Teyrngedau i Huw Roberts - 'un o gewri' byd gwerin Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor, awdur ac athro o Ynys Môn, Huw Roberts, wedi marw.
Bu'n aelod o nifer o grwpiau gwerin gan gynnwys Cilmeri a Pedwar yn y Bar, ac roedd yn adnabyddus iawn am chwarae'r ffidl a'r delyn deires.
Roedd hefyd yn awdur ac yn hanesydd - yn arbenigo ar draddodiadau cerddoriaeth gwerin Cymru.
Cafodd ei dderbyn i'r Orsedd yn 2017 am ei "gyfraniad sylweddol, dolen allanol" i'r byd gwerin yn gerddorol ac ym maes ymchwil.
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2024
Yn ogystal â'r gerddoriaeth, roedd gan Huw Roberts ddiddordeb mewn sawl elfen o'r traddodiadau gwerin, gan gynnwys byd y ddawns.
Fe sefydlodd y partïon dawns Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni ar Ynys Môn, gan wneud ymchwil i’r gwisgoedd, y dawnsfeydd a’r gerddoriaeth draddodiadol.
'Meistr' y delyn deires
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei ffrind a chyd-aelod o'r band Cilmeri, Ywain Myfyr fod gan Gymru "ddyled fawr" iddo.
"Roedd Huw ‘Bach’ mor fywiog, brwdfrydig a hwyliog mae’n rhyfedd iawn meddwl ei fod o wedi’n gadael, bydd colled anferth ar ei ôl.
"Roedd Huw yn un o’r cerddorion naturiol 'ma a allai feistroli unrhyw offeryn yn hawdd ac fe drodd ei ddiddordeb tuag at y delyn deires gan ddod yn feistr arni.
"Athro oedd galwedigaeth Huw ond bu’n addysgu llawer tu allan i’r 'stafell ddosbarth yn ogystal trwy ei waith gwerthfawr yn trosglwyddo’r traddodiad mewn gweithdai gan Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, Clera a Trac.
"Roedd ei frwdfrydedd yn heintus mewn gweithdy neu sesiwn."
Ychwanegodd Ywain Myfyr: "Mae Cymru wedi colli rhywun a gyfrannodd gymaint i’n traddodiadau mewn amrywiol ffyrdd.
"Mae gennym fel cenedl ddyled fawr i Huw. Bydd ei gyfraniad yn fyw am byth tra bydd cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru."
'Ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol'
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y grŵp gwerin Calan fod Huw Roberts wedi cael "dylanwad cryf" ar eu cerddoriaeth yn nyddiau cynnar y band, gan ei ddisgrifio fel "ffigwr unigryw yn y gymuned cerddoriaeth gwerin Gymreig".
"Fel chwaraewr ffidil, a thelynor Cymreig go iawn, daeth Huw â bywyd i alawon traddodiadol gyda'i ddawn a'i angerdd.
"Roedd ei gerddoriaeth yn deyrnged i'w wreiddiau a'i ddiwylliant Cymreig.
"Roedd Beth, yn arbennig, yn edmygu gwybodaeth helaeth Huw a’i werthfawrogiad dwfn o wisgoedd a phatrymau traddodiadol Cymreig.
"Mae colli Huw yn golygu ffarwelio ag un o gewri gwreiddiol ein byd, cerddor y bydd ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
"Wrth i ni ffarwelio, dathlwn y marc annileadwy a adawodd ar ganu gwerin Cymru."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd Huw Roberts ei ddisgrifio gan Mynediad am Ddim fel "ffidlwr a thelynor talentog a brwdfrydig" oedd wedi gwneud cyfraniad "enfawr" tuag at ganu gwerin yng Nghymru.
Ychwanegodd y cerddor Geraint Cynan fod Huw Roberts yn "ŵr hoffus, hael a heintus" oedd â "cherddoriaeth Gymreig yn ei waed".
'Doedd 'na neb tebyg iddo'
Dywedodd y cerddor Tudur Huws Jones, oedd yn ffrind agos iddo, fod "Huw yn danbaid dros Gymru, ein hiaith a’n traddodiadau gwerin".
"Mi wnaeth gymaint dros gerddoriaeth werin, dawnsio gwerin, gwisgoedd traddodiadol Cymru, y ffidil a’r delyn deires, trwy waith ymchwil diflino.
"Os oedd unrhyw un yn haeddu doethuriaeth er anrhydedd, Huw oedd hwnnw.
"Bron yn ddiffael, pan fyddem yn cwrdd, roedd ganddo ryw brosiect neu syniad ar y gweill, neu byddai wedi dod ar draws alaw ‘newydd’ oedd wedi bod yn cuddio mewn hen lawysgrif yn rhywle - byddai cyffro a’r brwdfrydedd yn amlwg wrth iddo adrodd yr hanes.
"Doedd 'na neb tebyg iddo mewn sesiwn anffurfiol. Gallai Huw gynnal sesiwn am oriau, heb ailadrodd yr un alaw.
"Dros y blynyddoedd bu’n lledaenu’r neges mewn sawl gwlad ar draws y byd.
"Mae Cymru wedi colli llysgennad yn y maes, heb os. Cwsg yn dawel 'rhen ffrind."
Mae'n gadael ei wraig Bethan a'i blant Sion a Megan.