Y cowboi o Ffos-y-ffin
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae Prysor Lewis o Ffos-y-ffin, Aberaeron yn gweithio fel cowboi yn Texas ers 2017.
Ond sut mae mab fferm o Aberaeron yn gweithio fel cowboi yn y gorllewin gwyllt?
O’r brifysgol i weithio ar ranch
“Wnes i orffen yn y brifysgol yn 2016 a do’n i ddim yn gwybod pa waith ro’n i eisiau ei wneud,” eglura Prysor.
“Roedd fy ffrind newydd ddod yn ôl o Texas. Oedd e wedi bod yn pedoli ceffylau yna.
“Roedd gyda fi ddiddordeb mewn marchogaeth ac amaeth, felly wnes i ddweud wrth fy ffrind bo’ fi’n awyddus i weithio fel cowboi.
“Es i draw yna, gweithio yna dros y gwanwyn am dri mis, a dod yn ôl i Gymru i arbed arian dros y gaeaf.”
Dyw Prysor heb edrych yn ôl. Ers 2017 mae'n rhannu ei amser rhwng Texas a Chymru, ac mae’n gobeithio bod yn gowboi llawn amser.
Ond beth yw gwaith cowboi?
“Dw i'n gweithio fel cowboi ar ranch ac ar feedlot.
“Mae’r gwaith yn cynwys edrych ar ôl lloi a’u tewi nhw. Y gwaith mwyaf yw edrych ar ôl y da, torri ceffylau, a marchogaeth ar y ranches."
Mae Prysor wedi bod yn gweithio ar un o ffermydd gwartheg mwyaf Texas sef The Four Sixes Ranch.
Mae’r ranch yn 275,000 o aceri ac maent yn bridio gwartheg a cheffylau ers i Captain Samuel Burnett ei sefydlu yn 1870.
“Maen nhw’n ffermio ar sgêl anferthol o gymharu â Chymru. Mae’n agoriad llygad.”
Cadw traddodiadau
Yn ystod y gwanwyn bydd Prysor yn brandio miloedd o loi, er mwyn i bawb wybod pwy yw'r perchennog. Mae'n cael ei alw gan y cowboi yn roundup.
Ac mae traddodiadau'r roundup yn fyw o hyd.
Yn ystod y gwanwyn bydd Prysor yn marchogaeth gyda wagen am dair wythnos:
“Ry’n ni’n teithio’n union fel y llun ar baced bisged Wagon Wheel!
“Ry’n ni’n campio mewn tipis, coginio, cael brecwast am 5 o’r gloch y bore, marchogaeth, dal y lloi gyda rhaff a'u brandio."
'Mynd i'r Rodeo yn lle'r clwb nos'
Ar ôl wythnos galed o waith, sut bydd Prysor yn ymlacio?
“Mae digon o Rodeos ymlaen dros y penwythnos. Yn lle mynd i’r clwb nos ry’n ni’n mynd i’r Rodeos!
“Bydd yr hydref yn brysur eto, bydd hi’n gyfnod weaning, felly bydd angen tynnu’r lloi oddi wrth y da.”
Beth yw ymateb pobl i waith y cowboi o Aberaeron?
“Pan mae pobl yn clywed bo’ fi’n gweithio fel cowboi, maen nhw’n meddwl bo’ fi’n tynnu coes! Ond dw i wrth fy modd!”
Geirfa
gorllewin gwyllt/wild west
prifysgol/university
pedoli/to shoe a horse
marchogaeth/to ride a horse
amaeth/agriculture
awyddus/keen
arbed/save
lloi/calves
tewi/to fatten
y da/livestock
torri ceffylau/horse breaking
agoriad llygad/eye opener
perchennog/owner
traddodiadau/traditions
rhaff/rope
ymateb/reaction
tynnu coes/pull someone's leg (joking)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mai