'Cytundeb gwell ar gael' i geisio diogelu dyfodol Tata

Tata Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Tata yn cyflogi tua 4,000 o weithwyr ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd

Mae "cytundeb gwell ar gael" ar gyfer dyfodol gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot, yn ôl ysgrifennydd busnes llywodraeth Lafur newydd y DU.

Roedd y llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi cytuno i roi £500m i helpu cadw'r safle ar agor a symud at ddulliau cynhyrchu glanach ond fe fyddai 2,800 o swyddi'n diflannu ar draws y DU.

Dywed yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds bod sefyllfa Tata "yn flaenoriaeth fawr" a bod e a'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer eisoes wedi siarad gyda'r cwmni ynghylch bod "yn bartner ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol".

Ychwanegodd bod "gwarantu swyddi yn rhan o'r cytundeb rydym yn ei drafod".

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cymru newydd, Jo Stevens, fe fydd yna drafodaethau brys "yn fuan" rhwng y llywodraeth a'r cwmni.

Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg, dywedodd Mr Reynolds bod datrys materion tramgwydd "yn flaenoriaeth" a bod yr amserlen i wneud hynny "ddim yn fawr".

Dywedodd bod yna "fwy o arian ar gael ar gyfer y diwydiant dur gan ein cynlluniau llywodraethu".

Nid oedd am wneud addewid pendant i ddiogelu'r swyddi sydd dan y fwyell, ond dywedodd: "Rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i ni sicrhau bod y trosglwyddiad yma [o ffwrneisi chwyth i rai arc trydan] yn un sy'n gweithio i'r gweithwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae datrys yr ansicrwydd dros ddyfodol Tata a miloedd o swyddi yn flaenoriaeth, medd yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds

Yn ei chyfweliad cyntaf ar raglen Politics Wales ers gael ei phenodi'n Ysgrifennydd Cymru, dywedodd Jo Stevens y byddai Llywodraeth y DU yn cynnal "trafodaethau brys yn fuan" gyda Tata dros ddyfodol gweithfeydd Port Talbot a hwyluso'r broses o gyflwyno dulliau cynhyrchu mwy gwyrdd.

"Rydan ni eisiau i fwy o ddur gael ei gynhyrchu yng Nghymru ac yn y DU," dywedodd.

"Yn sicr mae gan Tata ran i'w chwarae yn hynny ac rwy' eisiau i weithwyr dur Cymru fod ar flaen y gad."

Fe fydd Ms Stevens yn cadeirydd bwrdd trosglwyddiad sydd â chronfa o £100m i helpu gweithwyr sy'n wynebu cael eu diswyddo.

Dywedodd y bydd rhai gweithwyr, o bosib, yn fodlon cael eu diswyddo'n wirfoddol "ond dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw ddiswyddiadau gorfodol".

Gan longyfarch Syr Keir Starmer am ei fuddugoliaeth yn yr etholiad, dywedodd prif weithredwr Tata Steel UK, Rajesh Nair ei fod "yn edrych ymlaen at weithio gyda'r llywodraeth newydd ar ein nodau cyffredin o dyfu cynhyrchu dur gwyrdd yn y DU, a chreu amgylchedd weithredu bositif ar gyfer y diwydiant hollbwysig yma".

Ychwanegodd: "Yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf byddan ni'n trafod gyda'r gweinidogion newydd ein cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi a thrawsnewid Port Talbot gyda chynhyrchu dur ffwrnais arc drydan ac i gefnogi ein gweithwyr trwy'r newid angenrheidiol ond anodd yma."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe gauodd un o'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn gynharach yr wythnos hon

Yn gynharach, fe ddywedodd yr AS lleol, yr AS Llafur Stephen Kinnock, wrth raglen Sunday Supplement ei fod yn credu bod Tata yn gwmni sy'n ystyried "lles gorau'r gymuned" a nad yw'n gwmni i "dorri a chefnu" ar yr ardal.

"Rwy'n meddwl bod yna bobol o blith arweinwyr Tata sy'n synhwyrol ac yn bragmatig ac sydd eisiau trafod," dywedodd.

Yn ôl Sharon Graham, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Unite union - yr undeb fwyaf ymhlith gweithwyr Tata - bod angen i warantiadau o ran swyddi fod ynghlwm ag unrhyw fuddsoddiad yn y cwmni.

Mae cael llywodraeth Lafur mewn grym erbyn hyn, meddai, a'u bwriadau o ran Tata, "yn beth da" ond fe fydd yn parhau i roi pwysau arnyn nhw i ddatrys y sefyllfa ac yn craffu ar y trafodaethau rhwng y ddwy ochr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "gweithio'n agos" gyda llywodraeth newydd y DU i weld a yw cytundeb gwell yn bosib.

Ychwanegodd: "Byddan ni'n parhau i ddadlau achos ein diwydiant dur a gwneud popeth posib i gefnogi gweithwyr medrus a ffyddlon a'r rheiny yn y gadwyn gyflwyno."

Dadansoddiad gohebydd busnes BBC Cymru, Huw Thomas

Er i Jonathan Reynolds ddweud fore Sul bod "cytundeb gwell ar gael" ar gyfer gweithwyr ym Mhort Talbot, mae'r ysgrifennydd busnes newydd yn gwybod bod Tata Steel yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda'u cynlluniau ad-drefnu.

Mae'r cwmni eisiau cau ail ffwrnais chwyth ym mis Medi ac yn bwriadu diswyddo 2,800 o weithwyr ar draws y DU.

Roedd Llafur wedi gofyn i'r cwmni ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniadau "di-droi'n-ôl" cyn yr etholiad cyffredinol, ond mae'r trafodaethau rhwng Tata a'r undebau bron ar ben.

Mae'r posibilrwydd o fuddsoddiadau'n llygedyn obaith i'r rhai sydd eisiau lliniaru effeithiau cynlluniau Tata - fe allai'r llywodraeth Lafur gynnig help i ariannu seilwaith newydd fel safle DRI (direct reduced iron) neu felin plât i helpu codi tyrbinau gwynt arnofiol.

Roedd Llafur wedi trafod cefnogi buddsoddi ym Mhort Talbot yn ystod ymgyrch yr etholiad, ac mae rheolwyr Tata Steel wedi bod yn agored i'r syniad.

Ni fyddai hynny'n achub swyddi yn y tymor byr, ac fe fydd y cynllun presennol i godi ffwrnais arc drydan y flwyddyn nesaf, gyda £500m gan yr hen lywodraeth Geidwadol, angen nifer sylweddol yn llai o weithwyr na'r hyn sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd.

Mae'r amserlen yn eithriadol o dynn.

Mae gweithwyr yn awchu am atebion. Mae rhai yn barod i gael eu diswyddo'n wirfoddol ac mae Tata Steel eisoes yn y broses o ddod â dulliau cynhyrchu traddodiadol i ben ym Mhort Talbot erbyn yr hydref.