Hanes difyr dyfodiad argraffu i Gymru

- Cyhoeddwyd
Faint wyddoch chi am sut daeth y wasg argraffu i Gymru?
Dr Eryn White fu'n sôn ychydig am hanes dyfodiad y wasg i Gymru ar raglen Aled Hughes.

Dr Eryn White, hanesydd a darlithydd Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yn ôl yr hanesydd, y Rhufeiniad ddechreuodd ysgrifennu ar ddwy ochr y papur a'u rhwymo at ei gilydd yn wreiddiol, ac felly mae'r llyfr "wedi bod yn hynod lwyddiannus ers canrifoedd.".
Dywedodd bod argraffu wedi "newid pethau'n aruthrol" Cyn hynny, meddai:
"Oeddech chi'n gorfod ysgrifennu llyfrau, o' chi'n gorfod copïo nhw mas mewn llefydd fel Abaty Ystrad Fflur, er enghraifft.
"Oedden nhw'n gallu bod yn hardd iawn, ond dim ond hyn a hyn oeddech chi'n gallu cynhyrchu, lle ma argraffu'n golygu bod chi'n gallu cael cannoedd [o gopïau] yn weddol gyflym."

Mynedfa Abaty Ystrad Fflur
Esboniodd Dr White mai Almaenwr, Johannes Gutenberg, feddyliodd am y syniad o argraffu yn wreiddiol yn y 15fed ganrif. Lledodd y broses ar draws weddill Ewrop mewn chwyldro, "rhywbeth tebyg i ddyfeisio'r we yn yr oes fodern, mae'n chwyldroi sut mae pobl yn cyfathrebu â'i gilydd ac yn lledu syniadau".

Yr Almaenwr, Johannes Gutenberg, feddyliodd am y syniad o argraffu yn wreiddiol
Ni chyrhaeddodd gwasg i Gymru am gyfnod hir, ac roedd hynny yn ôl Dr White o ganlyniad i densiynau gwleidyddol "cymhleth".
"Mi oedd y llywodraeth yn mynnu mai dim ond yn Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt y gellir cael argraffdy, oherwydd bod nhw eisiau cadw golwg ar gynnyrch y wasg, yn enwedig pan mae Harri VIII yn torri'n rhydd oddi wrth Rufain – doedd e ddim eisiau i bobl gynhyrchu llyfrau oedd yn ei feirniadu e.
"Roedd hynny'n golygu fod llyfrau cynnar Cymraeg yn cael eu hargraffu yn Llundain, a roedd pob math o broblemau yn codi gyda hynny wedyn, oherwydd roedd y rheiny oedd yn gosod y testun heb fod yn gyfarwydd gyda'r iaith o gwbl, ac yn aml iawn roedd gwallau yn dod mewn i'r gwaith yn sgil hynny", esboniodd.

Mae'r llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546 yn dangos un esiampl o'r broblem. Roedd Yny Lhyvyr Hwnn gan Sion Prys i fod yn "gasgliad o ddeunydd eithaf defnyddiol. Pethau fel yr wyddor yn Gymraeg i helpu pobl i ddysgu darllen; tipyn bach o wybodaeth grefyddol, a oedd fod i gynnwys y 10 gorchymyn. Ond dim ond naw gorchymyn a gafwyd oherwydd bod yr argraffwyr wedi gollwng allan 'Na ladrata'".
"Mi oedd pethe' fel 'na yn gallu digwydd nid yn unig yn y Gymraeg ond yn y Saesneg. Mi oedd 'na argraffiad o'r Beibl Saesneg yn 1631 sy'n cael ei adnabod fel y Beibl drwg, oherwydd 'naethon nhw ollwng un gair allan oedd yn golygu fod e'n dweud 'thou shalt commit adultery'" esboniodd Dr White.

Yn 1695 daeth newidiadau i'r gyfraith a olygodd yr hawl i argraffu yng Nghymru. Nid oedd brys i sefydlu argraffwasg yng Nghymru. Y rhesymau am hynny oedd diffyg buddsoddiad ariannol a diffyg sgiliau perthnasol yn lleol.
Sefydlodd Tomos Jones, dyn a fu'n gweithio mewn argraffdai yn Llundain, yn wasg yn Amwythig a chyhoeddi "tipyn" o weithiau yn Gymraeg. Nid tan 1718 y cafodd argraffdy ei sefydlu yng Nghymru.
Dyn o'r enw Isaac Carter oedd yn gyfrifol am wneud, ac roedd ei argraffdy yn "fenter fach" a oedd yn cyhoeddi gweithiau byr. Roedd hyn yn cynnwys ei waith cyntaf ef, sef darn o farddoniaeth gan ficer lleol a oedd yn datgan fod bywyd yn anodd wrth drio rhoi'r gorau i ysmygu.