Edrych yn ôl ar goliau gorau Jess Fishlock

Disgrifiad,

Rhai o goliau gorau Jess Fishlock

  • Cyhoeddwyd

Mae Jess Fishlock bellach wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau, a sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn hanes pêl-droed Cymru.

Daw hyn wedi i dîm merched Cymru orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2025.

Yr ymosodwr sgoriodd y gôl agoriadol nos Fawrth - gôl rhif 45 dros ei gwlad - wrth i Gymru drechu Kosovo 2-0 ym Mharc y Scarlets.

Dyma gasgliad o goliau gorau Fishlock i Gymru - gyda sylwebaeth tîm Chwaraeon Radio Cymru.