3 Llun: Lluniau pwysicaf Mici Plwm

Mici PlwmFfynhonnell y llun, Mici Plwm
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mici Plwm yn enwog am chwarae rhan Plwmsan yn yr 1980au

  • Cyhoeddwyd

Mae Mici Plwm wedi chwarae rhan enfawr ym mhlentyndod nifer ohonom yng Nghymru.

Yn enwog am chwarae rhan Plwmsan y twmffat twpach na thwp yn Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, mae bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli ac yn weithgar gyda Radio Ysbyty Gwynedd.

Roedd unwaith yn un o droellwr disgiau amlycaf Cymru, yn teithio'r wlad gyda 'Disco Teithiol Mici Plwm'. Mae'n aelod o'r orsedd ac yn Faer tref Pwllheli.

Mae Mici wedi dewis ei dri llun pwysicaf, ac yn trafod y rhesymau tu ôl i'r dewis.

Ffynhonnell y llun, Mici Plwm
Disgrifiad o’r llun,

Mici yn bedair oed ym mhentref Llan Ffestiniog

Dwi’n tybio mod i wedi cyrraedd oddeutu tair neu bedair oed yn y llun yma. Er does gennai ddim cof o’r llun yn cael ei dynnu!

Mae un peth yn sicr, ym mhentra Llan Ffestiniog y cafodd ei dynnu.

Yn ôl fy nhystysgrif geni, yn llofft ffrynt 10 Stryd yr Haul ges i fy ngeni – a does gennai ddim cof o hynny chwaith!

‘Sgwn i pwy oedd perchennog y camera? Fy nhad neu fy nhaid mae'n siŵr, oedd yn gweithio yn Chwarel yr Ocli, Blaenau Ffestiniog, fel y rhan fwyaf o drigolion pentra'r cyfnod.

Ffynhonnell y llun, Mici Plwm
Disgrifiad o’r llun,

Syr Wynff a Plwmsan yn America tra'n ffilmio ar gyfer rhaglen Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Dyma Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan y Twmffat Twp.

Dyma'r cyfnod pan oedd y ddau gymeriad yn cydweithio ar gyd-gynhyrchiad rhwng un o gwmnïau annibynnol S4C a chwmni teledu o’r Almaen; a oedd yn arbenigo ar raglenni i blant yn yr Almaeneg.

Cawsom ffilmio ar leoliad yn Universal Studios Hollywood a Los Angeles, a phob bora roedd Rolls Royce enfawr, lliw hufen, yn ein codi yn ein gwesty wedi brecwast a’r gyrrwr yn ein cludo i’r stiwdios..

The Illusion Machine oedd y cynhyrchiad (fersiwn Cymraeg ac Almaeneg).

Plwmsan y Twmffat Twp yn meddwl yn siŵr y byddai’n ‘seren’ wedi iddo ddychwelyd adra i Gymru – ond chafodd o ddim cynnig bod yn extra yn Pobol y Cwm na dim!

Piti garw i’r cyfresi Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan ddŵad i ben – nifer fawr o blant Cymru wedi cael colled enfawr.

Ffynhonnell y llun, Mici Plwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mici wedi cael ei anrhydeddu yn Faer tref Pwllheli

‘Syr’ hunan-etholedig ydi Syr Wynff, a Plwmsan yn ‘Werinwr’ Cymraeg go iawn. Tydi Plwmsan erioed wedi chwennych enwogrwydd fel Syr nac ychwaith fel Arglwydd.

Ond mae’r anrhydeddau fel cael fy ethol yn Faer Tref Pwllheli (wedi imi fod yn Gynghorydd Cyngor y Dref am ddeng mlynedd) a hefyd wedi cael fy Urddo i’r Wisg Werdd yn yr Orsedd yn gwneud imi deimlo fel taswn i yn chewch troedfedd naw modfedd – ac yn medru gwneud tin dros ben ar yn ôl!

‘Tri chynnig i Werinwr o Gymro’ medda Syr Wynff – a does wybod, hwyrach y caiff Plwmsan fod yn extra yn y gyfres Pobol y Cwm rhyw ddiwrnod!

Pynciau cysylltiedig