'Calon fi'n hapusach': Dynes yn colli dros dair stôn gyda help cyffur

Mae Annie wedi colli tair stôn a naw phwys mewn cwta bedwar mis - ond mae hi'n gobeithio colli rhagor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annie wedi colli tair stôn a naw phwys mewn cwta bedwar mis - ond mae hi'n gobeithio colli rhagor

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Wynedd yn dweud bod defnyddio cyffur colli pwysau wedi "rhoi ei bywyd yn ôl" iddi.

Dywedodd Annie Walker, 41, bod cadw'n heini drwy ymarfer corff yn amhosib gan ei bod yn byw gyda phroblemau gyda'i chefn a chyflyrau iechyd eraill.

Ond mae'n dweud ei bod wedi colli tair stôn a naw phwys mewn pedwar mis gan ddefnyddio chwistrelliad colli pwysau Mounjaro, a bod hynny wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae pryderon dros sgil effeithiau hirdymor y pigiadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu'r defnydd o gyffuriau tebyg.

AnnieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annie - yma cyn troi at Mounjaro - yn cydnabod nad ydy'r cyffur hwn yn iawn i bawb

Dywedodd Annie, o Bontllyfni, ei bod hi'n teimlo ei bod hi wastad wedi "bod yr hogan bach plump".

"Dwi'n teimlo bo' fi 'di byw bywyd fi fel yr hogan mwyaf oedd ddim yn ffitio ar sêt y ar y plane a cael fy mwlio am fod yn dew yn ysgol," meddai.

Mae'n dweud bod troi at fwyd am gysur wedi deillio o drawma pan yn blentyn.

"Coping mechanism i fi oedd troi at da-das a sothach fel form o copio fel plentyn, a dwi'n teimlo dwi 'di mynd â hwnna o plentyndod fi i lle dwi rŵan."

Dywedodd ei bod wedi cael problemau iechyd ers yn 20 oed a bod hynny wedi arwain at fagu pwysau, gan golli hyder.

"Ma'n ca'l chdi lawr yn uffernol, dwi 'di gweld fy hun dros y chwe blynedd diwethaf jest yn rhoi pwysau ar ac mae hynna yn cael fi'n fwy isel."

'Dwi'n fwy hyderus'

Mae Annie yn dweud bod prynu Mounjaro fel modd o golli pwysau wedi bod yn benderfyniad anodd, ond yr un iawn iddi hi.

"Be' sy'n bwysig i fi ydy, dwi 'di 'neud hwn i fi a neb arall," meddai.

"Mae calon fi'n teimlo'n hapusach, dwi'n teimlo'n fwy hyderus ac yn fwy content, a be' mae 'di rhoi i fi ydy bywyd fi'n ôl."

Mae Annie yn cydnabod nad ydy'r cyffur hwn yn iawn i bawb a bod pryderon y gallai pobl fregus archebu'r cyffur ar-lein heb ddigon o wirio.

Ond mae'n dweud y gallai'r math yma o driniaeth arbed pres i'r gwasanaeth iechyd.

Dr Phil White
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Phil White bod "cynnydd aruthrol" yn y nifer sy'n mynd yn breifat am driniaeth i golli pwysau

Dywedodd cyn-gadeirydd y BMA yng Nghymru bod cwestiynau o hyd am sut mae modd derbyn y driniaeth ar hyn o bryd.

"'Da ni 'di gweld cynnydd aruthrol yn y nifer sy'n mynd yn breifat a 'da ni'n poeni braidd am hyn," meddai Dr Phil White.

"Ma'n iawn os ydy'r fferyllydd lleol yn rhoi cyngor i chi ac yn gweld chi, ond 'da ni'n gweld lot o bobl ar-lein yn archebu heb i neb weld nhw."

Er y pryderon am sgil effeithiau hir dymor hefyd, dywedodd Dr White pe bai'r cyffuriau yn cael eu cymeradwyo y gallan nhw fod yn help i wella iechyd cyhoeddus.

"Mae sgil effeithiau iechyd o ran cario pwysau, felly o bosib 'sa'n arbed pres i'r gwasanaeth iechyd yn y tymor hir os ydy pobl yn colli pwysau - llai o risg o glefyd siwgr a chlefyd y galon."

Ffion Hewson
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy o bwyslais ar gadw'n iach, medd Ffion Hewson

Ond yn ôl yr hyfforddwr personol Ffion Hewson, mae angen gwella mynediad at ymarfer corff.

"Mae 'na ormod o bethau afiach a bwydydd afiach sy'n hawdd," meddai sylfaenydd Newid, sy'n cynnig cymorth i bobl golli pwysau a byw yn iach.

"Ma' isio i ni newid hynny a gwneud pethau iach yn hawdd, dyna ydy'r challenge mawr sydd ganddo ni ar ein dwylo."

Mae angen mwy o bwyslais ar gadw'n iach, meddai, ond mae'n cydnabod bod lle o bosib i feddyginiaeth fel Mounjaro mewn rhai achosion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod meddyginiaethau colli pwysau ar gael drwy raglen colli pwysau arbenigol y gwasanaeth iechyd.

"Rydym yn ystyried sut fydd meddyginiaethau tebyg ar gael drwy ofal cychwynnol yn y dyfodol," meddai datganiad.

Mae disgwyl i'r llywodraeth wneud penderfyniad terfynol ar ymestyn y defnydd yng Nghymru yn fuan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.