Sion Jewell: 'Dwi eisiau bod yn fi fy hun'
- Cyhoeddwyd
"Dwi am fyw sut dwi eisiau byw, dwi'n berson anneuaidd a dwi ddim am ei guddio fo dim mwy."
Dyna eiriau Sion Jewell wrth eistedd i lawr efo Cymru Fyw a thrafod eu taith ryfeddol ac emosiynol i ddarganfod pwy ydyn nhw.
Mae Sion yn nghanol eu hugeiniau ac yn byw ar Ynys Môn.
Mae'r flwyddyn wedi bod yn un brysur, yn ogystal â gwaith bob dydd, cafon nhw gyfle i weithio ac ymgynghori ar y nofel Darogan.
Darogan
Mae Darogan gan Siân Llywelyn yn nofel am asiantaeth gudd sy’n ymchwilio i ddigwyddiadau goruwchnaturiol. Ynddi, meddai Gwasg Carreg Gwalch, mae’r cymeriad anneuaidd cyntaf i fod mewn nofel Gymraeg sef Taran.
Fe gysylltodd y wasg gyda Sion, a gofyn iddyn nhw ymgynghori ar y portread o Taran yn y stori.
Drwy ffrind teulu y daeth Gwasg Carreg Gwalch i gyswllt â Sion i ofyn am eu help i sicrhau fod cymeriad Taran yn cael ei gyflwyno’n deg ac yn gywir fel person anneuaidd a hynny heb fod yn rhy ddisgrifiadol.
Dywedodd Sion, “Fel cymdeithas dw i’n meddwl ’dan ni dal angen gweithio, yn enwedig yn Gymraeg, ar sut i ddangos pobl anneuaidd, ond [mae cael y cymeriad yma yn y nofel] definitely yn start. Ond ’dan ni angen mwy ohono fo – mwy o’n storïau ni yn dod allan yng nghyfrwng y Gymraeg.”
Byddai cael cynrychioliad fel hwn pan oedden nhw yn eu arddegau wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi rhoi’r termau i Sion, iddyn nhw allu egluro sut oedden nhw’n teimlo am eu hunaniaeth:
“Bydda lot llai o heartache, lot llai o depression a teimlo fel bo’ fi ddim yn bodoli a ddyliwn i ddim.”
Roedd Sion yn falch iawn o helpu'r awdur a'r wasg, ond dyw'r daith o gyrraedd lle maen nhw heddiw a sut mae Sion yn teimlo'n emosiynol am eu hunain, heb fod yn un hawdd.
Dywedodd Sion: "Nes i sylwi fod o'n i ddim yn hogan na yn hogyn pan o'n i tua pedair oed.
"Dwnim os oedd o'n gymdeithas ar y pryd neu sut o'n i wedi tyfu i fyny, ond roedd genod yn gwisgo sgertiau ac yn gwisgo ffrogiau ac yn gwisgo pinc, ac oes oedde ti ddim yn gwisgo hynny, roeddet ti yn hogyn.
"Do'n i ddim yn teimlo fy mod i'n hogan achos do'n i ddim yn licio gwisgo pinc, do'n i ddim eisiau gwisgo sgert pob tro a do'n i ddim eisiau bod y stereotype o be sydd ei angen i fod yn ddynas.
"Ond do'n i ddim yn ffitio fewn efo'r teimlad o fod yn hogyn chwaith, mae o fel yr inbetween ond tydi o ddim chwaith, mae'n rili od i deimlo fel 'na."
Dweud wrth y teulu
Yn eu arddegau aeth Sion drwy gyfnod dryslyd o ran hunaniaeth.
Ond daeth trobwynt sylweddol ar ôl iddyn nhw ddechrau yn y Brifysgol a chyfarfod person anneuaidd arall.
"Pan o'n i'n tua 20 i 21 oed, nes i gwrdd â person anneuaidd yn y Brifysgol.
"Ar y pryd, do'n i ddim yn defnyddio'r term anneuaidd ond yn defnyddio'r gair androgynous, ond dal ddim yn teimlo'n gyfforddus cael fy ngalw yn ferch neu yn fenywaidd.
"Dros gyfnod, wedyn dod i gwrdd a mwy a mwy o bobl anneuaidd a mwy o bobl traws a sylwi – dwi yn anneuaidd – nath 'na just massive light bulb ddigwydd."
Yn ystod y cyfnod clo, roedd yn rhaid i Sion symud yn ôl adref i fyw ar Ynys Môn.
Dyma pryd roedden nhw'n teimlo fod yn rhaid sôn wrth y teulu am y teimladau oedd wedi bod yn bresennol ers blynyddoedd, ond oedd wedi cael eu cuddio.
"Erbyn 2021 nes i siarad gyda fy nheulu, nes i ddechrau gyda fy chwiorydd a fy ffrindiau.
"Roedd fy chwiorydd on board o'r cychwyn ond ddim yn siwr ar sut i adaptio a sut i fynd o she, her a hi i they, them a nhw ond mae nhw wedi bod yna o'r cychwyn, er eu bod nhw ddim yn deall yn iawn be oedd.
"Roedd rhai o'r teulu, mae nhw dal yn gwrthod siarad amdano, gwrthod sôn amdano, dwi dal yn 'Sioned' hefo nhw, a dwi dal yn hi, ac mae 'na rai pobl ble mae hi wedi cymryd mwy o amser iddyn nhw ddod i ddeall," meddai.
O ran byw heddiw fel person anneuaidd, mae Sion yn credu fod angen "safe space" i bobl allu bod yn agored am eu hunaniaeth.
"Lle dwi'n byw ar y funud, does yna ddim person anneuaidd arall, neu tydw i heb ddod ar eu traws nhw beth bynnag."
"Mae bywyd yn rhy fyr i deimlo fod pethau ond yn digwydd yn dy ben di a bo ti methu siarad allan amdano.
"Mae'n well byw sut wyt ti'n teimlo fel person yn lle byw yn y shadows," meddai.
O ran cymdeithas, mae Sion yn credu bod newid wedi bod mewn agwedd ambell un, ond bod dal ffordd hir i fynd.
"Mae pobl anneuaidd wastad wedi bod yma, mae yn rhan o'n hanes ni, mae'n hanes Cymru, ond fod y termau yn newydd.
"Da ni'n deall rŵan ychydig bach mwy i be oedden ni ddeng mlynedd yn ôl."
Mae Sion yn sôn bod nofelau tebyg i Darogan a phresenoldeb amlwg stondinau â themâu LHDTC+ fel Mas ar y Maes a Cwiar Na Nog mewn digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd yn bell i addysgu pobl.
O ran y dyfodol a theimlo'n gyfforddus ac yn hyderus am eu hunaniaeth, mae Sion yn gwbwl grediniol fod siarad gyda theulu a ffrindiau wedi gwneud lles anferth i'w hyder nhw.
"Dwi am fyw sut dwi eisiau byw, dwi'n berson anneuaidd a dwi ddim am guddio hynny.
"Dwi eisiau bod yn fi fy hun ac oes oes rhywun ddim yn licio fo, duwcs, dim ots!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin