'Diffyg cefnogaeth ar ôl colli babi wedi achosi trawma'

Shelley Romaniuk
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Shelley Romaniuk broblemau iechyd meddwl ar ôl colli plentyn yn ystod ei beichiogrwydd

  • Cyhoeddwyd

Mae diffyg cwnsela a chymorth iechyd meddwl i bobl sy'n ceisio am fabi yn achosi profiadau trawmatig i gleifion, yn ôl elusen.

Yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Ffrwythlondeb, mae trawma sy'n gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn fwy cyffredin na'r hyn a feddyliwyd yn flaenorol, ac nid yw menywod yn cael cynnig digon o gymorth iechyd meddwl.

Dywedodd un fenyw o Abertawe wrth BBC Cymru fod y diffyg cefnogaeth a gafodd hi ar ôl colli babi wedi achosi trawma am flynyddoedd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod yn rhaid i glinigau ffrwythlondeb gynnig cyfle i siarad â chwnselydd cyn i driniaeth ddechrau, ac y dylai unrhyw un sydd angen cwnsela neu gymorth pellach holi eu meddyg teulu.

Roedd Shelley Romaniuk, 33, a'i gŵr yn disgwyl eu plentyn cyntaf naw mlynedd yn ôl.

Ond pan gyrhaeddodd yr amser i fynd am eu sgan cyntaf, cawson nhw wybod eu bod wedi colli'r babi.

“Fe aethon ni am y sgan 12 wythnos, a chawsom wybod nad oedd gan y babi guriad calon,” meddai Shelley.

“Ar ôl y sgan, fe gawson ni ein rhoi mewn ystafell, fe wnaethon nhw roi taflen wybodaeth i ni a'n gadael ni yno nes i rywun ddod i ofyn beth oedden ni am ei wneud nesaf.”

'Dim cefnogaeth, dim therapi, dim cwnsela'

Dywedodd Shelley ei bod eisiau triniaeth lawfeddygol (D&C) i orffen y broses, ond cafodd hi wybod na allai hynny ddigwydd am wythnos gan nad oedd unrhyw apwyntiadau ar gael.

“Yn y bôn, fe ddywedon nhw na allwch chi ei gael nawr, mae'n rhaid i chi fynd adref a dod yn ôl mewn wythnos a dyna ni.

“Doedd dim cynnig o gefnogaeth, dim therapi, dim cwnsela, ac rydych chi’n cerdded i ffwrdd yn cario’ch babi sydd ddim yn fyw mwyach.”

Wrth aros am y llawdriniaeth, dechreuodd Shelley brofi poenau ac fe aeth i'r ysbyty.

“Yn anffodus fe gollais i'r babi yn naturiol,” meddai.

“Ond hyd yn oed ar ôl hynny, fe aethon ni drwy’r broses gyfan, ces i fy anfon ar fy ffordd a doedd dim cefnogaeth.

"Nes i ddioddef gyda fy iechyd meddwl ar ôl hynny.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Naw mlynedd yn ddiweddarach, ac ar ôl talu am driniaeth breifat, mae Shelley a'i gŵr yn disgwyl babi

Naw mlynedd yn ddiweddarach ac ar ôl talu am driniaeth ffrwythlondeb breifat, mae’r cwpl bellach yn disgwyl babi mewn ychydig o wythnosau.

Ond mae Shelley yn credu bod y diffyg cymorth iechyd meddwl a gafodd wedi gwneud yr holl broses yn anoddach.

“Roedden ni’n gofyn am help tro ar ôl tro, ond doedd dim byd ar gael," meddai.

“Mae’r trawma chi'n dioddef ar ôl colli babi a sut y cawsom ein trin yn aros gyda chi.

“Hyd yn oed nawr wrth fynd am sganiau mae’n anodd, mae’n dod â’r cyfan yn ôl.

“Wnaethon ni byth ddelio gydag e, a pe bawn i wedi cael y gefnogaeth i allu symud ymlaen a phrosesu’r trawma, efallai byddai pethau wedi bod yn wahanol.”

Trawma o'r fath 'yn gyffredin iawn'

Mae gwaith ymchwil ar y cyd gan Fertility Network UK, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol y Frenhines Belfast yn dangos fod trawma sy’n gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn fwy cyffredin na'r hyn oedd yn cael ei gydnabod yn flaenorol, ac mae’r elusen yn galw am well cymorth iechyd meddwl.

Mae ffigyrau’n dangos bod 41% o ymatebwyr o ar draws y DU wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar ôl profi anffrwythlondeb.

Dywedodd Dr Catherine Hill o’r elusen: “Mae’r ymchwil yma'n bwysig iawn, oherwydd mae’n cadarnhau’r hyn y mae pobl sy’n gweithio yn y sector ffrwythlondeb wedi’i amau ers tro, a hynny yw bod trawma sy’n gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn gyffredin iawn."

Yng Nghymru, dywedodd Dr Hill fod llawer o ymatebwyr wedi dweud mai dim ond un sesiwn o gwnsela a gafodd ei gynnig iddyn nhw yn ystod eu taith ffrwythlondeb.

“Dyw un sesiwn o gwnsela ddim yn debygol o grafu’r wyneb hyd yn oed, ac mae llawer o glinigau’n cynnig mwy na hynny," meddai.

“Ond yng Nghymru rydyn ni’n clywed mai dim ond un sesiwn sy’n cael ei gynnig, a dyw hynny ddim yn ddigon i ddechrau mynd i’r afael â’r profiadau trawmatig hyn y mae cleifion yn mynd drwyddynt.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Sofia Gameiro fod natur y gofal y mae nifer o gleifion wedi ei dderbyn wedi gwneud y trawma yn waeth

Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Sofia Gameiro o Brifysgol Caerdydd fod y gofal a gafodd nifer o fenywod wrth dderbyn triniaeth ffrwythlondeb wedi gwaethygu eu trawma, ac mewn rhai achosion wedi achosi eu trawma.

“Er bod rhai ymatebwyr wedi sôn am ofal cadarnhaol, roedd yn amlwg bod dros 60% wedi tynnu sylw at agweddau o’r gofal a achosodd neu wnaeth arwain at fwy o drawma,” meddai Dr Gameiro.

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau lle cafodd trawma ei waethygu gan y gofal a gafodd cleifion, a oedd yn cynnwys diffyg empathi neu gydnabyddiaeth o brofiadau trawmatig, cyngor anghyson a diffyg cefnogaeth gan staff wrth dderbyn newyddion drwg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry’n ni’n gwybod bod anffrwythlondeb ac aros am driniaeth yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles pobl.

"Mae'n rhaid i bob clinig ffrwythlondeb sy'n cael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gynnig cyfle i siarad â chwnselydd cyn i'r driniaeth ddechrau.

"Dylai unrhyw un sydd angen rhagor o gwnsela neu gymorth hefyd ofyn am atgyfeiriad drwy eu meddyg teulu."

Pynciau cysylltiedig