Cyffuriau colli pwysau wedi 'newid bywyd' gohebydd S4C

Dywedodd Caryl Bryn iddi bwyso 28 stôn ar un adeg, ond mae bellach wedi colli 13 stôn
- Cyhoeddwyd
Mae gohebydd rhaglen Heno ar S4C wedi dweud fod cymryd chwistrelliad colli pwysau wedi newid ei bywyd yn llwyr.
Ar un adeg, dywedodd Caryl Bryn ei bod yn pwyso 28 stôn.
Cafodd ddiagnosis o orfwyta mewn pyliau (binge eating) yn ystod y pandemig, ac mae hi hefyd wedi byw â'r cyflwr PCOS (Polycystic ovary syndrome).
Erbyn hyn mae wedi colli dros 13 stôn o ganlyniad i'r chwistrelliad a newid ei ffordd o fyw.
Ond mae un meddyg teulu wedi rhybuddio fod sgil effeithiau cyffuriau o'r fath yn gallu bod yn ddifrifol a bod meddygon yn poeni fod rhai pobl yn cael meddyginiaethau ar y we heb yr oruchwyliaeth sydd ei angen.
'Rhyfel rhwng fi a 'mhwysau'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Caryl ei bod wedi bod yn defnyddio chwistrelliad Mounjaro yn rheolaidd i golli pwysau.
Cyn defnyddio'r chwistrelliad, dywedodd ei bod wedi gwneud "lot o waith ymchwil, bwyta'n gall, lot o resistance training".
Gyda phoblogrwydd y dull yma o golli pwysau yn cynyddu, mae'n dweud y dylai chwistrelliad o'r fath fod ar gael ar y gwasanaeth iechyd.
"[Byddai] doctor yn medru addysgu rhywun sydd am ei gymryd ynghylch y sgil effeithiau, ynghylch beth mae o'n gallu 'neud i rywun a bod y cyngor yna gan feddyg NHS yn dod efo'r cyffur yn hytrach na bod rhywun yn gorfod mynd i chwilio amdano fo'n breifat," meddai.
Dywedodd fod y chwistrelliad yn gostus: "Dwi'n dal i dalu £200 y mis am y cyffur a beryg fydd o'n rhywbeth hir dymor hefyd."

Mae Caryl wedi cyfrannu at gyfrol newydd sy'n sôn am brofiadau menywod o fyw mewn corff mwy
Wrth siarad yn agored am ei phwysau, dywedodd: "Mae 'di bod yn rhyfel rhwng 'tha fi a 'mhwysau ers blynyddoedd.
"Dwi 'di trio pob un diet, 'di trio bwyta'n iach, ond y cyflwr sydd gynna fi, y PCOS a'r binge eating disorder yn y pen draw yn curo bob dim, bob un o'm hymdrechion i.
"Os 'di diet ac ymarfer corff yn gweithio i bobl yna mae hynny'n fendith, ond mae 'na rhai ohonom ni sy'n methu colli'r pwysau yna."
Mae Caryl wedi cyfrannu at gyfrol newydd, Fel yr Wyt, sy'n sôn am brofiadau 20 o fenywod o fyw mewn corff mwy gan ddweud nad oes "digon o sgwrs o fod dros bwysau".
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan enwau cyfarwydd fel Caryl Parry-Jones, Gwenan Evans a Bethan Antur.

Mae Caryl yn gobeithio y bydd pobl yn cael cysur o ddarllen y gyfrol newydd
Dywedodd Caryl nad oedd hi wedi meddwl ddwywaith am gyfrannu er mwyn ehangu'r sgwrs am fod dros bwysau.
"Dwi'n falch iawn o rannu fy mhrofiad i efo'r merched anhygoel yma," meddai.
"Pan o'n i'n ifanc, doedd 'na ddim math o adnodd i bobl dros eu pwysau."
Ei gobaith yw y bydd pobl yn medru cydio yn y llyfr a theimlo cysur wrth ei ddarllen.
'Sgil effeithiau difrifol'
Dywedodd y meddyg teulu Dr Llinos Roberts fod y "cyffuriau yma yn gam cyffrous o fewn y diwydiant yn y maes meddygol o ran ffurf arall i gefnogi cleifion i golli pwysau".
Er ei bod yn cydnabod nad dyma fydd cam cyntaf y daith i golli pwysau i neb, a bod angen edrych ar newidiadau i ffyrdd pobl o fyw, dywedodd ei fod yn "ddefnyddiol i rai cleifion".
"Mae rhai penodol - chwistrelliadau fel Ozempic yn cael eu cynnig mewn clinigau arbenigol lle mae rhywun yn cael goruchwyliaeth fanwl," meddai Dr Roberts.
"Mae 'na criteria penodol am bwy sy'n gymwys i bwy sy'n cael y math yma o feddyginiaethau oherwydd er bod o'n gallu bod yn fuddiol iawn, mae 'na sgil effeithiau iddyn nhw hefyd."
Ychwanegodd mai un o'r pethau sy'n "gofidio" meddygon yw bod "pobl yn cael y meddyginiaethau dros y we, heb yr oruchwyliaeth benodol fyddwn i'n ei ddymuno".
"Mae'r sgil effeithiau yn gallu bod yn rhai difrifol iawn, felly mae angen y goruchwyliaeth a'r gefnogaeth feddygol."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.