Tarw gwerth £1800 wedi'i ddwyn o Sir Gâr

- Cyhoeddwyd
Mae tarw gwerth £1800 wedi cael ei ddwyn o fferm yn Sir Gâr, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Cafodd y tarw Henffordd teirblwydd ei ddwyn o dir pori wrth ymyl pentref Cynwyl Elfed ganol mis Mehefin ac mae'n cael ei ddisgrifio fel un lliw coch a gwyn.
Y rhif ar dag y tarw yw UK75413350064.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.