Dyn yn yr ysbyty ar ôl i'r heddlu ymateb i ddigwyddiad yn Llangefni

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol am tua 18:00 nos Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Llangefni, Ynys Môn nos Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol toc cyn 18:00.
Mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau, a dyw swyddogion ddim yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Mae 'na apêl ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â Heddlu'r Gogledd.