Pobl Caernarfon yn 'mynd yn sâl' o achos mwg 'erchyll' trên stêm
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl sy'n byw uwchben rheilffordd yng Nghaernarfon yn ofni bod y mwg trwchus o'r trên stêm islaw yn peryglu eu hiechyd.
Mae trigolion Rhes Segontiwm yn galw ar Reilffordd Ucheldir Cymru i fynd i afael â’r broblem, a ddechreuodd ddwy flynedd yn ôl, medden nhw.
Mae'r rheilffordd yn dweud bod gwahanol ffactorau - gan gynnwys y rhyfel yn Wcráin - yn golygu nad oes ganddyn nhw fynediad at lo glanach bellach, a'u bod yn gorfod dibynnu ar gyflenwadau o wledydd eraill, sy'n allyrru mwy o fwg.
Maen nhw'n cymysgu'r glo hwnnw â thanwydd di-fwg mewn ymgais i fynd i'r afael â'r mater.
Dywedodd Rheilffordd Ucheldir Cymru eu bod yn cydymdeimlo gyda thrigolion a'u bod yn ceisio cael gafael ar y tanwydd gorau posib.
Ond nid yw'r esboniad hwnnw wedi tawelu meddwl trigolion, sydd wedi lleisio pryderon iechyd ac amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad oes lefelau anarferol o sylffwr deuocsid wedi eu canfod yn yr ardal.
Dywedodd Nia Davies Williams, sydd wedi byw ar Res Segontiwm ers bron i ddegawd, bod trigolion y stryd yn bryderus.
"Mae’r mater hwn wedi achosi cryn bryder yn ein stryd - mae pobl yn mynd yn sâl. Mae’n ofnadwy, rwy’n poeni’n fawr am ein hiechyd.
“Rydym mor bryderus am y mwg erchyll, acraidd hwn sy’n dod i’n tai. Gallwch weld y mwg yn yr awyr yn y tŷ.
“Mae’r rheilffordd ar gyfer hamdden ac efallai y dylen ni roi iechyd yn gyntaf, ac efallai na ddylen nhw ei rhedeg os na allan nhw ddatrys y broblem hon yn llwyr.”
Dywedodd Nia fod tymor y teithiau rheilffordd yn dod i ben ddiwedd mis Hydref, heblaw am ddigwyddiadau arbennig dros gyfnod y Nadolig, ond mae trigolion yn ofni beth fydd y sefyllfa'r flwyddyn nesaf.
“Ym mis Mehefin 2022 daethom yn bryderus iawn am ansawdd y mwg a gwnaethom sylwi y gallem ei flasu.
“Dydych chi ddim yn meiddio gadael y ffenestri ar agor yn yr haf mwyach, oherwydd y mwg.
“Os oes gen i’r ffenestri ar agor ychydig bach yn unig, rwy’n rhuthro i’w cau ar unwaith pan glywaf y trên yn dod.
“Dydyn ni ddim yn mynd i adael iddo fynd y tro hwn, mae gwir angen iddyn nhw wneud rhywbeth i atal hyn.”
Mae Nia yn credu mai'r newidiadau i'r orsaf a'r glo sy'n cael ei ddefnyddio sy'n gyfrifol am y problemau allyriadau.
“Fe wnaethon nhw adeiladu gorsaf newydd yn lle’r hen un ac fel rhan o hynny fe ddaethon nhw â’r trac trên ymhellach ymlaen felly mae’n union o dan y tai, doedd hi byth yn dod mor bell â hynny o’r blaen, felly dyna un peth.
“Ac roedd y glo yn arfer bod yn iawn, roedd yn hyfryd mewn gwirionedd, roeddech chi'n gallu gweld a chlywed y trenau.
“Ond fe ddechreuon nhw gael trafferth tua dwy flynedd yn ôl gyda’r cyflenwad o lo oherwydd bod pyllau glo Cymru’n cau, a dyna’r pwynt byddwn i’n dweud ei fod wedi dechrau cael problem wirioneddol.
“Mae’n debyg eu bod nhw wedi prynu’r glo yma o Brasil neu Colombia ac maen nhw’n cydnabod eu hunain mai glo budr iawn ydyw ond does ganddyn nhw ddim dewis.
“Oherwydd y rhyfel yn ymwneud â Rwsia ni allant ei gael oddi yno, a does dim glo bellach yng Nghymru.”
Dywedodd rheolwr cyffredinol Rheilffordd Ucheldir Cymru, Paul Lewin fod ffynonellau glo yn "bwnc llosg" ar y funud.
"Ers dros ddegawd 'da ni wedi bod yn llosgi glo sych o Gymru - dyma'r deunydd Rolls Royce ar gyfer trenau stêm," meddai.
"Mae'n lo caled ac mae'n llosgi'n boeth iawn ac am amser hir, a does dim llawer o fwg.
"Ond yr her i ni ydy bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod â chynhyrchiant glo i ben yng Nghymru.
"Rydyn ni'n deall pam fod hynny, a'r angen i ddatgarboneiddio, ond dyw'r glo yma ddim ar gael i ni bellach."
Ychwanegodd eu bod yn arfer gallu prynu glo o safon o Rwsia hefyd, ond oherwydd y rhyfel yn Wcráin mae'r ffynhonnell honno hefyd wedi dod i stop.
Dywedodd eu bod bellach yn llosgi cymysgedd o lo sydd wedi'i fewnforio, a thanwydd di-fwg, ond ei bod yn "her ceisio cymysgu'r pethau yma efo'i gilydd".
"'Da ni'n ofalus iawn am sut 'da ni'n defnyddio'r glo, ond weithiau 'da ni'n cael pethau'n anghywir.
"'Da ni ddim eisiau'r mwg chwaith, na'n cwsmeriaid ni, felly 'da ni'n trio delio efo hynny'n ofalus.
"Ond mae'n bwysig cofio, os ydych chi'n gweld stwff gwyn yn dod o simnai’r injan, stêm ydy hynny, dim mwg.
"Rydyn ni'n cydymdeimlo gyda'n cymdogion. Mae 'na lot o swyddi yma efo'r rheilffordd, felly dydi cau ddim wir yn opsiwn."
Ychwanegodd eu bod yn ceisio canfod y tanwydd gorau, ond fod hon yn broblem sy'n wynebu'r diwydiant trenau stêm yn ei gyfanrwydd.
'Ymwybodol o bryder lleol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn ymwybodol o’r pryder yn lleol am fwg yn codi oherwydd llosgi glo ar safle Rheilffordd Ucheldir Cymru yng Nghaernarfon.
“Mae ein Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi bod yn monitro ansawdd yr aer ar y stryd uwchben yr orsaf drenau a dros y tri mis diwethaf nid oes lefelau anarferol o sylffwr deuocsid wedi eu canfod yn y lleoliad, ac nid yw’r lefelau a ganfuwyd yn rhagori ar lefelau amcanion ansawdd aer cydnabyddedig.
“Mae swyddogion y Gwasanaeth yn trafod gwelliannau posib y gall Rheilffordd Ucheldir Cymru eu cyflwyno er mwyn lleddfu pryderon preswylwyr cyfagos a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa.”