Pum munud gyda Bardd y Mis: Jo Heyde
- Cyhoeddwyd
iJo Heyde yw Bardd y Mis Radio Cymru ar gyfer mis Gorffennaf.
Mae ei cherddi wedi’u cyhoeddi yng nghylchgrawn Barddas, yn Ffosfforws 2, 3, 4 a 5 (Cyhoeddiadau’r Stamp), ac mae hi newydd gyhoeddi ei phamffled cyntaf o gerddi dan yr enw Cân y Croesi.
Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Rydych yn bianydd ac yn fardd. Ydy canu’r piano yn eich helpu i farddoni?
Nes i hyfforddi fel pianydd yn wreiddiol, ac wedyn bues i’n gweithio fel athrawes biano.
Ynglŷn â’r cysylltiad rhwng canu piano a barddoni, wy’n credu taw fy natur sydd wedi fy arwain at wneud y ddau beth, yn hytrach na gweld canu’r piano fel rhywbeth sydd wedi helpu gyda’r barddoni.
Hynny yw, bod yn sensitif a greddfol… ac wy’n ddisgybledig iawn, ac yn eitha obsesiynol yn fy ffordd o weithio.
Fe fyddaf yn ymdrochi’n llwyr yn y broses o greu, beth bynnag yw’r cyfrwng dan sylw… a gobeithio bod 'da fi glust weddol dda, hefyd!
Rydych yn dod o Lundain yn wreiddiol. Beth wnaeth i chi ddysgu Cymraeg cyn cychwyn barddoni’n Gymraeg?
O’n i wedi bod yn teithio gyda fy ngŵr yn ein camperfan, a’i syniad ef oedd dod i Gymru, ac i Sir Benfro, yn y lle cyntaf.
Ac ar un o’r teithiau hynny, gwnaethon ni stopio yng ngwasanaethau Pont Abraham, a dyma fi’n clywed merch yn siarad Cymraeg â’i mam - clywed yr iaith yn cael ei siarad ‘yn ei chynefin’, fel petai, oedd y peth a wnaeth sbarduno’r broses o ddysgu.
Hales i weddill y daith yn trïo darllen yr holl arwyddion ar y traffyrdd...
O’n i wedi cael y profiad o gaffael yr Eidaleg yn ifanc, ac i mi, mae dysgu iaith y wlad yn gam naturiol iawn, ac yn fater o barch, heb sôn am y ffaith bod yr iaith Gymraeg yn anhygoel o hardd.
Rydych yn aelod o dîm Talwrn Y Derwyddon, ac Ysgol Farddol Caerfyrddin. Ydy bod yn rhan o dîm talwrn a mynychu ysgol farddol wedi bod o gymorth i chi fel bardd?
Mae’n hyfryd iawn cael bod yn rhan o dîm, ac o deulu barddol ehangach, ac wy’n ddiolchgar iawn iawn am y cyfle a’r croeso, wrth reswm!
Mae rhywun wastad yn dysgu wrth wrando ar waith beirdd eraill, ac wrth drafod pethe, boed pethe technegol, neu amsugno gwybodaeth fwy cyffredinol.
Mae’r ddau’n dod â phrofiadau gwerthfawr iawn, ar bob lefel. Mae lot o bobl dalentog ofnadwy yn YFC, ac mae’n dipyn o fraint cael hala amser yn eu cwmni.
O le y byddwch yn cael eich syniadau?
Sa i’n siŵr fy mod yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn hawdd. Bod yn effro, wastad yn effro i’r hanner eiliad sydd yn fy nharo, ymhlith y miloedd o eiliadau sydd yn llifo heibio - ac wedyn mater o grefft yw llunio cerdd dda i ddal naws yr hanner eiliad honno, wy’n credu - os wy’n lwcus!
Beth fyddai eich noson ddelfrydol?
Bod gartre gyda fy ngŵr, a’r ci wrth fy ymyl, a chael darllen a 'sgwennu. Wy ddim yn un am fynd mas os alla i aros gartre!
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol – pwy fyddai o neu hi, a pham?
Mae hwn yn gwestiwn rhy anodd - mae 'na ormod o feirdd anhygoel… bydde’n wych cael synhwyro’r gynghanedd o safbwynt Alan Llwyd am ddiwrnod - mae’n hollol athrylithol!
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Rhywbeth gan T.H. Parry-Williams… amhosib dewis - wy’n dwlu ar y soned Ymddiheuriad ar ddechrau’r gyfrol Cerddi, a Hon, wrth gwrs…
Mae cerddi Parry-Williams wir yn fy nghyffwrdd - rhywbeth am fod ar y trothwy, neu efallai’r dibyn, rhwng bod a pheidio a bod… dyna sut mae ei waith yn teimlo i mi, beth bynnag...
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Mae fy mhamffled cyntaf, Cân y Croesi, newydd ei ryddhau gan Gyhoeddiadau’r Stamp, ac fe fyddaf yn mynd lan i Gaernarfon ar gyfer y lansiad, ar 7 o Orffennaf, fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Arall.
Mae 'da fi gerdd yn Ffosfforws 5 - ac fe fydd y pamffled hwnnw’n rhan o’r un digwyddiad.
Ac wy’n siŵr bydd 'na ragor o nosweithiau ar ôl hynny, hefyd.
Mae cerdd 'da fi yn y gyfrol Cerddi’r Arfordir, newydd ei chyhoeddi gan Barddas, ac wedi’i golygu gan Mari George.
Ac wrth gwrs, mae’r 'sgwennu’n parhau...
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022