Pwy yw'r artistiaid ar restr fer Albwm y Flwyddyn?
- Cyhoeddwyd
Pwy sydd wedi cyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni?
Cyhoeddwyd enwau'r deg artist sydd â'r siawns o gyrraedd y brig ar Restr Chwarae Mirain: Rhestr Fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn ar Radio Cymru.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Radio Cymru sy'n trefnu'r wobr sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni.
Felly pwy oedd yr artistiaid llwyddiannus? Dyma'r cloriau a manylion bob un o'r deg.
amrwd – Angharad Jenkins a Patrick Rimes
Dyma albwm cyntaf Angharad Jenkins a Patrick Rimes, dau artist yn y sîn werin Gymraeg.
Mae'r ddau yn cael eu cysylltu gyda thraddodiad ffidil Cymru – arddull y mae’r ddau wedi helpu i’w siapio yn eu ffyrdd eu hunain yn y blynyddoedd diwethaf.
Gydag adleisiau clasurol mae’r albwm yn archwilio traddodiadau gwerin cyfoethog Cymru.
Bolmynydd – Pys Melyn
Rhyddhaodd y band o ogledd Cymru eu hail albwm ym mis Awst 2023. Mae’r albwm yn felodaidd iawn, ac yn tynnu ar ystod o arddulliau o’r 60au a’r 70au.
Dros y misoedd diwethaf mae’r band wedi cefnogi Gruff Rhys a Spiritualized, ac wedi chwarae sesiwn fyw ar BBC 6 Music.
Caneuon Tyn yr Hendy – Meinir Gwilym
Mae'r albwm yn cynnwys wyth cân newydd a thrac bonws, Goriad.
Meinir ei hun sydd wedi cynhyrchu'r albym sy' wedi ei recordio yn rhannol gartref ac hefyd mewn amrywiol leoliadau, gyda chymorth Sam Durrant, Osian Huw Williams ac Aled Wyn Hughes. Mae cyfraniadau cerddorol gan Ceiri Humphreys ac Euron Jos (gitârs), Twm Elis a Cai Llywelyn Gruffydd (drymiau), Bob Galvin, Osian ac Aled (bas) ac Edwin Humphreys (cyrn a sax).
Mae Alys Williams yn canu ar y trac Yr Enfys a’r Frân a llais a thelyn Gwenan Gibbard ar y trac Rew di Ranno.
Dim dwywaith – Mellt
Mae Mellt yn bedwarawd o Aberystwyth sy' bellach wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Enillodd eu halbwm cyntaf Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018, a chyrhaeddodd yr albwm rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yr un flwyddyn.
Cafodd yr ail albwm Dim Dwywaith ei ryddhau yn mis Hydref ar label Clwb Music.
Galargan – The Gentle Good
Mae pumed albwm The Gentle Good, Galargan, yn gasgliad o ganeuon gwerin Cymreig wedi’u perfformio gyda gitâr acwstig unigol, lleisiol a'r soddgrwth. Mae 'na ymdeimlad o dristwch drwy’r albwm sy'n deillio o gyfnod y pandemig, pan oedd Gareth Bonello’n gweithio ar ei gynnwys.
Llond Llaw - Los Blancos
Mae gan Llond Llaw gasgliad celfydd o ganeuon sy'n dangos y band o Gaerfyrddin ar eu mwyaf creadigol a'n adrodd straeon am y cymeriadau o'u cwmpas.
Cafodd yr albwm ei ysbrydoli i raddau gan gasgliad o straeon byrion Matthew Baker, ac yn benodol y dyfyniad: "Welcome, dear visitor, to a proud and storied nation. When you put down this guidebook, look around you. A nation isn’t land, a nation is people."
Mae'r casgliad 13 trac yn adrodd straeon personol.
Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog
Dyma chweched record hir y band, yn dilyn Yn Fyw! Galeri Caernarfon a ryddhawyd y llynedd.
Cafodd yr albwm ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda’r brodyr eu hunain yn cynhyrchu.
Sŵn o’r stafell arall - Hyll
Ers ffurfio yn 2016, mae Hyll yn adnabyddus am eu caneuon unigryw a'u geiriau ffraeth am gymeriadau eu tref enedigol, Caerdydd.
Mae’r pedwarawd yn mynd yn ôl i'w gwreiddiau indi ar yr albwm, ac yn dilyn sŵn tebyg i'w senglau diweddar Hanner Marathon a Mike.
Swrealaeth - M-Digidol
M-Digidol yw prosiect y cerddor Rhun Gwilym, a gafodd gryn lwyddiant gyda'r band Y Morgrug.
Mae Rhun wedi bod yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi troi at gynhyrchu cerddoriaeth electroneg.
Mae’r albwm Swrealaeth yn cynnwys 13 trac.
Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym
Dyma ail albwm un o fandiau mwyaf poblogaidd y ddegawd ddiwethaf yng Nghymru, ac mae’n ddatblygiad pendant yn sŵn y band.
Mae’r band wedi rhyddhau’r caneuon i gyd ar ddwy EP ar wahan. Roedd y band yn awyddus i wneud pethau’n wahanol i’r arfer, ond i drwytho’u cynulleidfa gyda chymaint o ganeuon newydd â phosib.
Bu’r senglau’n llwyddiant mawr, gyda nifer ohonyn nhw’n cael sylw gan restrau chwarae ar Spotify dros y misoedd diwethaf.
Yn beirniadu eleni yr oedd Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O' Hare, Mared Thomas ac Owain Williams.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am 15:00 ar 9 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Mehefin