'Dylai fod yn haws cael pigiad colli pwysau' medd dyn o Wynedd

Elfed Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfed Wyn Morgan yn cymryd cyffur Mounjaro er mwyn ceisio colli pwysau ac osgoi datblygu diabetes llawn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wynedd yn dweud y dylai fod yn haws derbyn pigiad colli pwysau gan y gwasanaeth iechyd.

Mae Elfed Wyn Morgan, 52 o Ben Llŷn, yn byw gyda diabetes cynnar ers dros chwe blynedd - yn ogystal â phwysau gwaed uchel.

Dywedodd ei fod yn gwario dros £100 y mis ar gyffur Mounjaro, er mwyn ceisio colli pwysau ac osgoi datblygu diabetes llawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y cyffur ar gael i gleifion sy'n gymwys.

Dywedodd dietegydd na ddylai'r pigiad fod yn "easy fix", ac y dylai pobl gael eu "stopio rhag mynd dros eu pwysau'n y lle cyntaf".

Be' ydy Mounjaro?

Mounjaro ydy'r enw masnachol ar gyffur sy'n cael ei adnabod fel tirzepatide gan fferyllwyr.

Mae'n gyffur colli pwysau sy'n gwneud pobl deimlo'n llawn am yn hirach, ac felly yn llai llwglyd.

Daw ar ffurf pigiad, ac mae pobl yn gallu ei gymryd unwaith yr wythnos.

Y pigiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Mounjaro ar gael i gleifion sy'n gymwys

Dywedodd Mr Morgan ei fod yn ceisio bwyta'n iach a chadw'n heini, ond bod pethau'n dal i fynd i'r cyfeiriad anghywir iddo.

Mae felly wedi cychwyn ar drywydd arall a phrynu Mounjaro gyda'i arian ei hun, ar ôl cael gwybod na fyddai'n gallu cael presgripsiwn ohono gan ei feddyg teulu.

Mae'n cymryd y cyffur ers mis bellach.

"Mi gostiodd yr un cynta' £139 i mi," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Ma' hwnna wedi gweithio. Dwi wedi bod bore 'ma at y fferyllydd lleol, a ma'n dangos dwi 'di colli naw pwys mewn mis.

"Dwi ar y dos arall rŵan sef yr un cryfach - dwbl y dos - ac wrth gwrs ma'r pris yn mynd yn uwch hefyd."

'Lot o bres'

Ond mae Mr Morgan yn cydnabod nad pawb sy'n gallu ysgwyddo cost y pigiad, ac mae felly yn galw am ei gwneud hi'n haws i'w gael ar y gwasanaeth iechyd.

"Dwi'n talu rŵan, £169 y mis amdano fo - mae o'n lot o bres a dim pawb sy'n gallu 'fforddio fo," meddai.

"S'gen y llywodraeth ddim pres nagoes. Ma'r llywodraeth yn 'neud be' ma' nhw'n gallu 'neud."

Ond ychwanegodd y byddai'n hoffi pe bai modd cael cyfraniad tuag at gost y cyffur.

"Dwi'n hapus i dalu am feddyginiaeth - ond sa' nhw ond yn talu'i hanner o," meddai.

Gwawr James
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen addysgu pobl i beidio cyrraedd y pwynt lle maen nhw angen cyffuriau colli pwysau, medd Gwawr James

Yn ôl Gwawr James, sy'n ddietegydd, mae hi'n "deall lle ma'u poblogrwydd nhw [cyffuriau colli pwysau] yn dod, ond dwi ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu defnyddio fel easy fix," meddai.

"Mi ddylsen ni fod yn stopio pobl fynd dros eu pwysau yn y lle cynta', yn hytrach na delio efo'r broblem yn yr hir dymor."

Ychwanegodd mai'r ateb ydy addysgu pobl.

"Falle'r dylsen ni wneud mwy o addysgu ac atal pobl rhag cyrraedd y pwynt lle dylsen nhw fod yn defnyddio nhw [cyffuriau colli pwysau]."

Dywed Llywodraeth Cymru fod "Mounjaro a meddyginiaethau colli pwysau eraill ar gael yn gyson yng Nghymru yn unol â chanllawiau NICE (Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) a Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan.

"Ar hyn o bryd, dylai rhagnodi meddyginiaethau colli pwysau fod trwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol y GIG," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig