Adeiladu ar 'lwyddiant ysgubol' Eisteddfod Wrecsam 'am fod yn her'

Eisteddfod WrecsamFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  • Cyhoeddwyd

Bydd yr Eisteddfod nesaf yn ceisio "adeiladu ar lwyddiant ysgubol" prifwyl Wrecsam, medd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

Mae prifwyl 2026 am fod yn "gwbl unigryw" gan ei fod yn cwmpasu Sir Benfro, gogledd Sir Gâr a de Ceredigion, meddai John Davies.

Dywedodd Mr Davies fod yr Eisteddfod eleni "wedi llwyddo mewn tirwedd ddiwylliannol wahanol" i'r hyn fydd yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf yn Sir Benfro.

Ychwanegodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, ei bod yn "hapus iawn" gyda sut mae pethau wedi mynd yn Wrecsam.

Dywedodd bod elfennau o raglen y brifwyl nesaf "eisoes ar waith".

John Davies
Disgrifiad o’r llun,

John Davies - cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro - fydd cadeirydd y pwyllgor gwaith yn 2026

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar Faes yr Eisteddfod, dywedodd John Davies fod "cydio yn yr holl lwyddiant sydd wedi ein hamgylchynu'r wythnos hon" am fod yn "tipyn o her".

"Mae bob ardal yn rhoi stamp eu hunain a dyna beth fydde ni'n ceisio ei efelychu yw'r stamp unigryw hynny o groeso fe gewch chi yn y de-orllewin," meddai.

"Mae'n unigryw oherwydd ei bod yn Sir Benfro ond ni hefyd yn ymestyn allan i'n cymdogion yng Ngheredigion a gorllewin Sir Gâr hefyd."

Ychwanegodd gall pobl ddisgwyl yr un math o Faes ag eleni, ond gyda "teimlad hollol wledig".

Betsan Moses
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pobl wedi cael modd i fyw," meddai Betsan Moses am Eisteddfod Wrecsam

Dywedodd Betsan Moses ei bod yn credu fod "rhywbeth at ddant pawb" ar Faes Eisteddfod Wrecsam.

"Mae pobl wedi cael modd i fyw. Pob nos mae pobl wedi dod ata i i ddweud fod y Maes 'ma yn un o'r gorau ni di cael.

"Mae'n wledd ac mae 'na fil o ddigwyddiadau heb sôn am y cystadlu," meddai.

Dywedodd ei bod yn teimlo fod pris mynediad yn "fargen" gyda'r holl ddigwyddiadau sydd ymlaen.

"Wnaeth rhywun ddeud i mi neithiwr bod nhw wedi mynd i bedwar digwyddiad a fysa nhw wedi gwario £90 ar y tu allan - heb sôn am gael dod ar y Maes - felly mae'n fargen dod i'r Eisteddfod."

Ychwanegodd: "Y gobaith yw nad yw'r gost yn rhwystr i bobl brofi diwylliant."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.