Teuluoedd ger afon 'ddim yn ddiogel' heb wal ers wyth mis

Afon Tawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae teuluoedd sydd yn byw ger Afon Tawe yn “poeni’n fawr” wedi i wal eu gerddi disgyn i’r afon

  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd sy'n byw ger Afon Tawe yn Ystradgynlais yn “poeni’n fawr am ddiogelwch ein teulu” wedi i wal eu gerddi disgyn i’r afon wyth mis yn ôl.

Disgynnodd y wal i’r afon ym mis Chwefror yn dilyn cyfnod o law trwm, ac mae preswylwyr ar stryd Llys Tawel wedi bod yn galw ar Gyngor Powys i’w hailadeiladu ers hynny.

Ond yn ôl y cyngor, dydyn nhw ddim yn “gwybod pwy sy’n gyfrifol am y wal”, ac felly mae’n fater i'r perchenogion a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Dywedodd llefarydd ar ran CNC nad oes ganddynt unrhyw bwerau cyfreithiol na chyfrifoldeb i gynnal nac adfer y wal.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni heb dderbyn unrhyw help o gwbl," meddai Kevin Davies

Mae Kevin Davies a’i gymdogion, Imogen a Justin Crewe, yn dweud eu bod yn ofni y bydd angen “gadael eu tai cyn gynted ag y byddwn ni’n sylwi ar dywydd garw”, rhag ofn i lefelau afonydd godi a rhoi eu cartrefi dan ddŵr.

Dywedodd Mr Davies taw amcangyfrif o gost atgyweirio'r wal yw tua £450,000.

“Ers mis Chwefror ni wedi cael sawl cyfarfod gyda’r awdurdodau, ond yn anffodus ni heb dderbyn unrhyw help o gwbl," meddai.

“Maen nhw’n ceisio dweud mai ein cyfrifoldeb ni yw e, ond mae’r holl dystiolaeth rydyn ni wedi’i chasglu wedi tynnu sylw at y ffaith mai’r cyngor yw perchennog y wal.”

'Colli cwsg'

Dywedodd Mr Davies ei fod wedi edrych trwy archifau o gyfarfodydd y cyngor a chanfod bod y wal wedi'i hadeiladu gan Gyngor Aberhonddu yn 1912 yn dilyn llifogydd yn yr ardal.

“Mae hynny’n amlwg bellach yn Gyngor Powys, felly eu cyfrifoldeb nhw yw e o hyd," meddai.

Dywedodd Mr Davies fod ei iechyd wedi dioddef oherwydd y pryder.

“Fi wedi colli llawer o gwsg dros hyn. Fi wedi cael salwch.

"Mae nid yn unig yn bryder ariannol ond mae’n effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol.”

Disgrifiad o’r llun,

“Dydyn ni jyst ddim yn teimlo’n ddiogel," meddai Imogen Crewe, yma gyda'i gŵr Justin a'u mab Freddie

Yn ôl Mr Davies, ers i'r wal ddymchwel mae tua 20 troedfedd o'i ardd wedi ei golli oherwydd erydiad, ac mae'r un peth wedi digwydd i erddi ei gymdogion.

Mae Justin ac Imogen Crewe yn byw drws nesaf gyda'u mab chwe mis oed Freddie, a'u mab dwy oed Hari.

Dywedodd Imogen ei bod yn bryderus am ddiogelwch ei theulu.

“Dydyn ni jyst ddim yn teimlo’n ddiogel.

"Ni’n cael ein hatgoffa bob tro y byddwn yn gadael y drws ffrynt neu’n edrych allan drwy’r ffenest, mae yna dwll ar ddiwedd yr ardd.

“Os bydd yr afon yn mynd mor uchel ag y bu yn y gorffennol, yna gallai’r dŵr ddod i mewn i’r ardd yn hawdd, a’r pryder yw y bydd yn cyrraedd y tŷ.”

'Dim opsiwn arall'

Fe wnaeth y trigolion gyflogi peiriannydd i brisio'r gost o atgyweirio'r wal, a dywedodd ei fod yn debygol o gostio tua £450,000.

“Mae’r ffaith bod disgwyl i ni dalu hynny yn chwerthinllyd," meddai Justin.

"Eiddo’r cyngor ydy e, ac nid ein heiddo ni.

"Mae’n rhaid iddyn nhw gael rhyw fath o gyllideb i helpu pobl fel ni.

“Dydyn ni ddim eisiau i’n plant gael eu brifo mewn unrhyw ffordd ac mae’n frawychus.”

Mae trigolion Llys Tawel bellach wedi gofyn i fargyfreithiwr edrych ar yr achos ar eu rhan.

“Mae’n anffodus ond does gennym ni ddim opsiwn arall," meddai Mr Davies.

Dywedodd Gavin Brown, Pennaeth Gweithrediadau CNC ar gyfer canolbarth Cymru eu bod wedi "cwrdd â thrigolion lleol" i "ddeall y sefyllfa ac i wrando ar eu pryderon".

Aeth ymlaen i ddweud mai rôl CNC yw rhybuddio pobl am y risg o lifogydd ac i sicrhau fod rhwystrau llifogydd mewn lle.

"Nid CNC sy'n berchen ar y tir lle mae'r wal ac nid yw'r wal wedi ei gategoreiddio fel rhwystr i lifogydd.

O ganlyniad, dywedodd: "Nid oes gennym unrhyw bwerau cyfreithiol na chyfrifoldeb i gynnal nac adfer y wal."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys eu bod yn cydnabod pryderon trigolion Llys Tawel, “ond yn anffodus nid ydym yn gallu rhoi cymorth i osod wal newydd".

“Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am y wal ac felly mae’n fater i'r perchnogion, y partïon yr effeithir arnynt a Chyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdod perthnasol ar gyfer y brif afon."