Gwahardd arddangos bwydydd afiach ger mannau talu siopau

- Cyhoeddwyd
Bydd archfarchnadoedd yn cael eu gwahardd rhag arddangos byrbrydau sy'n gysylltiedig â gordewdra ger mannau talu ac ar dudalen hafan gwefannau o'r flwyddyn nesaf ar ôl i Senedd Cymru gymeradwyo cynlluniau o drwch blewyn.
Nod y rheoliadau yw atal prynu'r bwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr yn fyrbwyll a'u gorfwyta er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r lefelau gordewdra sy'n codi yng Nghymru.
Yn dilyn y bleidlais yn y Senedd - gyda 25 o blaid a 24 yn erbyn - dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles bod y "rheoliadau hyn yn rhan allweddol o'n strategaeth i fynd i'r afael â'r broblem gordewdra sy'n gwaethygu yng Nghymru".
Ond dywedodd Mabon ap Gwynfor ar ran Plaid Cymru mai "hanner datrysiad" sydd gan Lywodraeth Cymru tra dywedodd James Evans ar ran y Ceidwadwyr mai "dwli" yw'r rheolau.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr amgylchedd ry' ni'n siopa ynddo yn dylanwadu'n sylweddol ar ein dewisiadau bwyd" meddai Jeremy Miles
Bydd Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu'r rheolau sydd eisoes ar waith yn Lloegr, yn gwneud y canlynol:
Cyfyngu ar hyrwyddo mewn ffordd sy'n gallu annog pobl i orfwyta, fel cynigion i brynu sawl eitem am bris llai ac i ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim;
Cyfyngu ar gyflwyno bwyd sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen yn y lleoliadau gwerthu gorau mewn siopau, fel wrth y fynedfa a'r mannau talu ac ar dudalen hafan gwefannau;
Eu gwneud yn berthnasol i fusnesau canolig a mawr sydd â 50 neu ragor o weithwyr.
Mae ymchwil yn dangos bod hyd at 83% o enghreifftiau o brynu ar sail cynnig arbennig yn digwydd pan fydd pobl wedi'u cymell yn sydyn i wneud hynny.
Yn ogystal, mae bron i hanner (43%) o'r cynnyrch bwyd a diod mewn lleoliadau amlwg mewn siopau yn hyrwyddo bwyd a diod llawn siwgr.
Ymateb cymysg - 'llawdrwm' ac 'annigonol'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ei fod yn "falch" bod y rheoliadau wedi'u cymeradwyo gan y Senedd, "gan y byddant yn cael effaith fawr ar iechyd ein cenedl am flynyddoedd i ddod".
Meddai: "Rydyn ni eisiau ei gwneud hi'n haws i bobl wneud dewisiadau iachach a byddwn ni'n cyflawni hyn drwy wella'r amgylchedd bwyd sydd o'u cwmpas nhw.
"Os allwn ni sicrhau bod bwyd a diod iachach ar gael yn haws, bod pobl yn gallu cael gafael arnyn nhw a'u bod yn fwy amlwg i bobl yn y siopau, bydd hyn yn cefnogi'n hymdrechion i leihau cyfraddau gordewdra a gwella iechyd y cyhoedd."
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
Ond yn ystod y ddadl yn y Senedd, dywedodd James Evans ar ran y Ceidwadwyr, "mae gordewdra yn fater gwirioneddol a chynyddol; does neb yn gwadu hynny".
"Ond nid y rheoliadau sy'n cael eu cynnig yma heddiw gan y llywodraeth yw'r ateb.
"Maent yn cynrychioli dull llawdrwm, o'r brig i lawr sydd mewn perygl o greu canlyniadau anfwriadol, yn enwedig i'r teuluoedd hynny sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd."
Rhybuddiodd mai effaith y rheoliadau fydd "gwthio cost siopa i deuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru i fyny, yn enwedig i'r rhai ar incwm is".
Dywedodd Mabon ap Gwynfor ar ran Plaid Cymru, "Y gwir ydy mai hanner datrysiad sydd yn cael ei gynnig yma heddiw, ac mae'n beryg, heb yr ystod gyfan o bolisïau, mai aflwyddiannus bydd rheoliadau fel yma."
"Mae'r pren, wrth gwrs, yn arf ddefnyddiol, ond mae'n rhaid cael moron - o gyfieithu term Saesneg - hefyd.
"Mae'r rheoliadau, felly, yn gwbl annigonol."
Gan gyfeirio at gynlluniau Plaid Cymru i wneud taliad uniongyrchol i blant, meddai, "dyma bolisi trawsnewidiol a fyddai'n gallu sicrhau bod plant yn cael mynediad at fwyd iach.
"Mae bwyd â lefelau uchel o halen, siwgr, braster ac yn y blaen yn rhatach na llawer o fwydydd iachach, ond does dim yma, yn y rheoliadau ger ein bron, i wneud bwyd iach yn rhatach."