Cyngor i fwrw 'mlaen â gwahardd hysbysebu bwydydd sothach

- Cyhoeddwyd
Fe fydd cyngor yn ne Cymru yn parhau â chynllun i wahardd hysbysebion am fwydydd sydd ddim yn iach mewn rhai mannau cyhoeddus.
Cyngor Bro Morgannwg fydd y cyntaf yn y wlad i gymryd y cam, ac fe fyddan nhw hefyd yn atal hysbysebu bwydydd o'r fath ar eu gwefan.
Fe wnaeth arweinydd y cyngor, Lis Burnett, wadu bod yr awdurdod yn penderfynu beth oedd pobl yn cael ei fwyta.
Dywedodd: "Dydyn ni ddim yn dweud nad ydy pobl yn cael prynu rhain. Dydyn ni ddim yn dweud na chewch chi eu bwyta. Ond dydyn ni ddim am roi lluniau ohonyn nhw ym mhobman."
- Cyhoeddwyd18 Awst
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Dywedodd cynghorydd arall, Rhiannon Birch, nad oedd llawer o bobl yn ymwybodol o gynnwys y bwydydd yma.
"Rydyn ni eisiau gweld bod pobl yn deall yn well, yn gallu gwneud dewisiadau gwell a ddim yn gweld yr hysbysebion yma yn eu hwynebau drwy'r amser."
Yn ôl y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, bydd y polisi yn helpu'r cyngor i gyrraedd nodau ynghylch "anghydraddoldeb iechyd".
Ym mis Mawrth fe gymeradwyodd Senedd Cymru reolau newydd ar ble mae arwerthwyr yn cael arddangos rhai bwydydd sydd ddim yn iach mewn siopau ac ar wefannau.
Fe fydd y cyfyngiadau, sy'n dod i rym ym Mawrth 2026, yn effeithio bwydydd sy'n uchel mewn siwgr, braster a halen.
Ar y pryd dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, y byddai'n helpu i "daclo problem gordewdra Cymru sydd ar gynnydd".