'Hunllef' i gwpl ar ôl i wal eu gardd ddisgyn i Afon Tawe

  • Cyhoeddwyd
Wal Ystradgynlais
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Kevin Davies a'i bartner "glec aruthrol" pan ddisgynnodd y wal fore Iau

Mae dyn o Ystradgynlais yn dweud ei fod yn "byw mewn hunllef" wedi i wal yn ei ardd gwympo i'r afon yng nghanol y nos.

Cafodd Kevin Davies a'i bartner eu deffro am 04:30 fore Iau ar ôl clywed "glec aruthrol" y tu allan.

"Pan edrychon ni yn y bore fe welsom ni'r rhan gyfan o'r wal wedi cwympo i Afon Tawe," meddai Mr Davies.

Yn ôl Mr Davies, mae wedi bod mewn cysylltiad â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Sir Powys am 10 mlynedd ynglŷn ag erydiad y wal, ond mae'n honni "nad oes neb yn cymryd cyfrifoldeb".

Dywed CNC nad eu cyfrifoldeb nhw yw'r wal, tra bod Cyngor Sir Powys yn dweud gan fod Afon Tawe wedi'i dynodi'n brif afon, CNC sy'n gyfrifol amdani.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kevin Davies a'i bartner eu deffro am 04:30 fore Iau ar ôl clywed "glec aruthrol" y tu allan

Dywed Mr Davies iddo adrodd ei bryderon i CNC a Chyngor Powys ddegawd yn ôl, ar ôl i dwll ymddangos ar waelod ei ardd.

Dywedodd: "Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru allan a gwneud arolygiad yma.

"O fewn mis roedd arbenigwyr yma yn gwneud samplau pridd, deifwyr yn yr afon a samplau concrit.

"Fe wnaethon nhw wario tua £30,000 dwi'n credu i ddarganfod achos y peth.

"Wnaethon nhw ddarganfod bod lefelau'r afon yn codi ac yn erydu'r wal a dyna wnaeth achosi'r twll."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Davies ei fod yn poeni am ddyfodol ei gartref

Dywed Mr Davies ei fod wedi edrych trwy archifau cyfarfodydd y cyngor a chanfodydd bod y wal wedi ei hadeiladu gan Gyngor Aberhonddu yn 1912 yn dilyn llifogydd yn yr ardal.

"Yn amlwg, Cyngor Powys yw hi bellach, nid Aberhonddu, felly dydyn nhw ddim yn cymryd cyfrifoldeb," meddai.

"Rydyn ni'n byw mewn ardal sydd mewn perygl o gael llifogydd, ond mae CNC yn dweud nad ydyn nhw'n ei chyfri fel wal sy'n amddiffyn rhag llifogydd, er mai dyna pam gafodd hi ei hadeiladu."

Pryder am lifogydd

Dywed Mr Davies ei fod yn poeni am ddyfodol ei gartref.

"Gyda'r tywydd eithafol rydyn ni'n ei gael, rydyn ni'n wirioneddol bryderus y gallai lefelau'r afon godi'n gyflym, fel rydyn ni wedi gweld o'r blaen, ac achosi llifogydd yn y tŷ.

"Rydyn ni wedi gweld erydiad y wal yn digwydd yn araf dros amser, a dyw ddim wedi cael ei gynnal, a nawr mae hyn wedi digwydd.

"Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod fel hunllef."

Disgrifiad o’r llun,

Cymdogion Mr Davies, Justin ac Imogen Crewe

Mae cymdogion Mr Davies, Justin ac Imogen Crewe, yn byw drws nesaf gyda'u mab blwydd oed.

Dywedodd Mr Crewe: "Mae'n ddychrynllyd i wybod bod y wal, sy'n cadw ein tŷ rhag cael ei effeithio gan lifogydd, wedi diflannu, a 'dyn ni bellach ddim yn teimlo'n ddiogel yn ein tŷ.

"Rydyn ni wedi dychryn yn llwyr. Ni wedi cael dwy noson ddi-gwsg yn poeni am yr hyn allai ddigwydd.

"Diolch byth, dyw'r tywydd ddim wedi bod yn ofnadwy, ond y tro nesaf y cawn dywydd gwael fe allwn ni gael llifogydd, a dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw arweiniad."

Disgrifiad o’r llun,

Y wal cyn iddo ddisgyn i'r afon

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Cafodd y cyngor wybod am wal wnaeth ddymchwel ar ran o Afon Tawe yn Ystradgynlais ac roedd swyddogion lleol yn bresennol i asesu'r sefyllfa.

"Mae Afon Tawe wedi'i dynodi'n brif afon ac felly'r awdurdod arweiniol yn yr achos hwn fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn ni wedi rhoi gwybod iddyn nhw fod y wal wedi dymchwel."

Dywedodd Neil Stoddart o CNC: "Rydym yn ymwybodol bod rhan o wal wedi cwympo i'r afon yn Ystradgynlais ac rydym yn cydymdeimlo â'r tirfeddiannwr yr effeithiwyd arno.

"Bydd ein gweithwyr yn ymweld â'r ardal i ymchwilio ac i asesu unrhyw berygl llifogydd ychwanegol a achosir gan y digwyddiad.

"Ar ôl ystyried y mater yn fanwl iawn a chael cyngor cyfreithiol dros y blynyddoedd diwethaf, nid ydym yn ystyried mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r wal."