Dod i 'nabod Tristwch y Fenywod, y band gothig Cymraeg o Leeds

Tristwch y FenywodFfynhonnell y llun, Tristwch y Fenywod
  • Cyhoeddwyd

'Cerddoriaeth Gymraeg Gothig'; dyna sut mae'r band Tristwch y Fenywod yn disgrifio eu miwsig. Ond beth yn union yw hynny?

Mae'r band o Leeds yn canu'n uniaith Gymraeg ac ar fin rhyddhau eu halbwm cyntaf.

Y prif leisydd, Gwretsien Ferch Lisbeth, fu'n sgwrsio gyda Cymru Fyw am y band sy'n ceisio rhoi eu stamp eu hunain ar y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Pwy yw Tristwch y Fenywod, a phryd gafodd y band ei sefydlu?

Aelodau’r band ydi fi, Sidni Sarffwraig a Leila Lygad.

‘Dan ni i gyd yn gweithio ar brosiectau cerddoriaeth eraill hefyd, ond dechreuon ni Tristwch y Fenywod yn gynnar yn 2022, pan ofynnodd Sidni wrth Leila pa offeryn fyddai hi’n ei chwarae ‘sa hi ddim yn canu, a ‘naeth hi synnu ni drwy ddeud ‘sa hi’n chwarae’r drymiau.

Roedden ni wedi siarad am gychwyn band goth ers talwm, felly ddechreuon ni feddwl am sut i ddechrau band efo Leila tu ôl y cit.

Roedd diwedd 2021 a dechrau 2022 yn gyfnod anodd iawn i Leila a fi; roedd gan y ddwy ohonon ni ffrindiau fu farw. Roedden ni’n treulio llawer o amser efo’n gilydd a trio meddwl am bethau i ’neud i ni deimlo llai ofnadwy.

Dywedodd hi ei bod hi wedi bod yn recordio lleisiau ystlumod yn defnyddio bat detector, ac yn recordio synau eraill i’w defnyddio fel percussion. Roedd gen i zither bach Rwsiaidd, ac ro’n i'n meddwl bod rhaid defnyddio’r offeryn yma ar gyfer rhywbeth yn fy ngherddoriaeth i.

Ges i weledigaeth o fand goth Cymraeg, efo fi’n chwarae’r telynau a chanu, Leila ar y drymiau electronig, a Sidni yn chwarae rhyw fath o fas goth-clasurol.

‘Naethon ni drio chwarae efo’n gilydd, ac roedden ni’n syth yn teimlo fod yna rywbeth arbennig yna.

O lle daw’r enw, Tristwch y Fenywod?

Mae’n adlewyrchu’r profiad o fod yn ddynes yn y byd hwn, dan batriarchaeth, a byw mewn byd mewn argyfwng.

Ond hefyd dwi’n meddwl fod tristwch yn bwerus mewn ffordd. Mae’n cymryd cryfder i deimlo tristwch, yn lle smalio fod popeth yn iawn, pan mae hi’n amlwg fod o ddim.

Mae wedi ei lapio fyny yn yr holl brofiad benywaidd; ’dan ni wastad yn cael ein cosbi gan ddynion am fod yn emosiynol a bregus.

Yn y gymdeithas gwrtais, mae’n anodd ffeindio lle i fod yn drist, ond dwi wastad wedi coelio fod emosiwn tywyll yn bwerus a dwi ddim yn teimlo dylai pobl guddio oddi wrth ddagrau. Ti methu cael y golau heb y tywyllwch.

Ffynhonnell y llun, Tristwch y Fenywod
Disgrifiad o’r llun,

Mae albwm newydd Tristwch y Fenywod yn cael ei ryddhau fis Awst

Am pa fath o bethau ydych chi’n canu?

Dwi’n ceisio sgwennu am bethau sy’n bersonol iawn i mi. Dwi'n drawsfenyw anabl, goth, gafodd ei magu yng ngogledd Cymru; lle sy’n llawn harddwch ond tywyllwch ar yr un pryd.

Dwi wastad wedi bod yn outsider, yn weirdo ac yn falch o hynny. Dwi ddim yn licio’r casineb dwi’n ei dderbyn gan bobl yn y byd am fod fel’na, ond fydda i ddim yn teimlo cywilydd.

’Dan ni i gyd yn y band yn ferched cwiar, niwrowahanol, felly mae ganddon ni deimladau tebyg am y peth.

Yn fy ngeiriau, dwi’n trio mynegi pethau sydd ddim yn rili presennol mewn cerddoriaeth Gymraeg.

Yn y gân Llwydwyrdd, y lliwiau llwyd a gwyrdd ydi lliwiau gogledd Cymru gyda’r gymysgedd ryfedd o dirlun naturiol a diwydiant ar yr un pryd, sydd yn rhan fawr o fy nychymyg i. Mae’r gân yn disgrifio perthynas lesbiaidd a cwiar lle mae’r ddwy yn byw efo iselder, yn y lleoliad yma sydd yn gymysg o gariad a dioddefaint.

Mae pawb sydd yn byw efo iselder, sy’n niwro-amrywiol neu sydd yn bobl LHDTC+ yn gwybod bod rhannau o’r byd hwn yn dywyll.

‘Dan ni’n ceisio ymaelodi’r tywyllwch a’r golau efo’i gilydd, achos mae hwnna’n adlewyrchu’r profiad o geisio bodoli yn ein cymdeithas, lle mae pawb yn wahanol.

Fydd pawb ddim am ddallt yn syth, ond mae’n bwysig i greu cynrychiolaeth am brofiadau lleiafrifol.

Beth yw ‘cerddoriaeth gothig’?

’Dan ni i gyd yn caru’r math yma o sain, ond mae’n anodd ei ddisgrifio’n iawn. Mae ’na elfennau clasurol mewn cerddoriaeth goth, pethau fel sain atmosfferig, y minor key ac effeithiau gwahanol sy’n creu sŵn seicadelig ac arallfydol.

Mae ganddon ni i gyd gariad tuag at fandiau fel Dead Can Dance a The Cure, a bandiau Cymraeg amgen o’r 80au fel Datblygu, Plant Bach Ofnus a Fflaps; dwi’n rili cael lot o ysbrydoliaeth o bethau felly.

Roedden ni i gyd yn teimlo ei fod yn lle da i ddechrau efo creu ein cerddoriaeth ni.

Pan roeddwn i’n dechrau gwrando ar fandiau gothig pan o’n i’n ifanc, y lluniau yn fy mhen i oedd atgofion o dyfu i fyny ar Ynys Môn. Mae’r teimlad o melancholy a rhamant yn fy nghysylltu â fy atgofion cynharaf.

Cerddoriaeth sy’n dywyll ond yn hardd yr un pryd, lle mae’r iaith yn mynegi teimladau yn Gymraeg a’r syniadau sy’n cael eu disgrifio gyda’u gwreiddiau yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Tristwch y Fenywod
Disgrifiad o’r llun,

Yn gigio yn Lurid Ultra Hybrid ym Manceinion ym mis Mawrth 2023

Mae eich holl ganeuon yn Gymraeg – pam fod hyn yn bwysig i chi, pan eich bod yn byw yn Leeds a’r rhan fwyaf o’ch cynulleidfa yn ddi-Gymraeg?

Dydi fy Nghymraeg i ddim yn berffaith - anghofiais lot o'r iaith cyn ail-ddysgu fy hun yn 2020 - ond mae’n bwysig i ffeindio ffordd o gysylltu efo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.

Mae ymateb y gynulleidfa yn Lloegr wedi bod yn rili cefnogol. Oherwydd ’dan ni’n rhan o gymuned gerddoriaeth tanddaearol ac arbrofol yn barod, mae pobl y sin yna ar agored i bethau gwahanol a newydd. Mae llwyth o bobl wedi bod â diddordeb yn yr holl beth; yr iaith, y cysyniadau.

Dwi’n meddwl fod pawb yn agored i ddysgu rhywbeth newydd. Dwi wedi bod yn falch gymaint mae pawb yn fodlon cefnogi rhywbeth lle dydyn nhw ddim yn dallt y geiriau o gwbl.

Dwi’n meddwl fod bwriad y gerddoriaeth yn glir i’r gynulleidfa, hyd yn oed os ydyn nhw ddim yn dallt y geiriau.

Rydych chi’n rhyddhau eich albwm cyntaf ym mis Awst – beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol?

’Dan ni jyst mor falch. Mae gan yr albwm bob cân ’dan ni wedi ei ’sgwennu tan rŵan; y gân Ferch Gyda’r Llygaid Du ydi’r gân gyntaf ’naethon ni ei sgwennu efo’n gilydd, y syniad cynta i destio’r sain allan.

Bydd o’n cael ei ryddhau ar-lein ac ar feinyl, a bydd inserts dwyieithog, felly mae pawb yn medru dysgu ’chydig bach o Gymraeg wrth wrando arno fo.

Mae o'n rili rhyfedd i wrando ar ein cerddoriaeth ni ar feinyl, yn y stafell lle ‘naethon ni greu’r gerddoriaeth. ’Nes i ryddhau sawl recordiad ar feinyl yn y gorffennol, ond mae hwn yn teimlo’n wahanol mewn ffordd, mwy fel y medrith o fod yn rhywbeth all gyrraedd pobl yn y byd, dim jyst y byd arbrofol.

Mae’n gyffrous i ddychmygu beth fydd yn digwydd efo fo.

Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig i goelio ’da chi’n medru newid y byd gyda chelf a cherddoriaeth, hyd yn oed mewn ffordd bach.

’Dan ni’n bwriad lledu ein hudoliaeth cwiar gothig; ’dan ni isho gwthio ein fersiwn ni o ddiwylliant Cymraeg ymlaen.

Pynciau cysylltiedig