Agor a gohirio cwest i ddynes, 33, fu farw yn Abersoch

Caren WilliamsFfynhonnell y llun, Gwenan Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd crwner fod ganddi achos rhesymol i amau ​​bod marwolaeth Caren Williams yn un o achosion annaturiol

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dynes 33 oed ym Mhen Llŷn fis diwethaf.

Bu farw Caren Eleri Williams o ardal Dinas, ger Caernarfon, yn ystod oriau mân fore Gwener, 21 Mehefin.

Dywedodd y crwner Kate Robertson wrth y gwrandawiad ddydd Mercher fod ganddi "achos rhesymol i amau ​​bod marwolaeth Caren Williams yn un o achosion annaturiol".

Ar ryw bwynt yn hwyr yn y nos, clywodd y cwest, bod Ms Williams yn anymatebol (unresponsive).

Clywodd Llys y Crwner yng Nghaernarfon fod Ms Williams, a oedd yn gweithio fel swyddog tai, wedi bod gyda'i phartner yn ystod y dydd.

Er i CPR gael ei gynnal ac i'r gwasanaethau brys gael eu galw, cafodd ei chyhoeddi'n farw yn Nheras Bayview yn Abersoch am 02:30.

Mae archwiliad post mortem wedi'i gynnal ond nid ydy achos y farwolaeth yn hysbys eto.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Mae cronfa GoFundMe wedi ei sefydlu ers marwolaeth Ms Williams, sydd wedi codi dros £4,700 erbyn hyn.