Hud a lledrith: Straeon buddugol Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd Aled Hughes wedi cyhoeddi enwau'r tri awdur ifanc sydd wedi dod yn fuddugol yn ei gystadleuaeth ysgrifennu stori ar BBC Radio Cymru.
Mae'r artistiaid Valériane Leblond, Joshua Morgan (Sketchy Welsh) a Huw Griffiths wedi creu cloriau ar gyfer straeon y tri enillydd sef Jesica o Ysgol ID Hooson, Gruffudd o Ysgol Bro Preseli, a Dylan o Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-Y-Groes.
Gofynion y gystadleuaeth oedd ysgrifennu stori dan y thema hud a lledrith.
Beirniad y gystadleuaeth oedd yr awdures Casia Wiliam.
Meddai Casia: "Cafwyd straeon am ddreigiau, straeon am swynion, straeon am gypyrddau hud a gwrachod drwg. Daeth pob math o straeon yn llawn hud a lledrith i law eleni, a'r rheiny'n llawn antur a hwyl!
"Y rhai oedd yn aros yn y cof, ac felly'n dod i'r brig i mi oedd y rhai â syniadau gwreiddiol, gwahanol.
"Mae'r straeon buddugol yn dangos hoel meddwl, iaith afaelgar, a llais clir, unigryw yr awduron. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r straeon gymaint ag y gwnes i!"