Cyn-filwr 103 yn derbyn ei fedalau 80 mlynedd yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Basil Smith o Sir Gaerfyrddin wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol o 1941-1946.
Er hynny ni dderbyniodd unrhyw fedalau am ei flynyddoedd o wasanaeth.
Ac yntau bellach yn 103 oed cafodd y medalau eu cyflwyno iddo ddydd Llun mewn gwasanaeth yn Y Tymbl - bron i 80 mlynedd ar ôl gadael yr Awyrlu.
Dywedodd Basil ei fod yn teimlo’n “mor ifanc ag erioed".
“Wnes i erioed feddwl dim am gael unrhyw fedalau, doeddwn i ddim yn poeni am gael yr un ohonyn nhw,” meddai.
Gwasanaethodd Basil Smith o'r Tymbl Uchaf yn yr Awyrlu Brenhinol fel Sarjant yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gwasanaethodd yn Irac o 1943 ymlaen ac arhosodd yno am weddill y rhyfel.
Yn ddiweddar fe ddywedodd wrth ei gymydog, Lyndon Davies, nad oedd erioed wedi derbyn ei fedalau.
Fel cyn-filwr ei hun, cysylltodd Lyndon Davies â'r swyddfa fedalau sydd wedi dyfarnu medal rhyfel a medal amddiffyn iddo.
Gwasanaethodd Lyndon Davies yn y lluoedd arfog rhwng 2011-2022. Mae’n dweud ei bod hi’n bwysig i gyn-filwyr dderbyn eu medalau.
Meddai: “Yn enwedig i bobl yr Ail Ryfel Byd, mae lot o barch gyda fi atyn nhw. Onibai am y bobl yna efallai byddai’n bywydau ni wedi bod tipyn yn wahanol i beth yw e nawr.”
Wedi'i eni ym 1921, mae Mr Smith yn adnabyddus yn y gymuned ac wedi'i ddisgrifio fel tipyn o gymeriad.
Wrth annerch y gynulleidfa yn ystod y seremoni dywedodd nad oedd “erioed yn disgwyl gwasanaeth o’r fath".
"Syrpreis mawr" iddo oedd derbyn neges gan y Brenin yn diolch iddo am ei wasanaeth.
Soniodd Basil am ei amser yn gwasanaethu yn Irac ac yn teithio'r Dwyrain Canol.
“Roedden ni wedi ein lleoli tua 60 milltir allan yn yr anialwch. Byddwn yn hedfan mor aml ag y gallwn o Baghdad i Cairo yn cario offer ac yn y blaen.”
Yn chwaraewr tennis brwd byddai bob amser yn ceisio chwarae gêm yn Irac.
“Byddwn i’n chwarae am 06:00, erbyn 20:00 roedd hi dros 80 gradd, a doeddech chi ddim yn gallu chwarae.”
Tan y llynedd roedd yn chwarae tennis yn Abertawe ddwywaith yr wythnos.
Doedd Basil Smith ddim yn chwennych yr un sylw cyhoeddus meddai ei gymydog, Lyndon Davies.
“Oedd e’n ddigon parod i gael nhw trwy’r post a rhywun i roi nhw iddo fe’n dawel yn y tŷ.
"Ond o’n i’n meddwl bod e’n haeddu rhwybeth gwell na hynna gan ei fod 'di aros mor hir i gael nhw.
“Ar ôl yr holl amser hwn ac wrth ystyried oedran anhygoel Mr Smith, mae’n anhygoel y bydd nawr yn derbyn y medalau y mae’n eu haeddu am ei wasanaeth i’n gwlad,” ychwanegodd.