Blwyddyn 'anhygoel' Sara Davies ers ennill Cân i Gymru 2024

sara daviesFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Yn Ionawr 2024, roedd Sara Davies ar groesffordd yn ei bywyd; yn gweithio fel athrawes, roedd hi eisiau mynd amdani gyda'i gyrfa canu, ond ddim yn hollol siŵr sut roedd hi am lwyddo i wneud hynny.

Yna fe enillodd Cân i Gymru gyda'r gân Ti, oedd â geiriau wedi eu hysgrifennu gan ei diweddar daid.

Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn un anhygoel o brysur i'r gantores - sy'n wreiddiol o Hen Golwyn, ond bellach yn byw yn Llandysul - gydag un uchafbwynt ar ôl y llall. A gydag albwm newydd ar y gorwel, mae 2025 yn argoeli i fod yn flwyddyn lwyddiannus arall.

Sara yn fideo Anfonaf AngelFfynhonnell y llun, Maxine Howells
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fersiwn ddawns o'r gân boblogaidd Anfonaf Angel ei rhyddhau ym mis Mai 2024, fel rhan o ymgyrch i Gymru gael cystadlu yn yr Eurovision Song Contest

Efallai mai Cân i Gymru oedd y sbardun i nifer o'r cyfleoedd mae Sara wedi eu cael dros y flwyddyn ddiwethaf, ond roedd wedi bod yn paratoi at - a gobeithio am - yrfa mewn cerddoriaeth ers blynyddoedd lawer, eglurai.

"Dwi wastad wedi mwynhau canu a dwi wastad wedi teimlo'n hapus yn canu ar lwyfan o flaen pobl eraill, yn cystadlu mewn eisteddfodau a chanu mewn cyngherddau lleol.

"Mae pawb yn y teulu wastad wedi bod yn gerddorol; y ddau daid mewn corau, Nain a Dad yn chwarae'r piano, fy nghefnder yn gwneud cwrs yn y Royal Opera House... O'ddan ni'n cael gwahoddiad i fynd i nosweithiau Cawl a Chân i ddiddanu, fel y Von Trapps!

"Cerddoriaeth ydi popeth i mi a dwi wastad wedi canu. Dwi'n teimlo fel mai dyna'r unig beth dwi'n ei ddeall yn iawn.

"O'dd o wastad yn rhywbeth dwi 'di bod isho'i 'neud ond dwi ddim yn meddwl bo' fi erioed wedi gweld sut i'w wneud fel swydd tan y flwyddyn dd'wetha.

Sara a RyanFfynhonnell y llun, Sara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara a'i chefnder, Ryan, yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2015

"Pan o'n i yn fy arddegau, roedd gen i gyfrif YouTube ac o'n i'n recordio covers o ganeuon Saesneg. Ges i gyfle i fynd ar y rhaglen Heno i 'neud sgwrs a chân, ac o'n i ddim isho canu cân rhywun arall.

"O'dd gen i fis i ysgrifennu rhywbeth, ond o'n i'm yn siŵr lle i ddechrau ar y geirie, felly 'nes i ofyn i Taid. O'dd o'n mwynhau sgwennu storis a cherddi a chystadlu mewn eisteddfodau lleol, a 'nath o sgwennu'r gân Lluniau, a 'nes i sgwennu cerddoriaeth ar ei gyfer o, a 'nath hwnne ddechre pethe ffwrdd.

"A dwi'n meddwl achos bod Taid 'di gweld bo' fi 'di gneud rhywbeth o'i eiriau, 'nath o wedyn fynd ati i sgwennu mwy i mi. O'n i ddim wedi gneud lot efo'r caneuon am dipyn ac o'dd yr amlen blastig o gerddi ar y piano am sbel, ond wedyn ar ôl colli Taid yn 2021, 'na'th hwnna roi hwb i mi ddefnyddio'r geiriau yma.

"'Nes i sgwennu Robin Goch jyst ar ôl colli Taid; dyna be' oedd yn mynd ymlaen yn fy mhen ac o'n i'n rhoi fy hun yn sgidiau Nain. Os dwi'n sgwennu cân sydd ddim rili amdana i, rhaid mod i'n dychmygu sut mae rhywun arall yn teimlo.

"Mae'r albwm yn gymysgedd o ganeuon dwi 'di mynd ati i 'neud fy hun, a rhai lle dwi 'di defnyddio geiriau Taid neu wedi eu defnyddio fel ysbrydoliaeth."

Sara gyda'i thlws Cân i GymruFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Sara Cân i Gymru 2024 gyda'r gân Ti

Rhoddodd Sara gerddoriaeth i eiriau ei thaid er mwyn cystadlu yn Cân i Gymru 2024, gyda'r gân Ti - geiriau oedd wedi eu hysgrifennu am nain Sara. Mae'n gân deimladwy, ond llwyddodd Sara i beidio gadael i'r emosiwn fynd yn drech na hi ar noson y gystadleuaeth; cynnwrf oedd hi'n ei deimlo fwyaf, meddai.

"Fi oedd cân saith, ac o'dd o'n oesoedd tan bo' fi ymlaen, ac o'n i jyst isho mynd a'i gael o drosodd efo. Fel'na o'n i o hyd pan o'n i'n cystadlu mewn eisteddfodau; isho mynd gynta jyst i ga'l ei 'neud o, ond wedyn isho'i 'neud o eto.

"O'n i'n lwcus achos bo' fi 'di ennill, o'n i'n cael canu eto ac o'n i'n teimlo fel bod y perfformiad ar ôl ennill lot gwell! O'n i isho i'r gân gael ei pherfformio orau o'n i'n gallu ei 'neud, ac o'dd hi'n bwysig i fi bod pobl yn ei chlywed fel'na.

"Yn yr ymarfer ar y dydd, o'dd y bobl rheoli llawr yn deud 'fydd dy deulu di yn fan hyn, iawn?' ac o'ddan nhw syth o flaen fi os o'n i'n edrych i fyny o'r piano... 'Nathon nhw symud nhw i fod dal yn y ffrynt ond o'n nhw tu ôl i fi.

"O'n i'n canolbwyntio gymaint ar beidio mynd yn ypset a peidio crio a meddwl am y geiriau gormod. O'n i'n gwybod yn iawn hyd yn oed heb edrych, fyddwn i'n gallu synhwyro bod Nain yn crio.

Tlws a llun o TaidFfynhonnell y llun, Sara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tlws Cân i Gymru Sara gyda llun o'i thaid, a ysgrifennodd y geiriau i'w chân fuddugol, Ti

"Dwi 'di gallu canu'r gân heb fynd yn ypset am y flwyddyn d'wetha ma' i gyd... wedyn ym mhriodas fy nghefnder i o'n ni mewn fel stafell rili intimate efo jyst teulu yna, ac o'n i'n ei chanu hi, ac o'n i 'di dechre crio achos bod Nain 'di dechre crio o flaen fi.

"O'n i 'di dechrau meddwl gormod am y geiriau, a dwi'n meddwl o'dd o 'di sincio mewn bod Taid ddim yn y briodas."

Sara yn CarlowFfynhonnell y llun, Sara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o wobr Cân i Gymru oedd cael cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow - enillodd Sara y categori Cân Ryngwladol Orau

Ers dod yn fuddugol yn Cân i Gymru, mae Sara wedi cael profiadau bythgofiadwy; o ennill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow, i fod yn wyneb ymgyrch i gael Cymru yn rhan o'r gystadleuaeth Eurovision Song Contest a chanu fersiwn ddawns o'r gân Anfonaf Angel, i berfformio a chyflwyno gwobr yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

"O'dd o'n anhygoel perfformio yn y BAFTAs o flaen pobl dwi'n eu 'nabod oddi ar y teledu. Ond o'n i'n canolbwyntio gymaint at beidio tagu yn ystod y gân achos o'n i mor sâl ar y pryd. O'dd gen i vocalzone yn fy ngheg tra o'n i'n perfformio, ac o'n i 'di bod yn yfed sudd sinsir a wisgi drwy'r dydd i glirio'r gwddw! O'n i bach on edge achos o'n i isho gneud yn dda.

"O'n i'n edrych rownd ar y bobl enwog 'ma sydd wedi bod mewn cyfresi dwi wedi gwylio yn edrych arna i... o'dd o mor bizarre!

"Y flwyddyn gynt, roedd ffrind wedi mynd i BAFTA Cymru a dwi'n cofio meddwl pa mor anhygoel fasa hi 'swn i'n cael gneud hynny rhywbryd... a'r flwyddyn wedyn o'n i yna! O'dd hwnna reit amazing."

Ian H Watkins a SaraFfynhonnell y llun, Coco & Cwtsh
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sara yn cyflwyno gwobr gydag Ian 'H' Watkins yn seremoni BAFTAs Cymru

Mae Sara nawr yn gweithio ar ei halbwm cyntaf gyda'r label Coco & Cwtsh. Mae hi wedi rhoi'r gorau i'w swydd dysgu am y tro er mwyn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar ei gyrfa canu, ac mae hi'n edrych gyda chyffro tua'r dyfodol.

"Dwi 'di mynd i gyfeiriad hollol wahanol i be' o'n i'n dychmygu 'swn i 'di mynd. Dwi'n meddwl o'n i'n gobeithio mai mynd ar y trywydd yma byswn i ond o'n i'm yn siŵr sut i fynd amdani ac o'n i'm yn gwybod sut o'dd o'n mynd i fod yn bosib achos pa mor gystadleuol ydi'r diwydiant.

"Ma' rhaid bod ti efo enw i dy hun neu yn rili llwyddiannus i fod yn gallu 'neud bywoliaeth o'r canu.

"O'dd gen i'r bwriad i 'neud albwm homemade - efo' fi 'di 'neud o gyd adre yn y llofft a'i gynhyrchu o fy hun. Ond wedyn 'nath y caneuon dechre golygu mwy i fi.

"Dwi mor falch bo' fi 'di gallu cael offerynwyr amazing i roi'r chwarae teg o'ddan nhw'n eu haeddu. Maen nhw'n ganeuon hollol wahanol rŵan, a dwi jyst lot fwy cyffrous am bopeth.

"Dwi'n despret rŵan i ga'l hwn allan a bo' pobl yn clywed o. Unwaith ma'r albwm allan, 'dan ni'n mynd i fod yn trio mynd ar daith. Mae deud hynny yn anhygoel.

Sara a Jack Parry-JonesFfynhonnell y llun, Maxine Howells
Disgrifiad o’r llun,

Actor House of the Dragon a The Crown, Jack Parry-Jones, oedd yn serennu gyda Sara yn fideo ei sengl Just Like in the Movies

"Dwi dal i ddysgu piano a dwi 'di bod yn dysgu 'chydig o blant i baratoi at y Steddfod. Dwi dal yn mwynhau dysgu ond dwi'n meddwl o'dd o 'di cyrraedd pwynt lle o'dd angen i fi ddewis un neu'r llall.

"Mae bywyd dysgu mor full on, yn enwedig efo pethau allgyrsiol. Pan o'n i'n cael amser rhydd, o'n i isho gallu canolbwyntio ar y canu. O'dd o wastad yng nghefn fy meddwl i...

"Dwi 'di sylweddoli bod rhaid i fi roi'r amser iddo fo a rhoi cynnig iawn arni, achos dwi'n gwybod 'na i ddifaru dim trio."

Pynciau cysylltiedig