Yr amaethwr a 'llais y Sioe' Charles Arch wedi marw
- Cyhoeddwyd
Yn 89 oed, bu farw'r amaethwr o Geredigion, Charles Arch.
Wedi ei eni a'i fagu yng nghysgod yr abaty yn Ystrad Fflur, bu'n weithgar ym maes y cobiau Cymreig.
Roedd yn llais cyfarwydd am ddegawdau fel prif sylwebydd Sioe Amaethyddol Cymru yn Llanelwedd, gan sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg ym mhrif gylch y sioe.
Roedd am gyfnod yn drefnydd mudiad y Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn, ac yn gyfarwyddwr y bwrdd hyfforddi amaethyddol.
Cyfraniad 'anferth'
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Prif Weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones, fod clywed am farwolaeth Charles Arch yn "newyddion sobor o drist".
"A hithau yn Sioe y Cardis eleni fe oedd fod i agor y sioe. Roedd y sioe yn agos iawn at ei galon.
"Mae ei gyfraniad yn anferth - roedd yn un o hoelion wyth Cymdeithas y Sioe a wastad yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn y prif gylch - roedd hynny yn bwysig iddo.
"Roedd ganddo lais arbennig fel prif sylwebydd y Sioe Fawr. I nifer fe oedd llais eiconig y sioe ac roedd e'n dod â gwefr i'r digwyddiad.
"Ry'n yn cofio hefyd am ei gyfraniad arbennig i gefn gwlad Cymru."
Un o'i ffrindiau pennaf oedd y darlledwr a'r cyn-newyddiadurwr Lyn Ebenezer.
Wrth siarad â Cymru Fyw brynhawn Sul dywedodd bod ei gyfraniad yn ei ardal enedigol yn Ystad Fflur a Phontrhydfendigaid yn anferth.
"Fe oedd dynamo gweithgareddau Clwb Ffermwyr Ifanc Ystrad Fflur yn 50au a'r 60au ac roedden ni'n ennill gwobrau di-ri yng nghystadlaethau'r ddrama a siarad cyhoeddus.
"Do'dd e byth yn gofyn i chi wneud dim byd, ond yn hytrach gorchymyn ac fel perffeithydd roedd e'n disgwyl 100% - doedd hanner 'neud y job ddim yn 'neud y tro.
"Fe gollon ni fe a'i wraig Mari o'r ardal am ryw chwarter canrif ond ro'n i mor falch o'u croesawu yn ôl yn 2007 ac unwaith eto mi wnaeth y ddau ailgydio yng ngweithgareddau'r ardal.
"Oni bai am Charles fydden i ddim wedi mynd i'r cyfryngau o gwbl - fe na'th roi'r hyder 'na i fi yn y dyddiau cynnar - ca'l fi i sefyll ar lwyfan ac i annerch cynulleidfa."
Ychwanegodd Lyn Ebenezer bod cyfraniad Charles Arch i gefn gwlad yn fawr.
"Bugail oedd e i ddechrau ac roedd e'n 'nabod y mynydd fel cefn ei law.
"Roedd e'n aelod blaenllaw o gymdeithas yr Hoelion Wyth ac roedd wastad hwyl i gael yn ei gwmni ffraeth.
"Anghofiai fyth ohono fe, fi a John Nantllwyd - cymeriad arall - yn mynd i gystadleuaeth pennau moelion yn America.
"Fi enillodd y teitl cyflwynydd moel gorau'r byd ac fi'n credu bod Charles wedi ennill cystadleuaeth y pen moel mwyaf cusanadwy - fe gawson hwyl di-ben-draw.
"Bydd colled anferth ar ôl Charles - un o gywmynaswyr mwyaf y byd amaethyddol a chefn glwad ac un oedd yn mynnu'r gorau gan bawb.
"Mae hiraeth mawr ar ei ôl."
Anrhydeddau
Fe weithiodd Charles Arch hefyd gyda Menter a Busnes, ac fe gafodd ei anrhydeddu â'r MBE am ei gyfraniad i amaethyddiaeth.
Roedd hefyd yn aelod o'r Orsedd ers cael ei urddo â'r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014.
Fe ysgrifennodd ddwy gyfrol, Byw dan y Bwa ac O’r Tir i’r Tŵr.
Bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ddydd Sadwrn yn dilyn gwaeledd o ryw dair wythnos.
Mae'n gadael gweddw Mari a dau o blant - Ifer a Mererid - a'u teuluoedd.