Ffermwr a gododd £50,000 yn ystod y pandemig wedi marw

Rhythwyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cerddodd Rhythwyn Evans o Silian o amgylch ei dŷ 91 o weithiau ar ei ben-blwydd yn 91 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Geredigion a gododd £50,000 i'r gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig wedi marw yn 95 oed.

Cerddodd Rhythwyn Evans o Silian o amgylch ei dŷ 91 o weithiau ar ei ben-blwydd yn 91 oed.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fab, Dai Charles Evans, bod ei dad wedi marw "yn dilyn bywyd hapus a hir".

Dywedodd ei ferch-yng-nghyfraith, y Cynghorydd Eryl Evans, wrth BBC Cymru mai Mr Evans oedd "y dyn mwyaf caredig a diddorol i mi erioed ei gyfarfod".

Cadarnhaodd ei fod wedi marw brynhawn Gwener, yng nghwmni ei deulu.

Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Rhythwyn Evans godi arian i'r gwasanaeth iechyd er mwyn dangos ei "werthfawrogiad"

Cafodd Rhythwyn Evans ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore o Swydd Efrog, a gododd dros £18m ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Ar 18 Ebrill 2020, penderfynodd Rhythwyn Evans gerdded o gwmpas ei gartref ar fferm Tan-y-Graig 91 o weithiau ar achlysur ei ben-blwydd yn 91 oed.

Cododd dros £50,000 ar gyfer elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Penderfynodd godi arian i'r rheini oedd yn trin pobl â coronafeirws er mwyn dangos ei "werthfawrogiad" o waith y gwasanaeth iechyd.

'Rhaid dangos ein gwerthfawrogiad'

Dywedodd Mr Evans yn 2020: "Mae'r coronafeirws wedi effeithio pawb yn yr ardal hyn.

"Roedd rhaid trio gwneud rhywbeth er gwerthfawrogiad i'r doctoriaid a'r nyrsys a phawb oedd ynglŷn â'r bwrdd iechyd yn yr ardal.

"Roedd rhaid dangos ein gwerthfawrogiad drwy wneud rhywbeth."

Treuliodd Mr Evans amser yn ysbytai Bronglais a Thregaron, yn ogystal â chartref gofal Allt y Mynydd yn Llanybydder.

Ym mis Medi 2024, roedd ei deulu wedi siarad am eu pryderon y gallai cau ysbyty cymunedol Tregaron olygu mwy o bwysau ar ysbytai eraill yng ngorllewin Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Cerddodd Rhythwyn Evans o amgylch ei gartref 91 gwaith

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans bod y teulu'n falch iawn o'i gyfraniad a'i ymdrechion wrth godi arian.

"Fe wnaeth e osod esiampl dda i'w wyrion a'i or-wyrion ar sut i fod yn bobol dda," ychwanegodd.

"Roedd yn ddyn arbennig iawn, fe oedd conglfaen ein teulu a'r gymuned... y math o berson oedd yn esiampl i eraill yn y gymuned.

"Roedd yn arfer cadeirio'r cyngor cymuned ac yn rhan o bob math o grwpiau oedd yn trafod ffermio. Roedd e'n rhan o'r sioeau lleol. Roedd wastad yno ar gyfer unrhywbeth pwysig."

"Roedd yn meddwl yn ofalus cyn dweud ei farn ac roedd yn dweud pethau er lles y gymuned."