Gatland: 'Fydden i heb ddod 'nôl tasen i'n gwybod'
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi cyfaddef na fyddai wedi dychwelyd fel prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru pe bai'n gwybod gwir raddfa'r problemau sy'n wynebu rygbi yng Nghymru.
Er iddi fod y tymor mwyaf cythryblus yn hanes y gêm broffesiynol yng Nghymru, mae Gatland yn credu y gall yr helyntion diweddaraf ysgogi ei dîm yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn yr hydref.
Wrth siarad ar bodlediad Scrum V, dywedodd nad oedd ganddo unrhyw syniad o’r llanast oedd o’i flaen pan ddychwelodd fel prif hyfforddwr y tîm ym mis Rhagfyr.
Sgandal rhywiaeth Undeb Rygbi Cymru (URC), y prif weithredwr yn ymddiswyddo, hyfforddwyr yn cael eu diswyddo neu eu gwahardd, chwaraewyr yn bygwth streicio oherwydd anhrefn cytundebol, tîm cenedlaethol mewn trafferthion a methiannau rhanbarthol parhaus.
Hyn oll yn ogystal â’r pedwar tîm proffesiynol yn wynebu heriau ariannol llym.
'Doedd gen i ddim syniad'
"Pan ddes i mewn i'r Chwe Gwlad, doedd gen i ddim syniad," meddai Gatland.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol o sawl peth oedd yn digwydd a'r materion oedd yn ymwneud â’r garfan a'r chwaraewyr.
“Ar y pryd pe bawn i’n gwybod, byddwn wedi penderfynu’n wahanol ac wedi mynd i rywle arall fwy na thebyg.
“Roedd y materion hyn yn bodoli o’r blaen, ond does dim dwywaith bod llwyddiant y tîm cenedlaethol yn y gorffennol wedi cuddio’r craciau.
“Nawr, er gwell mae’n debyg, maen nhw wedi dod i’r amlwg ac mae yna gyfle i ganolbwyntio ar y pethau oedd angen eu trwsio.
“Mae ’na gyfle gwych i ni gael ailsefydlu nifer o bethau’n gadarnhaol.
"Rwy'n teimlo ein bod yn y lle hwnnw nawr sy'n gyffrous gyda rhai o'r talentau ifanc sy'n dod drwodd."
Er i nifer o chwaraewyr blaenllaw Cymru gyhoeddi na fyddan nhw ar gael ar gyfer Cwpan y Byd, mae Gatland wedi mynnu ei fod yn parhau i deimlo’n obeithiol am obeithion Cymru yn y bencampwriaeth
"Yr hyn sy'n rhoi mantais neu wefr i mi yw pan nad yw'r disgwyliadau yno neu mae'r heriau'n ymddangos yn fwy," meddai.
"Mae hynny'n fy ngyrru hyd yn oed yn fwy.
“Allwn ni ddim anghofio beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae llawer o faterion wedi cael sylw a chwestiynau wedi eu holi.
“Os gall rhai o’r cyfryngau Cymreig ddal ati i’n diystyru ni, byddai hynny’n wych oherwydd maen nhw’n gwneud ffafr enfawr â ni.
"Mae'n caniatáu i ni ddod i mewn o dan y radar a does dim byd mae bechgyn Cymru'n ei garu'n well na chael ein diystyru a’n cefnau yn erbyn wal - maen nhw'n tueddu i ymateb i hynny."
Arian rhanbarthau ar ei ffordd
Yn siarad yn yr un podlediad, fe awgrymodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker fod rhandaliad llawn cyntaf y cytundeb ariannol newydd rhwng pedwar rhanbarth Cymru ag Undeb Rygbi Cymru (URC) am gael ei dalu o fewn y dyddiau nesaf.
Ond fe gyfaddefodd fod rhyddhau arian i'r timau oedd yn brin o arian "wedi cymryd yn rhy hir".
Cafodd cytundeb chwe blynedd newydd rhwng URC a'r timau - Caerdydd, y Gweilch, y Dreigiau a'r Scarlets - ei arwyddo ym mis Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023