Cwmni gemwaith o Lundain wedi achub Byrllysg Bangor

Byrllysg BangorFfynhonnell y llun, Wartski
  • Cyhoeddwyd

Mae byrllysg (mace) sy'n cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau seremonïol ym Mangor ers 140 o flynyddoedd wedi cael ei achub gan gwmni gemwaith yn Llundain.

Roedd Cyngor Dinas Bangor yn poeni nad oedd modd i’r cyngor fforddio’r gost o drwsio byrllysg y ddinas, oedd wedi dirywio’n sylweddol.

Roedd rhannau ohono’n disgyn yn ddarnau.

Roedd pob un o feiri'r ddinas wedi defnyddio’r byrllysg ers 1883, pan gafodd ei gyflwyno i nodi’r ffaith fod Bangor wedi cael statws dinas gan y Frenhines Victoria.

Disgrifiad o’r llun,

Y Tad Deiniol Morgan yn bendithio'r byrllysg yn Llundain

Fe gytunodd cwmni gemwaith yn Llundain, Wartski, sydd â chysylltiadau â Bangor, ei drwsio am ddim.

Mae cwmni Wartski wedi ei leoli ar St James Street yn Llundain ac wedi bod yn gyfrifol am greu modrwyau priodas y Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yng Ngwlad Pwyl cyn i'r sylfaenydd, Morris Wartski, agor ei siop gyntaf ar Stryd Fawr Bangor ym 1865.

Ei fab, Isodore, oedd maer y ddinas rhwng 1939 a 1944.

Mae’r cwmni wedi cytuno i adfer y byrllysg am ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Gwarchodfilwr Adrian Owen o Bontnewydd gyfarch y byrllysg ar ei daith yn ôl adref

Ar ôl cludo’r byrllysg i Lundain, bu arbenigwyr yn ei drin a’i adfer dros gyfnod o dri mis.

Mae'r byrllysg yn symbol o gysylltiadau brenhinol dinas Bangor, ac mae wedi cael ei ddefnyddio yn ystod ymweliadau brenhinol yn ogystal â seremonïau'r maer.

Cyn dychwelyd i Fangor, fe gafodd y byrllysg ei gludo o bencadlys Wartski, heibio Palas Buckingham, i bencadlys y Gwarchodlu Cymreig, lle cafodd ei gyfarch gan y gwarchodwyr.

“Mae’n fendigedig gweld rhywbeth o Fangor yma yn Wellington Barracks," meddai’r Gwarchodfilwr Adrian Owen, 23, sy’n dod o bentref Bontnewydd ger Caernarfon.

"Mae’n wych bo' ni fel y Gwarchodlu Cymreig yn gallu rhoi rhyw fath o saliwt iddo fo ar ôl iddo gael ei drwsio cyn y daith nôl adre'."

'Stori anarferol a gwych'

Fe gafodd y byrllysg fendith hefyd gan gaplan y Gwarchodlu Cymreig dafliad carreg o Balas Buckingham.

“Mae’n stori anarferol tu hwnt, ond mae’n stori wych, yn dydi?” meddai’r Raglaw Gyrnol y Parchedig Deiniol Morgan, caplan y Gwarchodlu Cymreig.

“Mae’r cysylltiadau teuluol gyda gwasanaeth cyhoeddus y teulu Warstki yn yr ardal mor gryf.

“Mae’n wych medru ail-gysylltu dinas Bangor gyda’r Gwarchodlu Cymreig a’r cysylltiad agos sydd gydag ardal Arfon."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones fod eu dyled i'r cwmni'n fawr

Fe gafodd y byrllysg ei gludo’n ddiogel yn ôl i Fangor brynhawn Mercher a bydd yn cael ei ddefnyddio’n fuan mewn seremonïau dinesig.

“Mae’n dyled ni i deulu Wartski yn fawr iawn,” meddai’r Cynghorydd Elin Walker Jones, Maer Bangor.

“Ry'n ni mor ddiolchgar iddyn nhw am drwsio’r mace i ni am ddim.”

Bydd y byrllysg yn cael ei ddefnyddio nesaf ar gyfer Sul y Maer ganol mis Gorffennaf ac mewn cyfarfodydd ffurfiol, cyfarfodydd llawn o’r cyngor a digwyddiadau seremonïol.

Ar ei newydd wedd, wedi 140 o flynyddoedd o wasanaeth, y gobaith ydy y bydd y gwaith adfer yn sicrhau fod Byrllysg Bangor wedi’i ddiogelu am genedlaethau i ddod.

Pynciau cysylltiedig