Seiclwr 76 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad

Dywed Heddlu'r De fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng car Honda Jazz arian a beic
- Cyhoeddwyd
Mae seiclwr 76 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic ym Mhen-y-bont.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl y digwyddiad fore Mercher.
Dywedodd Heddlu'r De fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng car Honda Jazz arian a beic ar Ffordd Simonston am 11:55.
Mae'r heddlu yn ymchwilio ac yn apelio am lygad dystion i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.