Artist ifanc o Fôn 'methu disgwyl' i gael bod yn rhan o gig Alanis Morissette

Megan WynFfynhonnell y llun, Megan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan Wyn, 20, yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun

  • Cyhoeddwyd

Pan fydd y gantores fyd-enwog, Alanis Morissette, yn gwneud cyngerdd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, bydd Cymraes yn cael rhannu llwyfan â hi.

Mae'r gantores ifanc o Langefni, Megan Wyn, wedi cael ei dewis i gefnogi'r gantores o Ganada, a bydd artist arall o Gymru - Gwenno - yn perfformio fel rhan o'r noson hefyd.

"Nath manager fi decstio fi a gofyn os o'n i'n rhydd a 'nath o'm deud i ba gig na'm byd; 'nath o jyst deud ei fod o i gig mawr," meddai Megan ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"'Nes i byth feddwl 'sa fo i gig mor fawr â hyn!"

Ar drên oedd hi pan dderbyniodd hi'r neges am y cyfle, meddai, a'r ymateb greddfol oedd i grio.

"O'n i methu prosesu fo am gwpl o ddiwrnodau. Dwi dal ddim yn coelio'r peth – dwi'm yn meddwl 'na i goelio'r peth tan i fi fod yna, os dwi'n onest."

Alanis MorissetteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alanis Morissette yn enw mawr ers y 90au a dechrau'r 00au gyda chaneuon fel 'Ironic', 'Hand in My Pocket' a 'You Oughta Know'

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Megan erioed.

Yn gyn-aelod o Gôr Ieuenctid Môn, mae hi bellach yn astudio Busnes Cerddoriaeth yn y brifysgol ym Manceinion.

Yn ôl yn ystod y cyfnod clo fe ddysgodd i ganu'r gitâr, ac mae hi bellach yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun ac yn gigio'n rheolaidd.

Y llynedd, teithiodd i Sweden i berfformio mewn gwyliau yno - ond gig Alanis Morissette fydd ei chyngerdd fwyaf, o bell ffordd.

Mae lleoliad y gig wedi gorfod symud oherwydd y galw aruthrol am docynnau, a bydd ffans o bob cwr o'r byd yn tyrru i gaeau Blackweir ddechrau Gorffennaf.

"Mae ei ffans hi mor dedicated. Fedra i'm disgwyl i chwarae iddyn nhw," meddai Megan.

"Mae o bob tro yn neis i gael chwarae i crowd fel'na, lle maen nhw bob tro yn dysgu lot o'r caneuon – mae o'n teimlo'n gymunedol."

"Mae cael dod yn ôl adra i Gymru i 'neud y sioe fwya' dwi 'rioed wedi ei 'neud yn teimlo'n rili sbesial"

Megan Wyn yn sgwrsio am gefnogi Alanis Morissette yng Nghaerdydd

Ag hithau ond yn 20 oed, mae hi'n rhy ifanc i gofio rhai o ganeuon enwocaf Alanis Morissette oddi ar ei halbwm, Jagged Little Pill, pan y cawson nhw eu rhyddhau gyntaf yn y 90au.

Er hyn, mae hi'n 'nabod y caneuon yn iawn, meddai.

"Mae Mam wedi eu chwarae nhw i mi wrth i mi dyfu fyny – dwi'n lyfio'r albym yna.

"Fedra i'm disgwyl i gael eu gweiddi-canu nhw yn y crowd!"

Megan WynFfynhonnell y llun, Megan Wyn

Mae'r haf yn argoeli i fod yn un prysur i Megan, gan fod ganddi hefyd gynlluniau i ryddhau rhai o'i chaneuon.

Ond wrth gwrs, yr uchafbwynt fydd cefnogi un o sêr mwya'r byd cerddoriaeth, a hynny ym mhrifddinas Cymru.

"Dwi ddim wedi chwarae yng Nghymru ers oesoedd, felly mae cael dod yn ôl adra i Gymru i 'neud y sioe fwya' dwi 'rioed wedi ei 'neud yn teimlo'n rili sbesial," meddai.

"Dwi mor nerfus. Dwi'n barod yn poeni am be' dwi'n mynd i'w wisgo, sut mae ngwallt i'n mynd i edrych... Ond er mod i'n rili nerfus, dwi'n rili cyffrous hefyd."

Pynciau cysylltiedig