn beichio wylo, ar yr un pryd nes i jyst dechrau chwerthin. Felly ro’n i’n chwerthin ac yn crio ar yr un pryd.
"A dyna yw bywyd. Mae trasiedi a chomedi yn agos ofnadwy o ran lle maen nhw ym mhrofiad dynoliaeth, dw i’n credu.
"I fi, os y'ch chi’n gallu gwneud i bobl chwerthin, mae hi falle yn haws i fynd â nhw ar siwrne emosiynol gyda chi."
Un o'r cymeriadau sy'n dod â hiwmor i Lost Boys & Fairies yw Jackie, y weithwraig gymdeithasol, sy'n cael ei phortreadu gan Elizabeth Berrington.
"Mae Jackie yn rhyw fath o gyfuniad o’r holl weithwyr cymdeithasol 'dan ni wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd gyda’n plant ni.
"Oedd e mor bwysig i fi 'mod i’n rhoi cynrychiolaeth bositif o’r gweithwyr cymdeithasol achos fel arfer mewn dramâu nhw yw’r gelyn, nhw yw’r antagonists, ni’n clywed ambyti nhw yn y papurau pan mae pethau wedi mynd o’i le, ond ein profiad ni ohonyn nhw oedd eu bod nhw y bobl mwya' anhygoel oedd yn mynd tu hwnt i’w dyletswyddau nhw."
Rhoi hunaniaeth ar lwyfan
O siarad gyda'r dramodydd, un peth sy'n dod yn amlwg yw bod gonestrwydd yn elfen hollbwysig i'w waith.
Eglurodd: "I mi mae’r dramâu gonest yna, y dramâu lle mae pobl yn fodlon bod yn fregus [yn rhagori.]
"Dw i wir yn gwerthfawrogi pan mae pobl yn fodlon bod yn fregus gyda chi a bod yn agored gyda chi. Mae pobl mewn bywyd, yn aml am resymau da, yn gorfod gwisgo rhyw fath o arfwisg er mwyn goroesi yn does?
"Ond beth mae hwnna hefyd yn golygu yw bod pobl yn byw yn eu meddwl bach nhw eu hunain, yn eu tywyllwch nhw eu hunain.
"Ond y mwya’n byd mae pobl yn gallu bod yn onest am beth sy’n mynd ymlaen yn y meddwl, beth sy’n mynd ymlaen fan hyn yn y galon, mae’n neud i chi deimlo bo' chi ddim mor unig."
Ac mae o'n siarad o brofiad. Roedd Daf yn fachgen ifanc hoyw yn yr 80au, ar adeg oedd yn dra gwahanol i'r gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi heddiw.
"Pan o’n i’n fachgen bach cwiyr yn tyfu lan yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd, ar y wyneb falle o’n i’n edrych yn hapus iawn ond oedd gymaint o dristwch dan yr wyneb.
"O’n i’n cael fy mwlio, a'r holl bethe ofnadwy ’ma oedd yn mynd ymlaen, ond do’n i methu rili siarad ambyti e achos ar y pryd o’n i ddim yn cael siarad ambyti bod yn hoyw yn yr ysgol o’n i? Oedd Section 28 yn bodoli. So, oedd hyd yn oed cyfadde ’mod i’n cael fy mwlio am fy mod i’n cwiyr yn rhywbeth oedd gyda fi gymaint o gywilydd [yn ei gylch].
"Beth o’n i’n ffeindio yn rhyw fath o gysur oedd rhwng cloriau llyfre, a dramâu a darllen ambyti hunaniaethau oedd yn debyg i fi. Wedyn do’n i ddim mor unig rhagor."
Dramâu fel hud a lledrith
"Felly mewn ffordd, mae rhoi’ch hunaniaeth chi mewn drama, gobeithio, yn gwneud yr un fath i bobl sydd mas ’na sydd ddim gyda’r gymdeithas sydd gyda fi o ’nghwmpas i erbyn hyn.
"Gymrodd e sbel i fi ffeindo fe ond nawr dw i’n byw mewn cymdeithas, diolch i’r nefoedd, sy’n lle dw i’n gallu priodi, dw i’n gallu mabwysiadu.
"Mae ’na sawl plentyn yn ysgol fy mhlant i sy’n dod o gartrefi gyda rhieni hoyw. Mae ’na athrawon hoyw. Ni’n siarad ambyti e. Ni wedi dod mor bell ers yr 80au.
"Bydden i’n pinsho'n hunan i feddwl bod ni wedi cyrraedd y man yma.
"A dyna pam dw i’n credu bod dramâu, yn enwedig y teledu, sydd yng nghornel stafelloedd pawb neu ar ffonau symudol yn eich dwylo chi, bod y storis yma’n gallu mynd i bobman.
"Mae hwnna fel hud a lledrith i fi. Mae’n hud a lledrith gwleidyddol a phwysig iawn."
Mae Lost Boys and Fairies ar gael ar BBC iPlayer nawr, ac ar BBC One am 9pm nos Lun.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022