Gwahardd ymchwilydd wedi negeseuon sarhaus am Dorïaid
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilydd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ei gwahardd yn dilyn honiadau ynghylch negeseuon sarhaus ar-lein.
Roedd adroddiadau bod Sinead Cook wedi anfon sawl neges, gan gynnwys un oedd yn dweud "f*** the Tories".
Pwrpas yr Ombwdsmon a'i staff yw ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd ynghylch cyrff cyhoeddus neu gynghorwyr.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar yr Ombwdsmon i edrych eto ar achosion o'r gorffennol yn sgil y gwaharddiad, i sicrhau bod y prosesau'n deg.
Dau o brif egwyddorion swyddfa'r Ombwdsmon yw didueddrwydd ac annibyniaeth.
Mewn datganiad, dywedodd swyddfa'r Ombwdsmon: "Yn dilyn honiadau a wnaeth yr wythnos ddiwethaf, gwaharddwyd rheolwr tîm ddydd Gwener.
"Nid oeddent wedi rheoli ein tîm Côd Ymddygiad Cynghorwyr ers haf diwethaf."
Hen achosion yn deg?
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r gwaharddiad, ond dywedon nhw fod cwestiynau heb eu hateb.
Dywedodd eu llefarydd ar lywodraeth leol, Sam Rowlands AS: "Mae'r sylwadau cas gan rywun sy'n uchel yn swyddfa'r Ombwdsmon yn frawychus, ac mae'n bryderus bod agwedd mor niweidiol i'w weld, yn enwedig pan mai disgwyliad y swyddfa yw ymddwyn gyda pharch a thegwch."
Ychwanegodd bod cwestiynau am ymddygiad yr unigolyn yn y gorffennol.
"Mae'n rhaid i'r Ombwdsmon nawr gribo drwy hen achosion i sicrhau eu bod wedi eu trin yn deg."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes ganddynt unrhyw ran wrth benodi neu reoli Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.