Gweithio'n chwaral a llechan yn y gwaed
- Cyhoeddwyd
“Chwarel ydy fy mhetha’ i wedi bod erioed.”
Roedd Erwyn Jones o Flaenau Ffestiniog yn gwybod ers ei fod yn blentyn mai chwarelwr oedd o am fod.
Erbyn heddiw mae’n rheolwr y graig yn Chwarel y Penrhyn, sef un o’r dair chwarel sydd yn parhau i gynhyrchu llechi to yng ngogledd Cymru.
Yn frodor o dref a gafodd ei disgrifio yn 1873 fel ‘dinas y llechi’, Erwyn yw’r bedwaredd genhedlaeth yn ei deulu i weithio’n y chwarel.
Ond yn wahanol i Erwyn, mae’n debyg na chafodd ei gyn-deidiau fawr o ddewis; roedd hi’n oes o galedi a chwareli Ffestiniog yn cynnig gwaith ar eu stepen ddrws.
Felly beth ddenodd Erwyn at y graig a sut beth yw bod yn chwarelwr yn 2024?
Gadael y brifysgol i fynd i’r chwarel
Pan oedd Erwyn yn tyfu i fyny, arferai fynd i weld ei dad, y diweddar Geraint Wyn Jones, wrth ei waith yn chwarel Maenofferen, Ffestiniog.
Eglura: “O’n i’n mynd i weld Dad yn gweithio reit aml, oedd Dad yn gweithio saith diwrnod yr wythnos ar y pryd felly yr unig adeg o’n i’n ei weld o ar benwythnosau oedd pan oedd Mam yn mynd â fi i fyny i chwarel Maenofferen.
Ers y dyddiau hynny, roedd Erwyn yn gwybod ei fod eisiau dilyn ôl-troed ei dad a’i gyn-deidiau.
“Mae yna bedair cenhedlaeth ohonan ni wedi gweithio yn chwareli Blaena’ dros y blynyddoedd... fy nhad, Benjamin Jones (fy nhaid), Benjamin Jones (fy hen daid) a fy hen, hen daid cyn hynny.
“Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf o’n ’nheulu i wedi gweithio’n chwarel dros y blynyddoedd, a bod ynghanol y tomenni llechi yn Blaena’ yn sicr wedi dylanwadu arna i.
“Yn blant, chwara’ yn y chwareli oeddan ni ’de. Doedd ’na ddim llawer o chwara’ compiwtar gen i ar y pryd, allan oeddan ni yn crwydro chwareli.”
Er i daid Erwyn farw o silicosis oherwydd effaith llwch y llechen ar ei ysgyfaint, roedd Erwyn dal am fod yn chwarelwr, a hynny’n groes i ddymuniad ei dad.
Wnaeth cwblhau tymor yn y brifysgol ddim newid ei feddwl hyd yn oed. Yng ngeiriau Erwyn, “doedd hynny ddim i fi”.
“Oedd Dad yn trio arwain fi i beidio mynd i’r chwaral. Dwi’n meddwl oedd o isio fi fynd ar ôl trywydd arall achos oedd o’n gweld fod o’n waith caled a nad oedd ’na hir oes i’r chwareli yn ei feddwl o ar y pryd.
“Dyna pam es i i goleg Glynllifon cyn mynd i Aberystwyth i astudio daearyddiaeth ond oedd yr ysfa i fynd i’r chwaral dal genna i ’de, felly wnes i adael.”
Dros chwarter canrif yn ddiweddarach, mae Erwyn wedi bod yn chwarelwr yn chwarel Llechwedd a chwarel Cwt y Bugail ym Mlaenau Ffestiniog, cyn symud i’w swydd bresennol yn Chwarel y Penrhyn, Dyffryn Ogwen.
“Nes i gychwyn yn chwarel Llechwedd yn 1998. Dechrau mwy neu lai o’r gwaelod a wedi gweithio’n ffordd i fyny yn ara’ bach.
“Wnes i ddechra’ yn y felin yn hollti a naddu a wedyn ges i gyfla i fynd i ddysgu ar y graig yn y flwyddyn 2000. Dechra’ cael cymwysterau tanio a ballu a wedyn rywsut wedi bod ar y lle iawn ar yr amsar iawn.”
Crefft y chwarelwr yn 2024
Pan fydd plant heddiw’n cael eu cyflwyno i grefft y chwarelwr yn yr ysgol, mae’n debyg y byddent yn cael eu dysgu am y grefft o hollti a naddu gyda chŷn a morthwyl, ac yn dysgu am y powdwr du a fyddai’n cael ei ddefnyddio i danio’r graig.
Cefnder ei dad a ddysgodd Erwyn i hollti a naddu. Ac yn ôl Erwyn, mae sgiliau craidd y chwarelwr heddiw yr un fath â beth oedden nhw ganrif a mwy yn ôl.
“Mae angen gallu hollti a naddu efo dy ddwylo o hyd. Ia, ’dan ni’n defnyddio peiriannau mwy i ’neud y gwaith ond dwi’n meddwl os fasa ti’n torri’r gwaith i’r craidd mae’r sgilia’ dal wbath tebyg.
“Mae gynnon ni beiriannau yn Chwarel y Penrhyn sydd yn hollti ond ti dal angen dysgu’r grefft o hollti cyn bo’ chdi’n gallu bwydo’r peiriant yn gywir. Rhaid i chdi ddal ddallt sut mae’r lechfaen yn gweithio.
“Fyddwn ni dal yn defnyddio powdwr du fel oeddan nhw ganrif yn ôl. I danio’r graig mi fyddwn ni’n paratoi’r graig fel fod y drilar yn gallu mynd yno efo dril i dyllu a wedyn ’dan ni’n charjo’r tylla efo powdwr du.”
Beth yw dydd arferol Erwyn erbyn hyn fel rheolwr y graig yn Chwarel y Penrhyn?
“Cyrraedd yma tua chwech o’r gloch y bora felly dwi’n cychwyn reit gynnar o Blaena’. Wedyn wyth o’r gloch mae’r shifft yn dechra’ felly yn y ddwy awr yna dwi’n archwilio’r graig cyn i neb ddechra’ gweithio i ’neud yn siŵr fod y lle’n saff.
“Fydda i wedyn yn penderfynu be’ ydy gwaith y dydd am fod, cyfarch am 7.50 y bora a mynd o hynny wedyn. Mae ’na ystod eang o betha’ dwi’n gorfod ’neud, o’r gwaith papur ynghylch y tanio i ddelio gyda phetha’ sy’n torri i lawr ac ordro partia’.”
Traddodiadau
Er mai chicken wrap ac nid tatws a chig fydd swper chwarel Erwyn ar ôl diwrnod caled o waith, mae yntau’n parhau i siarad iaith y chwarelwr, fel ei gyn-deidiau o’i flaen.
“Mae termau’r graig; hollt, pleriad a thermau ffoltiau fatha cefn, cropar, mae’r eirfa yna’n dal i barhau.
“Dydi o ddim mor gryf ag oedd o. Er enghraifft stem oedd y dynion yn ei ddefnyddio am shifft neu ddiwrnod o waith.
“Does ’na neb yn defnyddio stem ’wan, felly mae o’n dechra’ marw allan. Hwyrach mai fy nghenhedlaeth i ydy’r ola’ sy’n ymwybodol ohonyn nhw.
“Tasa chdi’n gofyn i’r genehdlaeth iau sy’n gweithio yma dwi’m yn meddwl y basa gynnon nhw lawar o glem tasa ti’n deud wrthyn nhw, ‘hannar stem dwi’n weithio heddiw’!”
Ar ôl cwblhau ei stem yntau, bydd Erwyn yn dychwelyd adref i Flaenau Ffestiniog ac yn crwydro’r mynyddoedd.
Mae mynydda yn ddiddordeb mawr iddo ac un o’r pethau sy’n ei ddenu i’r mynydd yw olion y diwydiant llechi.
“Dwi’n dotio at yr hen domenni llechi, a phan fydda i’n gweld y chwareli bach yma ar ochr mynydd anghysbell, fydda i’n meddwl ‘mae hwnna wedi bod yn freuddwyd i rywun’, agor y chwaral ac mae’r freuddwyd wedi chwalu dan eu traed nhw.
“Mi fasa lot o’r cymoedd ar y mynyddoedd yn wahanol tasa’r chwareli bach yma wedi llwyddo. Cwm Eigiau er enghraifft, mae gen ti gwm andros o hardd yn fan’na, mae ’na chwareli bach yna, mi fasa’r lle yn wahanol iawn tasa rheiny dal i weithio.”
‘Diwydiant sy’ dal yn fyw’
Mae Chwarel y Penrhyn yn cynhyrchu 27,000 o lechi to bob wythnos ac mae marchnad iddynt ym Mhrydain, gwledydd Ewrop ac Awstralia.
Gyda chaniatâd i gloddio ar y safle tan 2032, “mae ’na dal gerrig yn y graig” a dydy Erwyn ddim yn poeni am ei ddyfodol fel chwarelwr.
Mae chwareli llechi Cwt y Bugail, Gloddfa Ganol a Llechwedd, tair o chwareli Ffestiniog yn parhau ar agor hefyd.
“Mae o’n ddiwydiant sydd dal yn fyw, nid i’r un gradda’ ag oedd o ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ond mae dal yn gyflogwr pwysig yn yr ardal ac yn rhan bwysig o economi Gwynedd,” meddai Erwyn.
Beth fyddai ei gyngor gyrfa i berson ifanc sydd â’i fryd ar weithio’n y chwarel?
“Faswn i’n ei argymell o, mynd amdani. Mae yna gyfleoedd o fewn y diwydiant.
“Mae pawb yn meddwl am chwarelwr fel rhywun sy’n hollti a naddu ond o fewn y safle yma mae ’na drydanwyr, prentisiaethau i beirianwyr. Mae ’na ddipyn o sgôp o fewn y chwaral, nid jest y graig.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018