Teyrnged i ddyn 78 fu farw wrth gludo gwaed ar ran elusen

A478 ym Mhentregalar
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A478 ym Mhentregalar

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn 78 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A478 ar 2 Gorffennaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Dywedon nhw eu bod yn "drist iawn o golli gŵr, llysdad, taid, brawd, ewythr a ffrind ymroddedig".

Roedd Timothy Minett yn gwirfoddoli i elusen Beiciau Gwaed Cymru ar adeg y gwrthdrawiad.

Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Apêl am wybodaeth

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan wen Volkswagen a'r beic modur ar yr A478 ym Mhentregalar yng ngogledd Sir Benfro a bu farw Mr Minett yn y fan a'r lle.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen sy'n darparu gwasanaeth cludo am ddim i'r gwasanaeth iechyd, yn cario eitemau fel gwaed a phlasma ar draws y wlad.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu luniau dash-cam, i gysylltu â'r llu.

Mae teulu Timothy Minett wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddynt ddod i delerau â'i farwolaeth ac yn unol â'i ddymuniadau, ni fydd angladd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig