Cwmni cemegion yn ystyried torri 291 o swyddi yn Y Barri

Y safle yn y BarriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cemegion wedi bod yn cael eu cynhyrchu ar y safle ers yr 1940au

  • Cyhoeddwyd

Mae bron i 300 o swyddi mewn peryg o gael eu colli yn Y Barri yn sgil cynlluniau cwmni cemegion Dow i gau rhan o'u safle yn y dref.

Dywedodd Dow fod y toriadau posib yn dilyn "asesiad o'u hasedau Ewropeaidd" ac y byddai'r swyddi cael eu torri dros y tair i bedair blynedd nesaf.

Mae'r cwmni yn ystyried cau'r ffatri sy'n cynhyrchu siloxanes sylfaenol - sy'n cael eu defnyddio i greu gludyddion a selyddion - ond does dim disgwyl i adrannau eraill gael eu heffeithio gan y toriadau.

Dywedodd undeb Unite ei bod hi'n "warthus" bod gweithwyr yn cael eu "cosbi am sefyllfa sydd allan o'u rheolaeth".

Arwydd:

Barry Site
Dow SiliconesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dow y byddai'r toriadau posib yn "helpu i gryfhau safle cystadleuol y cwmni"

Mae cemegion wedi bod yn cael eu cynhyrchu ar y safle ers yr 1940au, ac mae tua 850 o bobl yn gweithio yno ar hyn o bryd.

Ers 2016 mae'r safle i gyd wedi bod yn eiddo i'r cwmni o'r Unol Daleithiau, Dow.

Dywedodd y cwmni wrth BBC Cymru fod asesiad o'u safleoedd yn Ewrop wedi dangos bod angen "gweithredu pellach" yn Y Barri, a bod cau y gwaith siloxanes sylfaenol ar y safle yn "ganlyniad posib ar hyn o bryd".

Ychwanegodd Dow y byddai cam o'r fath "yn helpu i gryfhau safle cystadleuol y cwmni yn y farchnad siliconau arbenigol yn Ewrop a'r DU".

"Bydd y gwaith o gynhyrchu siliconau arbenigol yn y Barri yn parhau, gan gefnogi marchnadoedd allweddol fel moduro, electroneg, ynni, adeiladu a gofal personol," meddai'r cwmni.

Effaith ar yr economi 'yn ddinistriol'

Wrth ymateb i'r cynlluniau posib, dywedodd undeb Unite: "Mae'r posibilrwydd o golli cymaint o swyddi sy'n talu'n dda yn yr ardal yn ddinistriol, nid yn unig i'n haelodau a'u teuluoedd, ond i'r economi leol hefyd."

Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Richard Jackson, eu bod yn "galw ar Dow i ailystyried eu penderfyniad a gweithio gyda ni, y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ateb arall".

Ychwanegodd fod Unite hefyd yn galw ar Dow i "weithio gyda'r undeb er mwyn osgoi diswyddiadau gorfodol, ac i geisio amddiffyn cymaint o swyddi â phosib.

"Bydd yr undeb yn sicrhau ei fod yn chwarae rhan trwy gydol y broses."

Pynciau cysylltiedig