Menyw'n gaeth i'w fflat ers dyddiau wedi i lifft dorri

Sonia James
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cyflwr iechyd yn gwneud hi'n amhosib i Sonia James ddefnyddio'r grisiau er mwyn mynd a dod o'i fflat trydydd llawr

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Abertawe yn dweud ei bod wedi ei "hala'n benwan" ar ôl bod yn sownd yn ei fflat am bron wythnos am fod lifft yn yr adeilad wedi torri.

Dywed Sonia James, 63, bod hi a sawl preswylydd arall wedi cael eu heffeithio gan y sefyllfa yn fflatiau ymddeol Tŷ Derw yn Y Sgeti.

Mae hi'n byw gydag arthritis, ffibromyalgia, pwysedd gwaed uchel ac asthma, sy'n golygu na allai ddefnyddio grisiau'r adeilad.

Dywed y gymdeithas dai sy'n gyfrifol am yr adeilad, Caredig, bod disgwyl i'r lifft gael ei drwsio ddydd Iau a bod cymorth ar gael i denantiaid sydd ei angen.

Tŷ  Derw, Y Sgeti
Disgrifiad o’r llun,

Fe dorrodd y lifft yn Nhŷ Derw, Y Sgeti ddydd Gwener 21 Chwefror

Yn ôl Ms James, sy'n byw ar ben ei hun yn ei fflat trydydd llawr, mae'r lifft wedi torri ers prynhawn Gwener.

"Wnaethon nhw ddweud wrthym ddydd Gwener y bydde'n cael ei drwsio erbyn prynhawn Sadwrn," meddai.

"Wnaeth hynny newid wedyn i ddydd Llun, ac yna gawsom wybod byddai'n ddydd Mercher, ond dyw e dal heb ei drwsio.

"Mae yna nifer ohonom yn yr adeilad gyda phroblemau symud sy'n golygu na allen ni ddefnyddio'r grisiau, felly rydyn ni'n sownd yn ein fflatiau."

'Effaith gorfforol a meddyliol'

Mae gofalwyr sy'n ymweld â Ms James yn ddyddiol wedi helpu trwy ddod â bwyd a nwyddau ar ei chyfer.

"Maen nhw'n fy helpu deirgwaith y dydd, yn y bore, amser cinio a min nos ac maen nhw wedi bod o gymorth mawr," dywedodd.

"Ddydd Sadwrn, wnes i drefnu i archfarchnad anfon neges ata'i, ac roedd yn rhaid i ddau o fy nghymdogion helpu'r gyrrwr i ddod â'r bwyd lan ata'i.

Sonia James ger y lifft diffygiol
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sonia James bod methu defnyddio'r lifft wedi achosi straen arni yn gorfforol ac yn feddyliol

"Rwy' wir yn gwerthfawrogi'r holl help rwy'n ei gael, ond mae wedi cael effaith arna'i, yn gorfforol ac yn feddyliol.

"Mae'r tywydd wedi bod yn eithaf braf yn y dyddiau diwethaf, ac rwy'n ceisio colli pwysau, sy'n anodd oherwydd fy anableddau, felly mae bod yn sownd yn y fflat wedi bod yn erchyll.

"Rwy'n talu rhent llawn, bron £800 y mis... mae cyfran o hwnnw'n dâl gwasanaeth, ac mae wnelo rhan o hynny â'r lifft."

Sonia James yn edrych drwy ffenestr ei fflat ar y stryd tu allan
Disgrifiad o’r llun,

Sonia James yn edrych drwy ffenestr ei fflat ar y stryd tu allan

Un arall sy'n dweud ei fod "yn sownd" yn ei fflat yw Robert McVey, sydd yn ei 70au.

"Mae gen i gymorth cerdded a does dim un ffordd y galla i gerdded i fyny ac i lawr y grisiau 'na," dywedodd.

"Rwy'n grac o gownt y peth. Nid dyma'r tro cyntaf iddo ddigwydd."

Robert McVey
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Robert McVey nad dyma'r tro cyntaf i'r lifft dorri ac mae'n flin iawn ynghylch y sefyllfa

Dywedodd llefarydd ar ran Caredig, y gymdeithas dai sy'n gyfrifol am adeilad Tŷ Derw bod contractwyr "wedi cadarnhau achos y nam" erbyn hyn ac archebu cydrannau, a bod disgwyl iddyn nhw allu trwsio'r llifft ddydd Iau.

Mae'r gymdeithas dai, meddai, "yn ymwybodol iawn o effaith problem fel hyn ar denantiaid" ac wedi "ceisio datrys y broblem gynted â phosib a chysylltu'n rheolaidd gyda thenantiaid".

Dywedodd bod staff "wedi ymweld â Thy Derw [brynhawn Mercher] i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a chymorth i bwy bynnag sydd ei angen tra bo'r lifft wedi torri".

Ychwanegodd: "Os yw unrhyw un methu gadael eu fflat fe wnawn ni, wrth gwrs, fynd ati i sicrhau ffordd o'u helpu i wneud hynny yn ddiogel."

Doedd Cyngor Abertawe ddim am wneud sylw gan fod y fflatiau dan reolaeth darparwr preifat.