Pum munud... gyda Mari Lloyd Pritchard
- Cyhoeddwyd
Er ei bod yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd, fe fuodd prifwyl eleni’n un neilltuol iawn i Mari Lloyd Pritchard. Enillodd y tair brif wobr corawl: Arweinydd yr Ŵyl, Côr yr Ŵyl a Chân Gymraeg Orau yn ogystal â chael ei hurddo i’r Orsedd dan yr enw Mari Dyfriar.
Cyd-lynydd y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yw Mari yn ei gwaith o ddydd-i-ddydd. Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’i bywyd.
Bu Cymru Fyw yn ei holi am ble ddechreuodd y cariad hwn a’i ran yn ei bywyd hi heddiw.
Cer â ni’n ôl i’r dechrau; sut a ble dechreuodd dy ddiddordeb mewn cerddoriaeth?
Dw i’n meddwl, heb os nac oni bai, roedd yr ysgol Sul yn ddylanwad. Nid jest unrhyw ysgol Sul ‘chwaith. Roedd capel Hebron yn llawn cerddorion. I’r bobl sy’n gwybod am y grŵp Hogia Bryngwran – roedden nhw’n uchel iawn eu parch dros Gymru i gyd – mi oedd rhan fwyaf o Hogia Bryngwran yn dod i gapel Hebron. Roedd ‘na lot o gerddorion a chanu da yn y capel. Felly, yn gynnar iawn roedd harmoni a chanu pedwar llais yn rhan annatod o ’mywyd i mewn ffordd.
Mi oedd yna gynhyrchiadau dramatig, cerddorol, blynyddol yn cael eu cynnal yn Neuadd y Capel hefyd. Roedd pawb o Fryngwran; pobl y capel, pobl y pentref yn cymryd rhan. Dw i’n sbïo’n ôl ac yn meddwl ‘waw.’ Yn ei gyfnod, ‘roedd hwnna’n rhywbeth mor newydd i aelodaeth capel neu bentref bach iawn i fod yn ei wneud.
Ac mae rhaid i mi sôn am y gyfeilyddes a'r cerddor Grace Pritchard, wrth gwrs! Mae ’nghyswllt i efo Grace Pritchard yn mynd yn ôl i fy mlynyddoedd cynnar i. Hi oedd yn cyfeilio i'r cynyrchiadau - y cyfeilio amazing ’na, mi odd Robin Edwards a'r tîm yn trefnu trawsdoriad o ganeuon o bob sioe bosib – Rogers & Hammerstein, yr hen glasuron a chaneuon Cymraeg. O ‘day one’ mewn ffordd, o’n i’n cael fy amgylchynu gan bobl oedd yn uchelgeisiol. Mam bach! Oedd y sioeau ‘ma wirioneddol yn uchelgeisiol. Setiau, dawnsio, colur, gwisgoedd a bob dim!
O’n i dipyn bach yn shei i fynd i ‘Steddfod ond mi oedd Eirianwen Williams yn fy annog i. Dw i’n falch o ddweud ’mod i’n perthyn i Eirianwen Williams. ’Dan ni mor drist o fod wedi colli Eirianwen erbyn hyn, ond mi oedd hi’n fy nysgu i ganu cerdd dant a ballu a dylanwad y dysgu naturiol hwnnw arna’ i o hyd.
O ysgol fechan yn y wlad, roedd na lot o ddiwylliant yn ysgol gynradd Pencarnisiog ‘fyd. Mi oeddan ni'n gneud lot o ddawnsio gwerin a dwi'n cofio'n iawn Mr Evans, y pennaeth, yn fy nysgu i chwarae gitâr. Mi oeddan ni’n cael rasys scales a dysgu i chwarae 'Ganwyd Iesu' a ballu.
Felly rhwng y teulu a’r gymuned yn fy mlynyddoedd cynnar, o bob cyfeiriad oeddwn ni’n cael fy socian mewn miwsig mewn ffordd.
Gyda sail gadarn fel yna pan oeddet ti mor ifanc, sut wnaeth pethau ddatblygu wrth i ti fynd drwy’r ysgol uwchradd?
Athrawon da. Roedd Delyth Rees, heb os nac oni bai, yn ddylanwad anferthol. Roedd hi hefyd yn cyfansoddi sioeau i’r ysgol – dim jest cymryd rhai oddi ar y silff. Wnaethon ni wneud Grease am y tro cyntaf yn Gymraeg a sioeau Delyth ei hun, fel Dwynwen.
Wedyn wnaethon nhw sefydlu Theatr Ieuenctid Môn ac o’n i’n aelod, a dyna lle ’nes i gyfarfod Gary (ei gŵr). Roedd Sioned Webb yn fy ’nysgu fi hefyd a wedyn Margaret Jones – anogaeth y ddwy yn andros o ddylanwad. Peidied neb fyth ddiystyrru’r pethau bach ’na ti’n meddwl, ar y pryd, sy’n fach ond pan ti'n hŷn, ti'n sylweddoli gymaint ma nhw wir yn dylanwadu lot arna chdi.
Fy mhrofiad cyntaf i o ddisgyn mewn cariad efo arweinydd oedd yn gwylio Magdalen Jones. Ro’n i’n mynd i practis côr Bro Ddyfnan efo Mam a Dad am bod ’na neb i warchod am wn i. Ro’n i’n troi tudalennau i Eirianwen a oedd yn cyfeilio ac yn gwylio Magdalen yn arwain a’i ffordd ddiymhongar iawn hi o gael y côr i berfformio mor wych.
On i'n cal gwrando ar ddarnau fel Dydd Digofaint gan Mozart a ballu. Felly dw i’n cofio’r caneuon yna i gyd, ac os dw i’n cau fy llygaid mi alla i roi fy hun wrth y biano ’na, ti’n gwybod? Fedra’ i glywed a gweld y côr. Felly mae’r profiadau yna’n fyw iawn yn fy mhen i.
Fe fues di wrth y llyw dy hun am amser gyda Theatr Ieuenctid Môn. Yn 2006 fe sefydlaist Gôr Ieuenctid Môn ac mae llwyddiant y côr wedi bod yn ysgubol. Gyda’r byd cerddoriaeth mor eang, beth wnaeth dy ddenu i weithio gyda phobl ifanc?
Mae o’n rhywbeth greddfol iawn i mi, dwi'n meddwl. Ar ôl gwneud gradd ym Mangor a hyfforddi fel soprano mi oedd y brifysgol eisiau i mi fynd i Lundain i wneud astudiaethau pellach mewn canu. Ond do’n i’m yn teimlo ’mod i’n ddigon da. O’n i’n dod o gefndir ffermio, a do’n i ddim rili yn gwybod sut i fynd o’i chwmpas hi chwaith. deud y gwir! A teimlo fel, “Argol, na! Alla i byth dalu mortgage yn canu!!” Felly ges i gyfle i wneud cwrs Masters yng Nghaergrawnt fel therapydd cerdd. Fues i’n therapydd cerdd am ddeng mlynedd.
Dw i’n meddwl os roi di’r ddau beth yna – diddordeb mewn iechyd a lles pobl ifanc a chredu bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhan annatod o hwnna, a’r fagwraeth a’r cyfleoedd ges i efo’i gilydd, yna mae’n gwneud synnwyr llwyr pam fy mod i’n teimlo mor gryf am ddylanwad cerddoriaeth ar bobl ifanc. A nid jest y gerddoriaeth a’r canu ond bob dim arall sy'n dod yn sgil pobl yn dod at ei gilydd.
Dw i’n meddwl fel côr, pan ’dan ni’n cyfarfod fel pwyllgor, ’dan ni’n gyson yn siarad am iechyd a lles y plant. Mae hwnna bob amser ar yr agenda. Mae'n bwysig i ni gadw golwg a ydi pawb yn edrych yn gyfforddus, ydy’r person yma yn gwneud ffrindiau ac ati. Os ’dan ni’n teimlo’u bod nhw ddim yna ’dan ni’n trio'n gorau i wneud rhywbeth amdano fo. Mae iechyd a lles bob amser ar yr agenda gennym ni fel côr.
Dw i’n meddwl mai’r ddau ddylanwad yna yn fy mywyd i ydy’r rheswm ‘mod i'n caru gwenud be dwi'n wneud.
Ar yr wyneb, efallai, nid yw canu caneuon clasurol corawl yn rhywbeth fyddai’n apelio at bobl ifanc. Mae eich rhaglen fel arfer yn un amrywiol iawn o ddarnau clasurol i ganeuon cyfoes. Pa mor bwysig yw’r amrywiaeth yna o ran cadw dioddordeb pobl ifanc?
Mae’n aruthrol o bwysig cael trawstoriad eang o genres yn dy raglen. Mae pob cân, p’run ai bod hi’n bop neu’n glasurol neu beth bynnag, angen sgiliau gwahanol. Ond hefyd, mae ’na elfen gryf o addysg cerdd yma hefyd does? Dydy o ddim jest am ganu’n dda. Mae o ynglŷn ag agor drysau a chlustiau pobl ifanc.
Mae hi wedi bod yn broses o ddysgu sut mae cystadlu. Dwyt ti byth yn dysgu’n llwyr sut i roi rhaglen at ei gliydd ond ti’n trio gwella pob tro. Ti’n dysgu rhywbeth gan bob beirniad. Ond wna i byth anghofio rhoi darn heriol, rhywbeth rili cynnar oedd o, i griw ac o’n i’n poeni’n ofnadwy sut ’san nhw’n ymateb ac a o’n i’n mynd i golli aelodau a ballu. Ond oeddan nhw’n mwynahu hwnna mwy, oeddan nhw’n mwynhau’r her ac yn teimlo’u bod nhw’n cyflawni rhywbeth arbennig iawn pan oeddan nhw’n gweithio drwy gymalau rili anodd a'u meistroli nhw.
Dw i’n meddwl, y cyfnodau ’dan ni wedi bod mwyaf llwyddiannus wrth gystadlu ydy’r cyfnodau lle mae’r ymarferion o’i flaen o wedi bod yn interactive iawn. Ella bod o’n swnio’n obvious ond dydy’r ymarfer ddim yn fi’n jyst siarad. Mae o’n pawb yn cyfrannu: “dydan ni rili ddim yn cael hwnna” neu “dw i’n teimlo bod well i mi symud lawr i fanna i ganu hwnna” – ti’n gwybod? A hefyd pobl yn dweud, “oes rhaid i ni ganu’r nodyn yna?” Felly, dw i’n agored iawn i bobl gyfrannu at y broses o ymarfer a dim jest fi’n harthio yn y ffrynt. Mae o’n ofnadwy o bwysig am sawl rheswm a'r broses yna o gyd-weithio ydi'r peth dwi'n fwynhau fwyaf, yn fwy na'r perfformio os dwi'n onest.
Roedd yr Eisteddfod eleni’n un go arbennig i ti. Cefaist dy urddo i’r Orsedd, a hefyd enillaist y ‘goron driphlyg’ corawl. Sut brofiad oedd hynny?
Mi es i’r Steddfod heb unrhyw ddisgwyliadau o gwbl. Mae hi wedi bod yn gyfnod o ailadeiladu, a ’dan ni gyd yn dal i ailadeiladu yn enwedig o ran meithrin hyder pobl ifanc. Mi greodd Covid ofod – a mae pawb, a dw i’n cynnwys y cantorion a’r rhieni a phawb sydd ynghlwm â’r côr wedi gorfod gweithio’n galed i adfer pethau i le oedden ni cyn y cyfnod clo. Ond do’n i ddim yn disgwyl beth ddaeth.
Cyn y Steddfod, do’n i’m yn gwybod beth i’w ddisgwyl na sut o’n i’n teimlo am yr urddo. Ond mi odd Dad, heb os, y peth cyntaf ar fy meddwl i. Oedd Dad yn gymaint o ddylanwad arnaf i; oedd o’n ddyn cyngherddau, roedd o’n arwain cyngherddau, oedd o’n gomediwr, adrodd co’ bach a ballu. Oedd gofod Dad yn amlwg ar y dydd. Dw i methu siarad am Dad heb grïo. Ond eto, fel o’n i’n dweud ar y pryd, mi oedd yn ddiwrnod o grïo a chwerthin mewn equal measures. A'r urddo, mi oedd hwnna’n brofiad mwy sbesial na ’nes i ’rioed ddychmygu y bysa fo.
A wedyn y goron driphlyg – oh my gosh! O’n i wir ddim yn gwybod be’ i wneud efo fi fy hun ar y llwyfan. O’n i’n teimlo “o mam bach”, ac yn teimlo’n aruthrol o browd o’r plant.
Ac oedd ennill tlws coffa Sioned James am Arweinydd yr Ŵyl i mi yn sbesial achos mi oedd Sioned yn ddylanwad arnaf i, yn ysbrydoliaeth i mi fel merch yn arwain. Ond hefyd, mi oedd hi’n licio codi’r llen ar ambell i ddarn doedd neb ’rioed wedi’i glywed o’r blaen, a dw i’n meddwl ei bod hi wedi arwain y ffordd efo hynny yng Nghymru. Ia, oedd o’n sbesial iawn.
Iddyn nhw, i’r plant a’r rhieni oedd o. Jest i ddangos iddyn nhw fod be’ maen nhw’n ei wneud yn sbesial.
Oes gen ti ddarn o gerddoriaeth y byset ti wrth dy fodd yn ei arwain?
Fyswn i wrth fy modd yn arwain y Faure Requiem o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n un o fy hoff ddarnau i yn y byd i gyd. A dw i wedi dweud ’mod i isio ‘In Paradisium’ yn fy angladd i. O’n i’n rhan o gôr siambr y brifysgol ac oeddan ni’n ei chanu hi bob blwyddyn. Dw i’n cofio disgyn mewn cariad llwyr efo'r gerddoriaeth, a dw i’n gwybod fod o’n ddewis cliché am ei bod hi’n rili cyfarwydd i bawb. Fyswn i’n licio cael côr ffantastig, cerddorfa ac arwain y Faure Requiem o dechrau i diwadd. ’Runig ddrwg ydy, beryg y byswn i’n canu efo bob nodyn soprano hefyd! Ond ie, hwnna ydy’r darn sy’n dod i ’mhen i gyntaf un.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023