Dringwr wedi marw ar ôl disgyn o glogwyn yn Sir Benfro

Bullslaughter BayFfynhonnell y llun, Ben Meyrick/geograph.org
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r dringwr yn Bullslaughter Bay, Sir Benfro nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dringwr wedi marw ar ôl disgyn o glogwyn yn Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Powys eu bod wedi derbyn galwad gan Wylwyr y Glannau toc wedi 20:00 nos Iau yn mynegi pryder am les y dyn.

Bu farw'r dyn yn y man a'r lle wedi iddo ddisgyn o glogwyn yn Bullslaughter Bay ger Bosherston ar arfordir deheuol y sir.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd, meddai'r llu.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig