Ynys Enlli: Dyn wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan gerbyd

Ynys EnlliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christopher Charles Lamont wedi'i gyflogi i gludo bagiau rhwng fferi i'r ynys a llety lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod dyn wedi marw ar Ynys Enlli ar ôl cael ei wasgu yn erbyn wal gan gerbyd y bu’n ei yrru.

Roedd Christopher Charles Lamont wedi ei gyflogi dros dro i gludo bagiau rhwng fferi a llety ar yr ynys.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod marwolaeth Mr Lamont, 63 oed o Sir Amwythig, wedi cael ei gadarnhau am 17:40 ar 19 Mehefin.

Wrth agor y cwest, fe ddywedodd y Crwner Kate Robertson: “Rhywbryd cyn 16:47 ar 19 Mehefin, mae’n ymddangos i'r cerbyd y bu Mr Lamont yn ei yrru ddechrau rhowlio’n ôl, wedi iddo ei adael.

“Fe gafodd ei ddarganfod rhwng cefn y cerbyd a wal gerrig, gydag anafiadau angheuol.”

Fe wnaeth archwiliad post mortem ar 25 Mehefin nodi anafiadau i'w frest a’i fol o ganlyniad i gael ei wasgu fel achos dros dro ei farwolaeth.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.